Tumgik
Text
Yr Enillwyr yn yr Eisteddfod
Dyma restr yr enillwyr yn Eisteddfod Gŵyl Dewi y Gymdeithas eleni. Noddwyd yr eisteddfod gan Cyngor Sir Ceredigion a Llenyddiaeth Cymru. Mae’r Gymdeithas yn dra diolchgar iddynt am eu cefnogaeth.
Cadair Goffa Pat Neill: Philippa Gibson, Pontgarreg
Cystadlaethau eraill
Englyn: Martin Huws, Ffynnon Taf
Englyn Ysgafn: Nia Llewelyn, Llandysul
Telyneg: Martin Huws
Cywydd: Philippa Gibson
Cân Ysgafn: John Meurig Edwards, Aberhonddu
Parodi: Iwan Thomas
Trydargerdd: John Meurig Edwards
Dyddiadur: Tesni Peers, Bangor
Ysgrif / Stori Fer: Sioned Howells, Pencader
Erthygl Papur Bro: Barbara Roberts, Aberaeron
Cân Werin /Baled: John Richard Williams, Llangefni
Barddoniaeth Siaradwyr Newydd: Jane Trevelyan, Tywyn
Enillydd y Gadair Her: Martin Huws (am y gerdd orau ar wahân i gerdd y Gadair)
Cwpan Ben Owen: Meleri Willams, Machynlleth (am y darn gorau o ryddiaith)
1 note · View note
Text
Cyfarfod Nesaf
Byddwn ni’n cwrdd wyneb-yn-wyneb nos Sadwrn nesaf 5 Chwefror am 7:30 yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes pan fydd Meinir Heulyn yn rhoi cyflwyniad ar y testun
Caneuon gwerin ar gyfer y delyn
Bydd Meinir yn dod â’i thelyn!
0 notes
Text
Cyfarfod Cymdeithas Ceredigion
Yn anffodus, oherwydd y Cofid, mae'r Plygain oedd i fod i gael ei gynnal ar 9 Ionawr wedi'i ganslo. In ei le:
Nos Sadwrn 8 Ionawr am 7:30 ar Zoom.
Sgwrs a lluniau ar 'Arwyddocâd Amryw Adar Cymru: Newidiadau dros y Canrifoedd' gan Howard Williams, yn seiliedig ar rannau o’i draethawd Ph.D., 'Adar yng Ngwaith y Cywyddwyr'.
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae cyfarwyddiadau ar sut i ymuno yn y cyfarfod isod.
I ddod i’r cyfarfod, tua 7.25,
Cliciwch ar y ddolen yma https://zoom.us/j/290123238 i fod yn rhan o’r cyfarfod. Does dim angen cyfrinair. (Y ‘Meeting ID’ yw 290 123 238 ond ni fydd angen hwnnw os gallwch roi clic ar y ddolen uchod))
Yna dylech chi weld y geiriau hyn ar y sgrin: ’Please wait for the host to start the meeting. Cyfle i Gwrdd’ NEU ‘Please wait, the meeting host will let you in soon. Cyfle i Gwrdd’
Arhoswch am ychydig, ac wedyn byddwch yn y cyfarfod.
Ffoniwch Philippa os bydd unrhyw broblem: 01239 654561 // 07787 197 630
1 note · View note
Text
Tumblr media
0 notes
Text
EIN CYFARFOD NESAF: CAFFI EMLYN NOS SADWRN 6 TACHWEDD 7:30
Bydd ein gwestai, yr arlunydd Meinir Mathias, yn cael ei holi gan Robyn Tomos ac yn arddangos peth o’i gwaith sy’n archwilio syniadau sy’n ymwneud â chof diwylliannol, hanes, tir a phobl. Mae hi’n gweithio o’i stiwdio leol a hefyd yn darlithio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. Mae Meinir newydd ennill ‘Gwobr y Bobl’ yr Academi Frenhinol Gymreig.
0 notes
Text
CYFARFOD NOS SADWRN 2 HYDREF AM 7:30: CAFFI EMLYN
Yn ein hail gyfarfod ar 2 Hydref am 7:30 yn y caffi fe fydd Gwyn Jenkins (Tal-y-bont) yn sgwrsio ar y tesun:
Ymateb Pobl Ceredigion i’r Rhyfel Byd Cyntaf
Llyfr diweddaraf yr awdur yw A Welsh County at War: essays on Ceredigion at the time of the First World War. Yn y llyfr mae Gwyn yn darlunio effaith y Rhyfel Mawr ar fywydau bob dydd pobl y Sir, eu daliadau a’u gweithredoedd, a hynny ar sail ymchwil hanesyddol fanwl.
Croeso cynnes i bawb.
__________
Am fod yr haint yn dal o gwmpas gofynnir i chi:
peidio â dod (wrth gwrs) os oes symptomau arnoch neu os ydych wedi cael cyngor swyddogol i hunan-ynysu
ac os ydych yn bwriadu bod yn y Caffi
- sicrhau eich bod wedi cael y ddau frechiad
- gwisgo mwgwd os nad oes ’da chi resymau cryf am beidio
- cadw pellter cymdeithasol rhesymol (fe fydd digon o le rhwng y cadeiriau ta beth)
0 notes
Text
RHAGLEN 2021 - 2022
Y cyfarfodydd i'w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, ar Nos Sadwrn gan ddechrau am 7.30 yr hwyr oni nodir yn wahanol
2021
4 Medi
Trafod Cyfansoddiadau yr Eisteddfod Amgen 2021
Cadeirydd: Y Prifardd Ceri Wyn
(i ddechrau am 7.00 yr hwyr)
2 Hydref
Gwyn Jenkins
Ymateb Pobl Ceredigion i’r Rhyfel Byd Cyntaf
6 Tachwedd
Cyflwyniad gan Meinir Mathias
4 Rhagfyr
Cyflwyniad gan Gwenith Owen (“Eddie Ladd”)
Mins Peis
2022
9 Ionawr, nos Sul
Gwasanaeth y Plygain, Eglwys y Santes Fair, Aberteifi
(i ddechrau am 7.00 yr hwyr)
5 Chwefror
Meinir Heulyn
Caneuon gwerin ar gyfer y delyn
5 Mawrth
Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi
Beirniad: Y Prifardd Aneirin Karadog
(i ddechrau am 7:00 yr hwyr)
Gw. rhestr y testunau ar wahân.
