Don't wanna be here? Send us removal request.
Text
Harbwr Caergybi

Mae porthladd Caergybi yn taflu ei gysgod dros y cylch, ac wedi gwneud hynny am ganrifoedd, oherwydd dyma'r fynedfa i Iwerddon. Fel Tywysog Cymru, agorodd Edward VII y harbwr newydd yng Nghaergybi ym 1873, ac eto ym 1880 pan gwblhawyd estyniad i’r harbwr. Er nad oes cofnodion penodol o ymweliadau Edward VII ag harbyrau eraill yn Sir Fôn, mae ei ymweliadau â Chaergybi yn dangos ei gefnogaeth i ddatblygiad o’r fath yng Nghymru.
Ymwelodd Siôr IV â'r dref ar ei daith i Iwerddon ym mis Awst 1821 oherwydd storm a thra'n angori clywodd am farwolaeth ei wraig, Caroline o Frunswick. Nid oedd y ddau yn ffrindiau a mawr fu'r llawenhau ar fwrdd y llong y noson honno. I goffau'r ymweliad codwyd Bwa Sior IV sydd i'w weld yn yr harbwr. Gelwir y bwa hefyd yn Fwa’r Buddugoliaeth neu Admiralty Arch ac fe’i hadeiladwyd â marmor o Fae Traeth Coch, Ynys Môn. Fe’i hariannwyd trwy danysgrifiad cyhoeddus ac mae’n nodi terfyn gogleddol ffordd yr A5, a gafodd ei gwella’n fawr gan Thomas Telford. Cwblhawyd rhan fwyaf gogleddol o’r ffordd, i mewn i Gaergybi, ym 1823. Gellir ystyried bod y bwa yn ategu Marble Arch Llundain, a adeiladwyd ym 1828 ac a symudwyd i’w leoliad presennol ym mhen deheuol yr A5 yn y 1850au. Addas iawn gan fod yr A5 bellach yn cychwyn wrth y bwa yn Llundain ac yn cyrraedd pen ei thaith wrth y bwa yng Nghaergybi.

3 notes
·
View notes
Text
Midsummer Nights Dream; HandleBards
17/7/24 Mae pedwar o gariadon ifanc yn mynd i freichiau breuddwydiol coedwig hudolus yn llawn ysbrydion, lle mae Brenin a Brenhines y Tylwyth Teg mewn rhyfel â’i gilydd. Mae grŵp o actorion amatur hefyd yn rhannu'r un goedwig lle maen nhw'n ymarfer ar gyfer drama. Mae’r tylwyth teg a’r bodau dynol yn gwrthdaro. A doniolwch yn dilyn.
Mae arddull HandleBards yn cynnig pentwr afreolus o egni, cryn dipyn o anhrefn, a llawer iawn o chwerthin.

0 notes
Text

Comedy of Errors
The Globe, haf 2023. Stori dwy bâr o efeilliaid yn union yr unfath wedi'u gwahanu adeg eu geni. Mae'n dechrau gyda chwifio baneri cenedlaetholgar a dienyddio, pen dyn yn cael ei ddal i fyny, wrth i Egeon, (Paul Rider) sydd newydd lanio er mwyn chwilio am ei feibion, gael ei garcharu yn Ephesus gan Ddug Ephesus (Philip Cumbus). Cyfarwyddwr Sean Holmes. Daw gwisgoedd Elisabethaidd gwych ac eglurder testunol i'r amlwg: mae pob pwynt plot yn fflachio heibio mewn streipen o neon. Ddim yn anodd pan fo'r ddau Dromios yn wyrdd pys. Gyda dyluniad set a gwisgoedd hyfryd gan Paul Wills, a thestun heb ddiweddiadau wedi'u torri i ffwrdd, wedi'i gyflwyno'n glir gydag ystum manwl, mae hwn yn ffars ddifrifol; tywyll a doniol iawn yr un pryd.
0 notes
Text
Shakespeare North Playhouse

