Don't wanna be here? Send us removal request.
Photo
Ti ffaelu newid lle ŷt ti nawr
Ti ffaelu newid beth sy da ti
Ond os wnei di’r hyn elli di nawr, sdim dal ble fyddi di fory, na beth fydd ‘da ti!
A beth fydd yn bosib wedyn?

Start anyway…
230 notes
·
View notes
Text
Canlyniadau II
“Beth yw’r canlyniad penodol mesuradwy” - Tony Robbins
Ro’n i mas ar y beic bore ma. Gwelais i fan gosodwr briciau ar yr heol, a dechreuais i feddwl.
Beth yw canlyniad gwaith brici?
Wal frics, mae’n siwr!
Ond:
Ai’r wal frics *yw* canyliad y brici? Neu ai hyn a hyn o waliau brics er mwyn ennill hyn a hyn o arian i roi bwyd ar y ford?
Ai wal frics yw’r canlyniad, neu rwystr sydd yn cadw ei deulu’n sâff tra’n gwneud blaen ei dŷ yn bert?
Ai wal frics yw’r canlyniad, neu banel o waith bric cain er mwyn denu mwy o gwsmeriaid fydd yn talu mwy am ei waith?
Gall unrhyw un o’r canlyniadau hyn fod yn wir ar adegau gwahanol, ac ar gyfer pob un canlyniad mae set gwahanol o weithrediadau, o ran yr amser bydd y gwaith yn cymryd, o ran ansawdd y defnyddiau, o ran pwysigrwydd y cynllunio a’r paratoadau.
Ac os taw denu mwy o waith pris uchel yw’r canlyniad, efallai bydd ein brici yn troi lawr gwaith bwyd-ar-y-ford er mwyn cael gwell lif gwaith yn y dyfodol.
Os yw’r brici am fynd heb fwyd heddi er mwyn cael digonedd o fwyd fory, bydd rhaid iddo wybod yn iawn beth yw’r cynllun, beth yw’r freuddwyd, beth yw’r canlyniad, er mwyn iddo fod yn gyfforddus yn ei groen ei hunan, hyd yn oed - neu efallai yn enwedig - pan mae ei gyd-weithwyr yn chwerthin am ei ben, a'i deulu yn gofyn iddo pam mae e'n “gwastraffu ei amser”.
Fel y brici, os ydyn ni am greu rhywbeth, newid rhywbeth, neu gyflawni rhywbeth arbennig, mae'n bosib iawn y bydd y byd yn trio'n gwyro oddi ar ein llwybr. Os wyt ti'n gwybod dy ganlyniad, neu yn hytrach, yn ei adnabod yn dda, byddi di'n gwybod yn gwmws ble mae dy anel di.
Dyna sut mae cyrraedd y nod.
0 notes
Text
Lwc
Mwya caled dwi’n gweithio, mwyaf o lwc sydd i’w weld yn dod fy ffordd i - Thomas Jefferson
Mae lwc yn beth anodd iawn i adnabod.
Mae rhywun sydd yn llwyddo yn rhwym o weld ei lwyddiant fel canlyniad anochel o’i waith caled. Mae rhywun sydd yn ffaelu felly, heb wneud yr un gwaith caled, ac yn ffaelu’n haeddiannol. Clywn ni’r ddadl yna trwy’r amser yn y wasg.
Mae rhywun sydd heb lwyddo, er ei waith caled, yn rhwym o chwilio am resymau tu hwnt iddo fe ei hunan am ei fethaint, a diffyg lwc yw’r peth hawsaf i weld.
Ac wrth gwrs, anodd iawn yw gweld ai lwc ai gwaith caled, neu gyfuniad o’r ddau, sydd i gyfri.
Yn bersonol, rwy’n meddwl bod rhaid wrth lwc weithiau - digwydd cwrdd â pherson arbennig ar yr adeg tyngedfennol, neu rhyw ddigwyddiad sydd yn arwain at benderfyniad sydd yn newid cwrs llwyddiant.
Ond un peth sydd yn glir i fi: pan ddaw’r lwc, y person sydd wedi bod yn gweithio, yn paratoi, yn tyfu, yn chwilio, sydd yn manteisio arno.
Dim ond yr hyn r’yn ni’n ei reoli gallwn ni newid, a dyw lwc ddim yn un o’r pethau hynny.
Hynny yw mae’n bosib i ni wneud popeth o fewn ein gallu, a’r gwaith hynny’n ofer trwy ddiffyg lwc.
Ond heb wneud y gwaith a’r paratoi, yna ofer bydd pob lwc.