2 Ebrill
Cyfarfod Cyffredinol, trosglwyddo’r llywyddiaeth ac wedyn [cyflwyniad i’w drefnu]
(i ddechrau am 7:00 yr hwyr)
7 Mai
Dathlu’r gwanwyn yng nghwmni pobol ifanc
0 notes
Text
EISTEDDFOD CYMDEITHAS CEREDIGION
5 MAWRTH 2022: CAFFI EMLYN: AM 7:00 y.h.
Beirniad: Y Prifardd Aneirin Karadog
Mae’r holl gystadlaethau yn agored i’r cyhoedd
TESTUNAU
Cadair Goffa Pat Neill: Awdl mewn cynghanedd gyflawn – Tyfu (heb fod dros 40 o linellau) a hefyd:-
1. Englyn: Cymydog
2. Englyn Ysgafn: Dirwy
3. Telyneg: Trwy Gil y Drws
4. Cywydd am le sy’n arbennig i chi (hyd at 18 o linellau)
5. Cân Ysgafn: Pwyllgora (hyd at 20 o linellau)
6. Parodi: Fflat Huw Puw
7. Trydargerdd: (cerdd gaeth neu rydd fel neges Twitter hyd at 280 o nodau) yn cynnig polisi newydd i unrhyw blaid
8. Dyddiadur sy’n ymestyn dros gyfnod o flwyddyn i gynnwys llinyn storîol cryf (hyd at 1,500 o eiriau)
9. Ysgrif neu Stori Fer agored ond ag elfen o ddirgelwch ynddi (hyd at 1,500 o eiriau)
10. Erthygl ar gyfer Papur Bro: Datguddio hanesyn lleol sy’n haeddu mwy o sylw (hyd at 1,000 o eiriau)
11. Cyfansoddi Cân Werin neu Faled (seiliedig ar rhyw ddigwyddiad neu gyfyngedig i ryw gyfnod /flwyddyn: Y Flwyddyn a Fu
12. Cystadleuaeth i siaradwyr newydd: Cerdd neu ryddiaith ar y testun ‘Gwreiddiau’
Gwobrau
Cystadleuaeth Pat Neill: Cadair Fechan a £50 Yr Englyn Ysgafn: £50 er cof am Dai Rees Davies; noddwr: Alun O. Davies MBE
Gwobrau i gystadlaethau 1 a 3-12: £10
Gwobrau eraill:
Cadair Her, i’w chadw am flwyddyn, am y farddoniaeth orau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)
Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau
Trefn
Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.
Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost.
Y cyfansoddiadau i’w hanfon at Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tresaith, Aber-porth, Ceredigion SA43 2EB [email protected] 01239 811024
Dyddiad Cau: dydd Llun 14eg o Chwefror
0 notes
Text
Y Noson Agoriadol
Wedi’r llacio diweddar ar y cyfyngiadau sy’n ymwneud â’r Cofid mae Pwyllgor y Gymdeithas wedi penderfynu ceisio cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ystod y tymor nesaf gan ddechrau gyda’r cyfarfod nos Sadwrn 4 Medi am 7:00 yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes Yno byddwn ni’n trin a thrafod yr Eisteddfod Amgen a rhai o gyfansoddiadau buddugol, dathlu llwyddiant ein haelodau a chyfeillion eraill a fydd yn bresennol yn y cyfarfod a mwynhau peth lluniaeth wedyn (tua 9:00) yng nghwmni ein gilydd. Dyma drefn y noson: 1. Croeso (gan Gwyndaf Tomos, ein llywydd newydd) 2. Trafod y Cyfansoddiadau (dan ofal y Prifardd Ceri Wyn) Cystadleuaeth Enillydd Arweinydd y drafodaeth Y Gadair Gwenallt Llwyd Ifan Terwyn Tomos Y Goron Dyfan Lewis Glenys Roberts Yr Englyn Philippa Gibson Idris Reynolds Y Delyneg Terwyn Tomos Emyr Lewis Y Stori Fer Menna Machreth Siân Wyn Siencyn
3. Yr Eisteddfod Amgen: Carol Davies yn pwyso a mesur y manteision a‘r anfanteision 4. Lluniaeth ysgafn
Am fod yr haint yn dal o gwmpas (ac i dawelu nerfau) gofynnir i chi: · peidio â dod (wrth gwrs) os oes symptomau arnoch neu os ydych wedi cae l cyngor swyddogol i hunan-ynysu · ac os ydych yn bwriadu bod yn y Caffi - rhoi neges fach i Howard (erbyn 30 Awst os bosib) trwy e-bost neu drwy adael neges ar ei ffôn symudol - sicrhau eich bod wedi cael y ddau frechiad - gwisgo mwgwd os nad oes ’da chi resymau cryf am beidio - cadw pellter cymdeithasol rhesymol (fe fydd digon o le rhwng y cadeiriau ta beth) Mae braslun o’r rhaglen ar gyfer gweddill y tymor isod.