Mae Love's Labour's Lost yn dilyn y sgript wreiddiol (mwy neu lai). Mae'r cynhyrchiad yn ddehongliad modern doniol o'r hen stori wedi’i lleoli yn Ibiza yn y 90au. Mae'r wyth actor amryddawn yn bleser i'w gwylio. Mae hyder cyfunol yn amlwg yn y cynhyrchiad beiddgar gwahanol hwn sy'n lliwgar, bywiog a chyfoes. Mae'n ddarn ensemble gyda lefelau egni uchel a'r coreograffi a'r gerddoriaeth yn byrlymu drwyddo draw.

0 notes
Text
Llanw Mawr
Mae uchder y llanw yn gysylltiedig a gweddau'r leuad. Bydd y penllanwau uchaf yn digwydd yn union wedi lleuad newydd a lleuad lawn ac fe'u gelwir yn Llanwau Mawr, tra bo'r penllanwau isaf yn cael eu galw'n Lanwau Isel. Mae'r diagram yn dangos y patrwm dros gynod o bythefnos. Bydd amseriad y penllanw'n symud ymlaen tua 50 munud bob dirnod. Yn yr ardal yma, bydd y Llanwau Mawr yn digwydd am hanner nos a hanner dydd bob amser a Llanwau Isel yn digwydd am 0600 awr a 1800 awr. Yn ystod Cyhydnosau'r Gwanwyn ar Hydref, ym mis Mawrth a mis Medi, byddwn yn cael Llanwau Mawr eithriadol o uchel. Ar unhyw adeg yn ystod y cylch gall uchder y llanw gael ei effeithio gan wyntoedd cryfion neu bwysedd awyr isel.

1 note
·
View note
Text
Aeron a blodau
Hawthorn, Draenen wen, Aeron coch. Deilio cyn iddo flodeuo (Ebrill - Mehefin).

Blackthorn, Draenen ddu, Aeron du (sloes). Blodau (Mawrth - Mehefin) cyn dail.

0 notes
Text
Y ddraig goch- beth yw’r hanes?

Gwrtheyrn a'r Dreigiau
Daw’r llun o lawysgrif o’r bymthegfed ganrif sy’n cynnwys ‘Brut y Brenhinedd’ gan Sieffre o Fynwy, a ysgrifennwyd ar ddechrau’r 12fed ganrif. Mae'r rhan hon yn adrodd hanes y ddwy ddraig y bu eu hymladd yn dymchwel castell Gwrtheyrn. Mae Myrddin yn dehongli'r Ddraig Goch fel un sy'n cynrychioli'r Brythoniaid ac roedd y Ddraig Wen yn cynrychioli'r Sacsoniaid. Mae’n fersiwn o’r stori o’r 9fed ganrif sydd wedi’i chynnwys yn y ‘Historia Brittonum’, ond yn y fersiwn gynharach hon, y proffwyd yw Ambrosius. Mabwysiadwyd y Ddraig Goch hon gan Owain Tudur fel ei fathodyn a'i defnyddio gan Harri Tudur ar ei faner yn Bosworth. O hyn ymlaen, fe’i dynodwyd yn un o Fwystfilod y Brenin, a gafodd ei gydnabod yn swyddogol yn y pen draw fel baner Cymru yn y 1950au.

5 notes
·
View notes
Text

When the ones defending that Basque is a tribal, tiny language almost no one speaks discover it has twice the speakers than Icelandic.
149 notes
·
View notes
Text
Croes Eliseg
Mae Croes Eliseg neu Golofn Eliseg yn golofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Saif yn agos i Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen, Sir Ddinbych. Credir mai camgymeriad ar ran y cerfiwr oedd cerfio "Eliseg" yn lle "Elisedd".