0 notes
Text
Canlyniadau
Beth yw dy ganlyniad? - Tony Robbins
Dyma gwestiwn sy wedi gwneud gwahaniaeth anferth i ngwaith i yn ddiweddar.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gôl a chanlyniad? Yn syml, dim ond rhai gweithgareddau sydd yn arwain at goliau. Ond mae canlyniad i bob gweithgaredd.
Os wyt ti’n meddwl am pa ganlyniad sydd ei eisiau cyn dechrau ar unrhyw weithgaredd, byddi di yn cynyddu dy effeithlonrwydd 100%.
Mynychu cyfarfod? Beth yw’r canlyniad ŷt ti’n moyn?
Ysgrifennu adroddiad? Beth yw’r canlyniad ŷt ti’n moyn?
Dechrau ar raglen ffitrwydd? Beth yw’r canlyniad ŷt ti’n moyn?
Diwrnod off i ymlacio? Beth yw’r canlyniad ŷt ti’n moyn?
Pan dwi’n gwybod y canlyniad dwi’n moyn gweld, galla’i addasu fy ngwaith, fy amser, fy ffocws, i sicrhau mod i wastad yn gweithio tuag at y canlyniadau hynny.
Galla’i sicrhau nag ydw i yn cwrso sgwarnogod - ac rydw i yn un sydd yn joio cwrso sgwarnogod! - yn lle defnyddio fy egni yn cyflawni’r goliau pwysig.
Yn bwysicaf oll, os ydw i’n gofyn canlyniad pob weithgaredd galla’i gyfyngu ar, a hyd yn oed osgoi, y gweithgareddau - hyd yn oed rhai byddai’n llesol yn eu ffordd nhw eu hunain - sydd ddim yn arwain at y canlyniad dwi’n moyn.
0 notes
Text
Gwastraffu amser
Os ŷch chi'n caru bywyd, paid gwastraffu amser, oherwydd amser sydd yn gwneud bywyd – Bruce Lee
Mae amser yn gallu bod yn beth anodd i’w ddeall a’i drin.
Rwy’n ffan mawr o Tony Robins ac yn enwedig o’i syniadau e ynglŷn ag amser. Os wyt ti'n gwneud rhywbeth diflas, mae amser yn gallu para'n hir, ond o wneud rhywbeth diddorol, bod yn y llif, wedi llwyr ymdoddi yn yr hyn rwyt ti'n gwneud, dyw amser fel ‘sai hi ddim yn bod.
Felly nid llinyn yw amser, ond mesur o ffocws.
Mae Robin Sharma yntau yn cytuno wrth ddweud “Paid rheoli dy amser, rheola dy ffocws”.
I fi, felly, hanfod amser, a gwastraffu amser yw hyn: Os wyt ti'n treulio amser yn ddiffocws, yn symud ar hap o un peth i'r nesaf, heb ddiben, mae hynny'n wastraff.
Wedi dweud hynny, mae angen amser hamddena ar bawb, a phaid dibrisio'r amser rwyt ti'n penderfynu gwneud dim ynddo. Ond os penderfynu, yna nid peth ar hap, heb ddiben yw'r dewis i hamddena.
Felly hanfod gwastraff yw gwneud pethau heb fwriad, gwneud pethau diddim yn ddifeddwl.
Ond hefyd, mae’n wastraff amser trio gweithio heb fwriad, yn awtomatig, yn ewnedig pan mae dy egni a dy greadigrwydd yn isel.
Dewisa hamddena. Dewisa weithio. Dewisa wneud gwahaniaeth. A dewisa'r cyd-bwysedd rhyngddyn nhw i siwtio ti dy hunan, ac i siwtio'r hyn rwyt ti am ei wneud gyda dy fywyd.
0 notes
Text
Traed brwnt
Fydda i ddim yn gadael i neb gerdded drwy fy meddwl gyda’u traed brwnt - Mahatma Gandhi
Sawl un ohonon ni sydd yn dewis darllen y sylwadau ar waelod erthygl papur newydd neu flog, neu yn dewis treulio amser ar Twitter yn dadlau gyda, neu jest yn rhyfeddu at dwpdra pobl sydd ddim yn ei deall hi o gwbl? Yn sicr mae’n llaw i lan!
Noder - dewis.
A thrwy adael i’n hunain gael ein gwylltio neu ein tristhau, sawl un ohonon ni sydd yn treulio munudau ac oriau o’n hamser gwerthfawr yn dadlau neu yn ceisio darbwyllo rhywun i weld ein safbwynt ni, i weld y gwirionedd? Daro, mae’n llaw i lan eto!
Mae lle i wrando ar bobl gyda safbwyntiau gwahanol, oes, ac mae lle i drafod gyda phobl a phrofi ein daliadau ni yn erbyn eu daliadau nhw. Fel arall, bydden ni yn byw mewn siambr atsain, ac yn datblygu credoau digon ymylol ac eithafol.