0 notes
Text
Rhaglen 21/22
Y cyfarfodydd i'w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, ar Nos Sadwrn gan ddechrau am 7.30 yr hwyr oni nodir yn wahanol 2021 4 Medi Trafod Cyfansoddiadau yr Eisteddfod Amgen 2021 Cadeirydd: Y Prifardd Ceri Wyn (i ddechrau am 7.00) 2 Hydref Gwyn Jenkins Ymateb Pobl Ceredigion i’r Rhyfel Byd Cyntaf 6 Tachwedd Cyflwyniad gan Meinir Mathias 4 Rhagfyr Cyflwyniad gan Gwenith Owen (“Eddie Ladd”) Mins Peis 2022 9 Ionawr, nos Sul Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaen-ffos (i ddechrau am 7.00 yr hwyr) 5 Chwefror Meinir Heulyn Caneuon gwerin ar gyfer y delyn 5 Mawrth Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi Beirniad: Y Prifardd Aneirin Karadog (i ddechrau am 7:00) 2 Ebrill Cyfarfod Cyffredinol, trosglwyddo’r llywyddiaeth ac wedyn [cyflwyniad i’w drefnu] (i ddechrau am 7:00 yr hwyr) 7 Mai Dathlu’r gwanwyn yng nghwmni pobol ifainc
0 notes
Text
Swyddogion 2021/22
Llywydd: Gwyndaf Tomos
Is-Lywydd: Carol Davies
Ysgrifenydd
Carol Byrne Jones, Pencartws, Aber-porth, Aberteifi, SA43 2EB, 01239 811024 [email protected]
Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth
Howard Williams, Sŵn y Nant, Glan Arberth, Llechryd, Aberteifi, SA43 2QQ, 01239 682182 [email protected]
0 notes
Text
Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion 2021: canlyniadau a chyfansoddiadau
Llongfarchiadau i’r enillwyr yn ein heisteddfod rithiol a diolch i bawb a gystadlodd ynddi.  Mae’r rhestr o’r enillwyr a’u cynigion isod a hefyd linc sy’n arwain at Terwyn Tomos yn traddodi ei feirniadaeth ar youtube. Llongyfarchiadau arbennig i Huw Dylan Owen wrth ennill y gadair. Mae lluniau ohoni, a nodyn amdani, i’w gweld isod hefyd.
0 notes
Link
youtube
0 notes
Text
Enillwyr
Cadair Goffa Pat Neill:         Huw Dylan Owen,Treforys
Cystadlaethau eraill
Englyn:                                  Tudor Davies, Alberta, Canada
Englyn Ysgafn:                     Nia Llewelyn, Llandysul
Telyneg:                                Ffion Morgan, Aberteifi
Cywydd:                                Philippa Gibson, Pontgarreg
Cân Ysgafn:                           John Meurig Edwards, Aberhonddu
Parodi:                                   John Meurig Edwards
Trydargerdd:                          Ffion Morgan
Dyddiadur:                             Gaenor Mai Jones, Pontypridd
Ysgrif /Stori Fer:                     Meleri Williams, y Bala
Erthygl Papur Bro/Blog:          Trefor Huw Jones, Aberystwyth
Cân Werin /Baled:                  Jon Meirion Jones, Llangrannog
Cymraeg Ail Iaith:                   Alan Iwi, Didcot (a’i ddau gynnig yn gydradd                                                           gyntaf!)
Enillydd y Gadair Her:        Ffion Morgan (am y gerdd orau ar wahân i gerddi’r                                                 Gadair)
Cwpan Ben Owen:            Ian Richards, Machynlleth (am y darn rhyddiaith                                                     gorau)
0 notes
Text
Cystadleuaeth Cadair Pat Neill – Aros – Huw Dylan Owen, Treforys (ffugenw: Derfel)
Aros
Pen Set
Er y brys, rhwydd a di-oed fu f'oedi, 
Cefais ffics o Netflix a dyna ni
Yno'n ddiddos. Heb os roedd 'na bwysau 
Lasŵ o'm hamgylch, teimlo'r cylch yn cau. 
O'r sgrin mewn cowboi-siwt ai fy nhiwtor 
Welwn â drylliau ’stadegau di-dor?
Ond llawenydd oedd hirddydd cyfforddus
O heddwch iach a sleboga'n ddi-chwys.
Tu hwnt i'r hoe a phaned roedd dedlain
Nad oedd yn cymell, fel llinell mewn llain
A her iasol hen gowboi i'w chroesi
Ar ei geffyl gwyn yn fy nychryn i.
O'r fan hyn mae'n llinell bell sydd yn bod
I herio a minnau ar ddisberod.
 Llain Galed M4
Yn wyrthiol rhwng sbwriel gwrthun - a mwg 
Mewn man diamddiffyn
Yn iach a hardd ymysg chwyn 
Mae haul y blodau melyn.
 Ni Fethodd Gweddi Daer Erioed
Gwylia hon a’i goleuni yn cerdded
I’r cwrdd yn ei chloffni
I heddwch ei thŷ gweddi,
Y gynta’ i’w hoedfa yw hi.
  I oedfa o henoed lledfyw – wele'r 
Wylaidd drwy dre ddidduw
Yn baglu i Dŷ ei Duw, 
Annedwydd unig ydyw.
 Yn unig cerdd ei hunan â’i hysgryd,
Yn fusgrell fel cryman
 chamau yn ei chwman
I gael awr o’r ysbryd glân.
 Un awr lân aiff ar liniau – un orig
O fore’i gweddïau,
Awr hir o edifarhau
Un awr a’i thaith yn oriau.
  Hir artaith fu’r daith y dwthwn – hwnnw, 
Di-hoen, di-emosiwn
A bas a di-demtasiwn
Ydyw crwydr ei hollfyd crwn.