Trevor Lloyd, the landowner in 1773 is said to have conducted an examination and found a stone cist burial in which he claimed to have found a skeleton and artefacts, which he removed. The mound which supports the pillar was subjected to excavation in the years 2010, 2011 and 2012 by Project Eliseg. This established that the earliest phase of construction was that of a kerbed platform cairn, dated by type to around 2000 BC. A small cist in the first phase of construction yielded evidence of burnt human bone, confirming its use as a burial site. The second phase of construction consisted of a raising in height of the cairn and contained a large cist considered as Early Bronze Age, however, no human remains were found. A further cist was found in this phase which contained some 7 kg of cremated bone, which represents numerous adult, juvenile and infant burials. A flint knife and a bone pin were also recovered. The final phase of construction appeared to be relatively modern and probably subsequent to the re-erection of the cross.
0 notes
Text
Bedd John Charles Jones (m.1956)

Un arall a gafodd ei gladdu ar Ynys Tysilio yw Esgob J C Jones, ei enw erbyn y diwedd. Ganed yn Llansaint, Sir Gaerfyrddin yn 1904. Aeth i Ysgol Rammadeg Caerfyrddin ac ymlaen i Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caergrawnt lle cafodd raddau dosbarth cyntaf yn Hebraeg a Diwinyddiaeth. Ordeiniwyd diacon flwyddyn yn ddiweddarach gan Esgob Ty Ddewi. A year later, he was ordained deacon by the Bishop of St Davids in 1929. After becoming a priest in 1930, he was curate in Llanelli and later Aberystwyth.
In 1934 he moved to Africa to teach theology at Bishop Tucker Memorial College in Mukono, Uganda. From 1939-45 he was the college’s warden and sole administrator. His wife Mary, a nurse, assisted him in his missionary work, which included setting up education facilities for the wives of Ugandan clergymen.
John Charles became vicar of Llanelli in 1945. His enthronement ceremony as Bishop of Bangor in 1949 was the first to be performed in Welsh. In the following year he led more than 4,000 people on a pilgrimage to Aberdaron, following a route which many early Christians had travelled in order to cross the water to Bardsey Island. After his death in Bangor on 13 October 1956, the Bishop John Charles Jones Memorial Fund was established to educate and train candidates for ordination in Africa, in Uganda especially.
0 notes
Text
Te oer yw’r tebot arian,
Lliain fwrdd fel llyn y fan.
Cwpled cyntaf yr awdl fuddugol.
0 notes
Text
Bedd John Evans, Y Bardd Cocos

Mynwent Ynys Dysilio. Cafodd John Evans ei eni ym Mhorthaethwy yn y 1820au. Nid oedd yn gwybod pryd yn union y cafodd ei eni, ond yn ôl ei garreg fedd roedd yn 65 mlwydd oed pan fu farw ym Medi 1888.
Roedd yn enwog fel awdur cerddi a gafodd eu dilorni. Roedd yn argyhoeddedig, fodd bynnag, eu bod yn weithiau dwys. Cafodd ei adnabod fel Y Bardd Cocos oherwydd ei fod yn ennill ei fywoliaeth yn bennaf trwy werthu cocos. Roedd hefyd yn gwerthu rhai o’i gerddi wedi’u hargraffu ar daflenni un geiniog.
Mae ei gerdd enwocaf yn disgrifio’r llewod carreg ar bob pen i Bont Britannia:
Pedwar llew tew heb ddim blew,
Dau yr ochr yma, daw yr ochr drew.
Mae’r deyrnged hon i fynydd uchaf Cymru yn nodweddiadol o'i waith:
Mae y Wyddfa’n fynydd hynod o fawr,
Yn uwch ar y top nag a yw ar y llawr.
Bu'n byw ym Mhenyclip, fferm ger Ffordd Penclip (Druid Road). Credir mai bwthyn gweithwyr fferm oedd ei gartref, bellach yn rhan o dŷ o'r enw Ael y Bryn.
0 notes
Text
Bedd Catherine a Catherine Jones
Mynwent Ynys Dysilio. Dyma fedd dwy fu’n drigolion ar Ynys Gorad Goch, a oedd yn enwog am drapiau pysgod. Bu farw’r Catherine Jones gyntaf yn 1865, yn 81 mlwydd oed. Bu farw’r ail un yn 1924, 73 oed, ac erbyn hynny yn byw yn Market Street, Caernarfon.
Enw’r ynys yn y Canol Oesoedd oedd Ynys Gored Madog Goch. Roedd hawl am y pysgod a ddaliwyd yma gan esgobion Bangor. Bu’r teulu Madoc yn byw fan hyn am sawl cenhedlaeth. Daeth yr ynys yn ‘Ynys Gorad Goch’. David Lloyd George, Chancellor of the Exchequer, visited Gorad Goch in 1910 for a whitebait dinner.