Ond os wyt ti’n defnyddio amser y gallet ti fod yn defnyddio yn fwy creadigol, yn fwy cynhyrchiol; Neu yn waeth fyth, os wyt ti’n caniatau i’r bobl yma fynd o dan dy groen; Yna, mae eu traed brwnt nhw yn gadael olion brwnt trwy dy feddwl, trwy dy fywyd. Mae eu traed brwnt nhw wedi effeithio arnat ti trwy leihau dy impact ar y pethau sydd yn bwysig i ti.
Dewis. Dewis y gwahaniaeth yr wyt ti am ei wneud yn y byd, a phaid ti â gadael i draed brwnt neb arall dy arafu di!
0 notes
Text
Gwneud
Efallai na fyddi di byth yn gwybod canlyniadau dy weithredoedd, ond os na wnei di ddim byd, fydd dim canlyniad. - Mahatma Gandhi
Rwy'n wael iawn am feddwl am bethau i'w gwneud, ond becso gymaint am eu gwneud nhw'n berffaith wedyn nag ydw i'n eu gwneud nhw o gwbl. Dim ond yn ddiweddar iawn ydw i wedi dechrau gwella o'r anhwylder arbennig yma!
Pen draw becso am bethau gormod yw naill ai gwneud dim, neu wneud jobyn sâl dan bwysau pan mae amser yn mynd yn drech na ti, a'r peth yn gorfod cael ei wneud.
Ond beth os wyt ti'n gwneud rhywbeth o'i le, ac yn difetha pethau mewn rhyw ffordd?
Ond edrycha arni o’r cyfeiriad arall: Os na wnei di drio dy orau glas i wneud yr hyn sydd eisiau er mwyn gweld newid, bydd y peth sydd angen ei newid yn aros yr un peth.
Rhith yw y rhan fwyaf o'n hofnau ynglŷn â chanlyniadau ein gweithredoedd, ta beth. Os ei di i'r arfer o weithredu - nid yn wyllt, ond cyn gynted ag sy'n ymarferol - weli di yn gyntaf nad yw pethau yn mynd o'i le yn aml iawn, ac yn ail, pan ydyn nhw'n mynd o'i le, mae modd eu hachub nhw.
Ac wrth wneud y pethau sydd yn arwain at newid, hyd yn oed os nad yw'r weithred yn llwyddianus, rwyt ti'n symyblu dy hunan i weud mwy.
Yn fwy pwysig, efallai, rwyt ti’n ysbrydoli eraill i ddilyn, ac i weithredu eu hunain.
Fel mae Robin Sharma yn hoff o ddweud, breuddwydia'n fawr, dechreua'n fach, ond dechreua nawr!
0 notes
Text
Pwy sydd yn arwain?
“Os wyt ti'n gwneud pethau sydd yn ysgogi eraill i freuddwydio mwy, i ddysgu mwy, i wneud mwy ac i fod yn fwy, yna arweinydd wyt ti.” John Quincy Adams
Pwy yw ein harweinwyr ni yng Nghymru? Pwy sydd yn dewis ein dyfodol fel pobl, fel cenedl? Wel, chi, sydd yn darllen hwn. Yn fwy arbennig, ti sydd yn darllen y geiriau yma nawr.
Un o ddiffiniadau gorau “arweinydd” yw'r dyfyniad uchod John Quincy Adams, 6ed arlywydd Unol Daleithiau America.
Cymer eiliad i feddwl i ti dy hunan, wyt ti'n ysgogi eraill i freuddwydio, i ddysgu, i wneud ac i dyfu? Efallai yn bwysicach, a wyt ti'n ceisio dy hunan i freuddwydio, i ddysgu, i wneud ac i dyfu? Ac os na, pam ddim?
Oherwydd, dyna sydd, a dyna fydd yn dewis dy ddyfodol di fel unigolyn, a'n dyfodol ni fel cenedl, sef sut ydyn ni'r Cymry yn meddwl amdanon ni ein hunian, ac am ein cyd-Gymry.
Mae person sydd ddim yn tyfu eisioes yn marw, ac mae cenedl o bobl sydd wrthi'n marw yn farw ei hunan.
Ond i'r gwrthwyneb, bydd person sydd yn mynnu tyfu, yn mynnu dysgu, yn mynnu byw, yn arwain ei hunan at lwyddiant a chyfoeth – nid cyfoeth ariannol, o bosib, ond cyfoeth o brofiad, o gynnwrf, o dwf personol, y cyfoeth a ddaw o gyrraedd y nod, o gyrraedd potensial.
P'un wyt ti? I ba gyfeiriad wyt ti'n arwain dy hunan? Neu wyt ti wedi gadael i fywyd dy arwain di i ba gyfeiriad y myn?
0 notes