  Yno mae gwynfyd ei byd bach – unig, 
Ac yno’i chyfeddach
Â’i Chalfin, dyma’i chilfach
A man oer emynau iach.
  Â’i hemynau mae yno – a’i chanu
Yn chwennych ddoe eto
A'n ddiwyd ei gweddïo
I nawdd Ei Oleuni O.
  Crebachu
Mae yno’n erwau Mynwy, 
Yno mae, er nad yw mwy.
 Yno bu tranc yr heniaith
A'i gwres, ond erys yn graith 
Ddaliwyd ar hap mewn mapiau...
Ein hiaith na ellir rhyddhau.
Y Gymraeg hen mewn enwau 
A’u rhith sy’n mynnu parhau
I raddau ar arwyddion
Ar yr hewl i’r Gymru hon.
  Iaith welaf, ond di-lafar
A hesb yw, aeth geiriau'n sbâr, 
Iaith na chlywaf ar dafod
Yno'n byw, ond mae hi'n bod. 
Di-glywed ond gweledig
Yno'n drwch hen enwau drig
A geiriau yn y gweryd
O'r llwch yn harddwch o hyd.
   Cyfforddus
Er mor ansad ydyw'r gwadnau - a hyll 
A thyllog y sodlau;
Er eu hoed a'u hen lledr brau 
Y rhain saif yn ffefrynnau.
 Disgwyl
Yn hogyn roedd fy neges – yn eglur, 
Yn raglen wrth-ormes,
A’m tafod rydd di-rodres
Yn ffraeth a’m dyddiau yn ffres.
 Dyddiau fu’n llawn gwleidyddiaeth – a nefoedd 
Cyfiawn wrth-wladwriaeth,
A chanu am Gymru gaeth 
Yn seiliau fy sosialaeth.
  Hyn o sylwedd roddodd seiliau, – fory 
Guevara trown innau!
Rhown faeth i’r cenedlaethau 
A mwy, gan ochel dogmâu.
  Anochel bod dyfodol – o arwain, 
Herio’r drefn geidwadol
Yn arwr egwyddorol, 
Ysblennydd lywydd di-lol.
  Rhyw lolian rhwydd oedd blwyddyn – o wyliau
At ‘Dolig tra’n blentyn;
Yma nawr a minnau’n hyn
Rhy gynnar yw tro’r gwanwyn.
  Yn gynnar daeth deugeiniau – a’i gwynion, 
Rhy gynnar i minnau
Gael mantais uchelgeisiau,
A’r haf pob blwydd yn byrhau.
  'Rol hapusrwydd tro'r flwyddyn – yn wylaidd 
Sylweddoli'n sydyn:
Rhith 'dwi, i ble'r aeth y dyn
Yr anogais tra'n hogyn.
   "Nice day, makes it go  quicker"
Er yr haul hir-ymarhous -yw heddiw,
Rhaid dioddef y cyfoes 
A hin boenydia einioes-
I rai rhy hir yw eu hoes.
  Cyllell Boced Tad-cu
Pery'n finiog er na fu hogi – llafn 
Ei gyllell hen 'leni,
Ei hiraeth ddeil i dorri
Drwy niwl y cof ynof fi.
  Erfyn
Un wennol yw'n hysgolion, 
Un rhy hwyr i'r Gymru hon. 
Amatur yw’n blaguro
Yn ein gwlad hyd erwau’r glo.
I’n hiaith hen, nid gwên ond gwg, 
Mae’r gwanwyn ym morgannwg?
 Canmlwyddiant y Capel 
I’w hyfory rhoesant fawredd – a  rhoi 
O’u gras a’u hynawsedd,
Gosod eu gwir ar dirwedd 
A hau had i gywain hedd.
 Craf a naddu heddwch – yn eu cwm, 
Creu lle cain o lân hagrwch,
Yn werddon o  harddwch
A rhoi’u credo drosto’n drwch.
 Yn gymyn rhoi’i dirlun gadeirlan – wâr  
gariad dan hugan
O fwg, rhoi gwawl eu mawlgan
Yn deml uwch tyrrau o dân.
  Rhoi tŵr i’w hiachawdwriaeth – a gosod 
Gwŷs mewn pensaerniaeth,
A neges eu Cristnogaeth
Yn llenwi’r meini â’u maeth.
  Mae yno fwy na meini – a doethwyr; 
Mae cymdeithas heini
A graen yn ei sylfeini
Yn nawdd i’n haddoli ni.
  Yn nodded i’n cymunedau – yn sad 
Fe saif drwy’r blynyddau,
Yn iasol drwy hir oesau
Meini hen yn lain mwynhau.
  Ein gwaddol yw’r hen addoldy – odiaeth, 
Treftadaeth i’w ddathlu,
Onid hardd y saif ein t ŷ
I herio ein hyfory.
 Saith 
(Cynhelir coffadwriaeth blynyddol Brwydr Llwchwr/Gwyr 1136 ar ddydd calan am hanner dydd yn Garn Goch. Bu farw 500 dros Gymru ym Mrwydr Llwchwr. Llynedd - saith ddaeth i gofio...)
 Eu hamdo oedd clô'u gorymdaith, - cofiwn 
eu cyfiawn caledwaith;
I wrando gwlatgar araith
Yn swil heddiw daeth ond saith.
  Gwibient a'u cri'n llawn gobaith - i'w hangau'n 
Llwyr ingol dros heniaith;
'N ufudd i gofio'r afiaith 
Yn syn eleni 'mond saith.
  Uffern fu'r frwydr diffaith - y miri
A'r marw bum-canwaith,
Colli'r cyfan drwy anrhaith; 
Yn siom eleni daeth saith.