0 notes
Text
Bedd Thomas Hughes
Mynwent Ynys Dysilio. Cyn iddo farw yn 1890, bu Thomas Hughes yn un o’r masnachwyr mwyaf hirhoedlog yn yr ardal. Bu’n ddilledydd yn y dref am 43 o flynyddoedd. Yn ôl y sôn, Thomas Hughes gafodd y syniad o ymestyn enw Llanfair Pwllgwyngyll er mwyn creu’r enw hiraf yn Ewrop a denu ymwelwyr. Roedd yn byw uwchben ei siop, Oxford House, Porthaethwy. Bu farw yno, 64 mlwydd oed, wedi mis o waeledd.


#menai bridge#menai straits#church island#ynys tysilio#llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch
0 notes
Text
Gŵyl Fihangel
Haf bach Mihangel Indian Summer
Braenar Mihangel Autumn fallow, Autumn ploughing for one crop
Un o'r 4 Diwrnod Chwarter traddodiadol;
Mawrth 25, Mehefin 24, Medi 29 (Gwyl Fihangel), Rhagfyr 25
In British and Irish tradition, the quarter days were the four dates in each year on which servants were hired, school terms started, and rents were due. They fell on four religious festivals roughly three months apart and close to the two solstices and two equinoxes.
Lady Day (25 March) Annunciation
Midsummer Day (24 June)
Michaelmas (29 September) St Michael's Day (Archangel)
Christmas (25 December)
Eglwysi Mihangel
Llanfihangel Dinsylwy
Llanfihangel Tre'r Beirdd
Llanfihangel Genau'r Glyn
Llanfihangel Glyn Myfyr
Llanfihangel Tal-y-llyn
Llanfihangel Troddi
Llanfihangel yng Ngwynfa
Llanfihangel y Pennant
0 notes
Text
“Yr ydoedd ym mhob gobant Ellyllon mingeimion gant. There was in every hollow A hundred wrymouthed elves.”
— Dafydd ap Gwilym, 1340
27 notes
·
View notes
Text
Locronan

Pentref bach hudolus, cyniweiriol a chwbl ddiollwng. Yn ei gyfnodau tawel yn ystod misoedd y gaeaf nid oes iddo boblogaeth o lawer mwy nag wythgant er bod dwbl drebal na hynny yn heidio iddo yn yr haf. Daw Loc- o’r Lladin Locus; yn ôl pob tebyg am ‘fan cysegredig’; yn yr achos hwn, man cysegredig Ronan, y sant o Wyddel o’r seithfed ganrif y gorffwys ei weddillion yn Eglwys Le Pénity gerllaw.
Bu’r pentref yn enwog am gynhyrchu lliain hwyliau; heddiw, mae’n fwy adnabyddus am ei ŵyl mabsant, y Grande Troménie a’r orymdaith hir a gynhelir yno’n selog bob chwe blynedd. Lluestwyd y noson honno yng ngwesty Le Prieuré, er nad cyfleusterau moel a hunanymwadol yr asgetig oedd yn ein hanes yn y priordy hwnnw eithr moethusrwydd cymharol y gwesty serenog.
1 note
·
View note