  Er yr hoen ym mheirianwaith - y milwyr
pery malais artaith
Y gad a'i holl anfadwaith 
Erchyll; yn sefyll 'roedd saith.
  Mil gwron frwydrodd estroniaith - cleddau 
Yn claddu eu gobaith;
O'u gwirfodd nawr at gerfwaith
Yn ddi-syfl coffa 'roedd saith.
  Er eu rhwysg y gro oedd eu rhaith - o drwst
Y drin a'u gorchestwaith
O fynnu cartref uniaith;
Dros Gymru'n sythu 'roedd saith.
  Yn gryf nawr erys y graith - yn waddol
I naddu gwlad berffaith,
Gwaed cad yn adeiladwaith;
Yn sicr, 'mond dechrau yw'r saith.
  Nodyn gan y Bardd
Fe’m ganwyd yn Crewe, fe’m magwyd yn Nolgellau, ac wedi cyfnodau mewn prifysgolion (Pontypridd, Caerdydd, Caerwysg, ac Abertawe), rwy’n byw ers troad y ganrif yn Nhreforys, Abertawe.  Yn briod â dwy o ferched (Mirain yn ysgol Bryntawe, Abertawe, a Heledd ym Mhrifysgol Aberystwyth), rwy’n gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys. 
Rwyf yn gerddor gwerin (banjo a’r mandolin ac ati) ac wedi cyhoeddi cerddoriaeth gyda grwpiau gwerin (e.e. Gwerinos, Alltud).  Yn ogystal â threfnu a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn Abertawe, rwyf yn rhoi gwersi Cymraeg yng nghlwb y gweithwyr yn Nhreforys.  Cyhoeddais gyfrol ar archeoleg ym Meirionnydd (Meini Meirionnydd) a chyfrol ar ddiwylliant cerddoriaeth werin (Sesiwn yng Nghymru).  Rwyf yn cyhoeddi englynion yn rheolaidd drwy drydar: @Gurfal
0 notes
Text
Englyn i unrhyw greadur – Tudor Davies, Alberta, Canada (ffugenw: gwyddonydd)
Cnaf 19
Daeth o dorllwyth ‘neb i’w fwytho’ – i’n byd
o boer i’n handwyo.
Yn fydol, er ei fwydo,
briwio’r cnaf wnâi jabiau’r cno.
 Englyn ysgafn – Bolaheulo – Nia Llewelyn, Llandysul (ffugenw: Bali Hai)
Yn ei socs, nid llun secsi – a welwn
O’i wyliau yn Bali,
Ar y gwin mewn mankini
Nid un del yw’n Nigel ni.
Telyneg – Angor – Ffion Morgan, Aberteifi (ffugenw:  Michelle Obama)  
 Rhwng California a Florida
a rhwng Montana a Lousiana,
mae ei hawen yn ymlwybro,
gan fynnu a hawlio
balchder ei gwreiddiau
a dewrder y cleisiau.
 Trwy’r areithiau a dadleuon
daw a hanesion yr ymylon,
gan liwio’u lleisiau
a chynhesu’r creithiau,
cyn mapio’r angau
a llef y cadwynau,
er mwyn i ni gael gwybod o hyd
ac i herio cydwybod y byd.
 Mae dagrau Mississippi
yn fyw yn ei mêr a’i chri,
a thrwy’r Blues a’i nodau
a thrwy Jazz a’i rythmau
mae ei angerdd am newid,
a’i hyder am ryddid
yn malurio a dinistrio
mur y status quo.
 Ond yna,
heb ddal dyrnau
na saethu gynnau,
mae’n siglo dwylo’n dynn,
rhoi gwen a rhannu deigryn.
Ac o fewn ychydig eiriau,
o fewn 140 o nodau,
ceir cawodydd o egwyddorion
i egino’r breuddwydion,
i’n hysbrydoli a’n dihuno
a hefyd,
ein uno…
 Cywydd i ofyn am ffafr – Philippa Gibson, Pontgarreg (ffugenw: Clychau’r Gog)
 Gair i’r Un sy biau’r grym:
oes cyfle am gais cyflym? 
A wnei roddi i fi fyd?
Fe roddaf gyfarwyddyd:
 Gaf aelwyd, bwyd ar y bwrdd,
a chip ar lond ei chwpwrdd?
A ga’i iaith a’i magu hi’n
arthes i’m gwg a’m chwerthin?
Mewn hafau heuliau hylaw
ga’i ledu’r wên - galw draw
am ryw awr i lawr y lôn
i de deg fy nghymdogion?
A gaf, o deimlo gafael
dagrau hallt, eu geiriau hael
i’w sychu? A oes iechyd
a hoen i’w gael? Hyn i gyd!
A gaf, drwy’r tystion, gofio
yr her ym mreuder fy mro?
A ga’i hefyd roi gofal
a fydd o werth?  Gaf i ddal
dwylo bisi babi bach?
Gaf i’r rhain? Ga’i gyfrinach   
cwymp y dail, camp y deilio,      
hud yr ardd, hwyl mynd am dro?
A ga’i weld, dan storm, hen goed
ym mwyniant grym eu henoed?
A ga’i o hyd suo-gân 
y nos sy’n dod â chusan?
 Byd sydd yn ddedwydd ydyw.
Yma mae, mae’n fyd fy myw,
byd y wên yn fy enaid.
Yma rwyf, a does dim rhaid
ei drwsio, ond rwy’i eisiau
heb yr ofn na wna barhau.          
 Cân Ysgafn – Ar Goll – John Meurig Edwards, Aberhonddu (ffugenw: Jonem)
Mae’r pandemig dieflig ar led drwy y wlad,
A diflannodd pob peth sy’n rhoi i mi fwynhad;
Rwy’n cyfadde fy mod i ar goll yn llwyr;
Pryd ddaw gwaredigaeth? Duw’n unig a ŵyr!
Dim hawl i fynd allan i siopa yn rhydd,
Dim ond eistedd yn ’studio fy mogel bob dydd.
Cweryla yn ddyddiol ’da Mari, y wraig,
A honno yn ymddwyn yn fwyfwy fel draig.
Gorfod gwrando ar Boris yn rhefru ymlaen,
Ac yn sôn am ddyfodol godidog o’n blaen.
A finne ar goll heb unman i fynd,
Gyda’r dafarn ar gau, a dim hawl cwrdd â ffrind.
Roedd ymarfer y côr a gafwyd on-line
Yn swnio fel crawcian cymanfa o frain.
Roedd Zoom a’i gymhlethdod yn fy ngwneud i yn flin,
Dim siâp ar feistroli rhinweddau’r mashîn.
A phan geisiais archebu rhyw nwyddau o Tesco,
Fe gefais lond basged nad o’n i wedi’u hordro.
Ac mae gwisgo mygyde yn brofiad uffernol,
A’r holl anadl boeth yn cymylu fy sbectol.
Mae pobol yn canmol y profiad ffantastig
O dalu am bopeth gyda phisyn o blastig!
Rwy’n fodlon cyfadde, a hynny’n ddagreuol,
Fy mod i ar goll yn y byd pandemigol.
 Parodi: unrhyw gerdd gan T Llew Jones – John Meurig Edwards, Aberhonddu (ffugenw: Jac)
Parodi ar Yr Hewlwr
Yr Aelod Cynulliad
Mae’n dod at ei waith erbyn un y prynhawn,
Ac wedi cael brecwast a chinio go iawn,
Un yn y gwesty a’r llall mewn cantîn,
Mae’n pendwmpian am dipyn, nes dod ato’i hun.
Ac mae’n edrych o gwmpas ac yn meddwl yn ddwys,
“Wel, gobeithio nad oes ’na’r un mater o bwys.
Ond rhaid i mi dreio gwneud rhywbeth, sbo,
I geisio bodloni etholwyr fy mro.
Rhaid clirio’r baw cŵn o balmentydd y dre’,
Mae digon o hwnnw o gwmpas y lle!”
 Mae’n gweithio’n bwyllog am ryw hanner awr
Yn ei swyddfa gysurus ar y trydydd llawr.
Mynd heibio wnaiff rhai, heb weld fod y dyn
Wedi colli yr ornest i fod ar ddihun .
 Cyn hir daw cyd-aelod heibio am dro,
Sy’n bishyn go smart, a’i gyfarch, “Helo!
Rwy’n sychedig, cariad”, ac yna wrth gwrs
Rhaid troi am y dafarn am sesiwn a sgwrs.
 Ac ar ôl swpera, yn hwyr y prynhawn,
Maen nhw’n gadael y dafarn â’u bolie’n llawn.
Maent yn crwydro i’w westy yn ara’ bach
I gael awr yn y gwely cyn canu’n iach.
Ac yntau yn gorwedd fflat-owt ar ei gefn,
Ond fory bydd yn gwneud yr un peth drachefn.
 Trydargerdd: gair o gyngor i ymwelydd – Ffion Morgan (ffugenw; Brodor)
Dewch i’n siopau bach a phrynu hen ddigon!
A dewch i’n caffis a bwytwch mas yn gyson!
Ond cofiwch chi'r arwyddion
i fynd yn ôl, lawr y lôn.
0 notes
Text
Dyddiadur - wythnos o’r Cyfnod Clo - Gaenor Mai Jones, Pontypridd (ffugenw: Blank 6)
Dydd Iau                                           Rhagfyr 31                                                     2020
Roedd rhaid mynd allan i brynu diod o rywfath ar gyfer hanner nos ac anghofio'r mwgwd ond ma' gen i un sbar yn y car. Marciau a Gwreichion yn hytrach na siop y carotsyn. Safon y nwyddau a'r glanweithdra ar raddfeydd gwahanol. Falle mod i'n talu mwy a dyw hynna ddim yn eistedd yn esmwyth gyda Cardi ond dwi am wneud popeth allaf i osgoi Corona. Dal i gofio y poteli pop o'm mhlentyndod. Dwi 'di edrych y "covid vaccination calculator" a gweld bo' fi yn yr wythfed safle i gael y brechiad a fydd hynna ddim yn digwydd tan adeg fy mhenblwydd ym mis Mai.
   Ydw i fod i 'sgrifennu'r addunedau heno neu fory? Wel heno amdani gan bo fi ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cloc yn araf dician tuag at hanner nos. Dwn i ddim pam dwi'n aros lan beth bynnag, dim gwahaniaeth rhwng 23.59 a 24.00 yn fy marn i. Ta beth edrychais y geiriadur i weld ystyr y gair adduned, dim ond rhestr arall ac 'rwy'n dda iawn am wneud rhestrau ond mae adduned yn golygu addewid o ddifrif neu benderfyniad cryf. Dim iws rhoi colli pwysau lawr te achos mi fyddai wedi methu o fewn dyddiau. Mi wnes i addunedau amser y clo mawr, dim byd arbennig, tacluso'r ardd, eistedd allan yn yr ardd tra'n disgwyl i ddanteithion gwcio. Hwnna oedd y drwg ond nid dim ond fi wna'th e.
    Un adduned sy' 'di bod 'da fi ers blynydde yw tacluso'r bocsys sy' yn y garej ers i fi symud 'ma a dyma'r amser i ddidoli'r lluniau a gosod nhw yn daclus, efallai hyd yn oed symud 'da'r oes a'u gosod yn ddigidol. Mi wnai wneud un bob dydd.
    Mae'n hanner nos ac yn amser am lymaid neu photelaid.
Dydd Gwener                                         Ionawr 1                                                     2021
Ma' gen i ben tost a'r gwendid corfforol a meddyliol bron fy llethu ond allai ddim torri adduned ar y diwrnod cyntaf!
    Lluniau fy nhaith i Rufain sy gen i. 'Roedd pedwar ohonom yn tueddu i fynd dramor dros benwythnos Calan ac wedi bod yn yr Eidal sawl gwaith ond does dim all wella ar y profiad o fod yng ngwasanaeth Calan y Pab yn y Vatican City. Cyrraedd yno ar hap heb drefnu dim ymlaen llaw. Gweld ciw i fynd fewn a meddwl dim mwy tan i ni gael ein harwain drwy'r cefn a'n rhoi i eistedd ar yr ochr a dyna lle 'roedd Pab Ioan Paul yn pregethu. Mi wnes i astudio Lladin yn yr ysgol ond wnes i ddim deall dim un gair. Doedd dim gwahaniaeth ac er fy mod yn Fethodist mi ges i ryw wefr a thangnefedd wrth wrando ar y person carismatig hwn. Fynte yn gad'el a ninne yn crwydro o gwmpas gan edmygu pensaerniaeth ac awyrgylch euraidd y lle. Allan wedyn i'r sgwar a sylweddoli nad oedd lle i forgrugyn arall gan fod y lle yn orlawn o bobl yn disgwyl i'r Pab ymddangos ar y balconi i godi llaw ac wir, mi ddoth allan a ninnau wedi ca'l y profiad unigryw heb drefnu dim.
Dydd Sadwrn                                        Ionawr 2                                                   2021
Diwrnod arall o ddilyn y rheolau. Am dro o gwmpas fy ardal ac yn gweld amryw sy' fel pe baent ddim yn deall y rheol o beidio symud y car i ddechrau'r daith gerdded.
    Nawr dwi wedi cyrraedd albwm Prague. Wedi bod yna fwy nag unwaith a chael profiadau gwahanol bob tro. Dyw penwythnos ddim yn ddigon i gyffwrdd ar hanes yr ardal a phwy allai anghofio y Brenin Wenceslas yr amser hyn o'r flwyddyn. Do, mi fum i yn y sgwar ac yng Nghadeirlan St Vitus lle gorwedd ei olion. Ond i mi profiad dwysaf y teithiau oedd ymweliad plygeiniol yn Terezin tua 30 milltir i'r gogledd o Prague. Carchar rhyfel i'r Iddewon yn cael ei redeg gan y Gestapo. Llawer yn aros yno ar eu ffordd i Auschwitz. 'Roedd y tarth yn dal ar lawr a niwl o gwmpas y fynedfa gan hanner orchuddio Seren Dafydd. Doedd dim troi nôl ond dim blas mynd ymlaen. Teimlwn yn anhyfforddus iawn fy mod yno ar daith dwristiaeth gan gofio yr holl ddioddefaint a fu yn yr adeiladau. Buom  mewn un ystafell lle roedd cannoedd o blant yn cysgu ac heb air o gelwydd teimlais fod llygaid yn fy nilyn o gwmpas. Allan i'r gwyrddni i fan oedd yn ymddangos fel llecyn o brydferthwch ond wrth edrych yn fanwl 'roedd modd gweld uwchdir i ddefnydd y saethwyr oedd yna i ladd yr Iddewon.
Dydd Sul                                         Ionawr 3                                                     2021                                                                                     
Dim oedfa ar wahan i rai ar Zoom. Mae'n bosib edrych ar sawl un mae'n rhaid cyfadde ond y drwg wedyn yw dechre beirniadu a dyw hynna ddim yn yr ysbryd Cristionogol ond a yw rhywbeth yn well na dim, dwn i ddim. Dwi ddim yn siwr chwaith a y'n nhw'n anelu at y gynulleidfa arferol. Faint o aelodau oedrannus ein capeli sydd yn medru defnyddio Zoom yn y lle cynta'?
    Ta waeth, dwi 'di cyrraedd Venice. Popeth yn brydferth ond drud a drud iawn. Wrth gwrs 'roedd rhaid cael taith ar y gondola, rhywbeth twristiaidd i'w wneud a drud ond pwy fydde'n dod nôl o Venice heb fod ar un. Mi wnes i hefyd gael taith ar y traghetto, yr un syniad ond y rhan fwyaf o'r teithwyr yn sefyll i groesi'r gamlas a'r gost ond yn ddwy euro. Gan bo' fi ddim yn gallu nofio wnes i ddim meiddio sefyll, rhag ofn, ond dyma'r ffordd mae'r bobl leol yn croesi'n ddyddiol.
    Rhyfeddod arall oedd cael coffi drud yn un o siopau coffi  Sgwar San Marco a gwylio pobl un prynhawn ond gweld y cyfan dan ddŵr y bore wedyn. 'Roedd dŵr y gamlas wedi codi ond yn amlwg bod hyn yn ddigwyddiad rheolaidd gan fod bordiau pren wedi cael eu gosod i groesi'r sgwar ond yn rhyfedd ddigon 'roedd rhaid mynd drwy borth yr eglwys. Un prynhawn mynd i ynysoedd Murano, Burano a Torcello. Y cyntaf yn enwog am y gwydr, yr ail am y lês a'r trydydd wnai ddim ond disgrifio fel twll o le. Er yno mae Gorsedd o garreg Attila a'r chwedl leol yw bydd rhywun yn priodi o fewn blwyddyn o eistedd ynddi. Wnes i ddim a tybed ai dyna pam wnes i ddim priodi? Golygfa annisgwyl ond wrth gwrs sy'n gwneud synnwyr oedd gweld traddodiad angladdol yr ynysoedd. Yr arch yn amlwg ar gwch a'r cychod eraill yn dilyn i gyrchu'r teulu i'r tir mawr. Rhyfedd nad yw rhywun yn  meddwl am draddodiadau gwahanol ond angenrheidiol.
Dydd Llun                                             Ionawr 4                                                       2021
Gŵyl y Banc arall heb gyfle i wneud unrhywbeth gwahanol. Sawl un arall fyddwn ni'n colli cyn daw trefn at bethau?
    Erbyn hyn 'rwy'n yr albwm B. Budapest, Barga, Barcelona a Berlin. A'r mwya o'r rhai hyn   Berlin. Yno fel rhan o gôr i ganu The Armed Man o dan arweinyddiaeth Syr Karl Jenkins. Ysgytwol y profiad o fod yn canu fel rhan o fil o leisiau yn Stadiwm Mercedez Benz dafliad carreg o ran o wal Berlin. Wedi'r ymarfer pawb ohonom yn mynd i'r lanfa i ganu ein hanthem genedlaethol ein hunain, Profiad na ellir byth ei ail greu. Tê prynhawn un diwrnod yn y Reichstag ond 'roedd rhaid archebu ymlaen llaw gyda holl fanylion pasport ac er yr ysblander a'r cyfle i weld goleuadau'r ddinas yn cynnau yn drawiadol pwy allai anghofio'r erchyllterau y bu y Gestapo yn trefnu yn yr union adeilad.
Dydd Mawrth                                      Ionawr 5                                                     2021
Apwyntiad rhoi gwaed heddiw ac mae hawl gan rywun i deithio i wneud hyn. 'Rwy'n hynod falch o'r ffaith fy mod wedi rhoi dros i 50 ond wedi colli allan ar noson ddathlu oherwydd y Cofid ond mi gefais garden Nadolig ganddynt yn ymddiheurio. Euogrwydd wnaeth i fi ddechrau rhoi gwaed oherwydd pan yn fyfyrwraig nyrsio 'roeddwn yn teimlo chwithdod bob tro 'roeddwn yn rhoi uned i glaf a dim un rheswm gen i i beidio cyfrannu. Yn raddol dros y blynydde mae'r broses wedi cyflymu a beth yw hanner awr o amser rhywun os oes daioni yn dod ohono. Er gan fy mod yn un o'r grwpiau arbennig nid y'n nhw eisie fy ngwaed bob tro.
    Gan fy mod wedi crybwyll fy ngyrfa mae'n addas fy mod yn mynd i albwm California. Wedi bod yna ddwy waith gan fod un o'm ffrindiau nyrsio wedi symud allan yna ers blynydde maith. Mi fum yn ddewr a mynd fy hun un tro ond diflas y daith heb siarad a neb. Oleiaf fy mharatoi ar gyfer y cyfnodau clo yma.
    Ar un o'm teithiau penderfynu mynd i barc Yosemite a gweld yr arwydd am wylio allan rhag ofn i arth groesi'r ffordd a chwerthin yn braf gan gofio am arwyddion ceirw yng Nghymru ac erioed wedi gweld un. Ond yr un fath â llwynog R.Williams Parry, "digwyddodd, darfu megis seren wib" pan groesodd un o flaen y car ond y camera wrth gwrs ddim ar gael.
Anghofiai fyth y daith lan Cwm Napa ac ymweld â’r gwinllannau a chael diod ymhob un. Fy ffrind oedd yn gyrru a'r diweddglo oedd mynd lan mewn cable car i winllan ar ochr y mynydd. Yn anffodus mae'n amhosib cael y gwin yn y wlad hon. Mi fydd yn rhaid mynd nôl eto.
Dydd Mercher                              Ionawr 6                                                        2021
Diwrnod datgelu gwobrau y Premuim Bonds. Wedi medru gosod yr app ar y ffôn felly does dim rhaid aros mewn gobaith am ddyddiau cyn i'r siec gyrraedd. Yn gweld bo' nhw eisiau diddymu sieciau ond cymaint o gwsmeriaid eisiau parhau gyda'r sistem gan nad ydynt yn gwneud gwaith bancio ar lein. Dim miliwn neu ddau i mi eto'r mis hwn ond mae £25 yn well na dim.    
        Diwrnod tynnu'r addurniadau i lawr. Dwi ddim yn ofergoelus iawn ond yn cadw at y traddodiad o'u tynnu cyn nos Ystwyll. Bu i mi gael profiad un flwyddyn o fethu tynnu nhw lawr gan fod galwadau salwch teuluol wedi gorfodi i fi fod oddi cartref tan yn hwyrach ac 'roedd rhaid i mi wneud y gwaith wedi'r diwrnod tyngedfennol. Ond y goel yw bod gadael un addurn ar ôl yn lleddfu'r lwc wael. Dyna wnes i ac ni weles i unrhyw drafferthdod y flwyddyn honno. Rwtsh llwyr yn te?
    Mae'n ddydd Mercher ac mae'n noson ymarfer côr, ar zoom wrth gwrs ond dyw e ddim yr un peth. Does dim i anelu ato, dim eisteddfodau mawr na bach ers misoedd ac er i rai ardaloedd gynnal eisteddfodau rhithiol roedd rhaid dibynnu ar yr ochr lenyddol fwy na heb. Er mae hyn yn f'atgoffa o gystadlu ar goginio yn Sioe Aberteifi ac ennill Prif Bencampwr Coginio heb i neb flasu un gacen. Tybed yw fy ngallu cogyddol cystal â’m gallu fel ffotograffydd!
2 notes · View notes