mwydro-miriampd-blog
mwydro-miriampd-blog
Miriam Powell-Davies
15 posts
Cymraes yn byw yn y ddinas fawr ddrwg
Don't wanna be here? Send us removal request.
mwydro-miriampd-blog · 6 years ago
Text
“YN Y DECHREUAD”
Proses newydd i mi, a proses newydd i’r grwp. Beth fydd y cynhyrchiad terfynnol? Wrth i ni archwylio i mewni waith eraill a tyrchu mewn pentyrau o lyfrau, scriptiau a rhagleni teledu fe ddechreuodd y broses!
Wrth ddarllen, neu llawer iawn o’r amser gwrando ar eraill yn darllen…. Fe ddaethom  ni i’r casgliad ei bod hi’n hanfodol bwysig ein bod ni’n chwilio i mewn i gymaint o fynhonellau gwahannol a phosib. Hynny oherwydd ei bod ni’n bwysig i ni gael mewnbwn o bob cyfeiriad yn hytrach na creu darn o waith oedd yn statig yn ei hanfod. Dyna oedd mor arbenig am ddarllen gwaith Lisa Lewis. Roedd ei llyfr ‘Performing Wales’ yn awyr iach ar yr holl ysgrifennu di-ddiwedd am gydsyniadau heb derfyniadau. Mae’r llyfr yn Saesneg, sydd yn ddiddorol i gychwyn. Hynny’n gwneud y llyfr yn gyrhaeddadwy i nifer o wahannol gynulleidfaoedd, yn hytrach na cyfyngu y gwaith i Gymru. Mae pwysigrwydd aruthrol mewn darllen a deall a dod i brofi gweithiau a diwillianau gwahannol. Roedd pawb yn gweld hynny fel rhywbeth hynod o bwysig felly, ein bod ni’n dangos beth ydy ein diwilliant ar lwyfan. Beth felly ydy ein diwilliant ni a lle mae’r Cymru, fel cenhedl yn darganfod ei than a’i hangerdd? Wrth dyrchu yn ddyfnach i waith Lewis, fe ddaethom ohyd i adran cyfan ar ‘Wyl’. Yn sydyn iawn dyma ni'n cychwyn cythryblu a sôn am ein profiadau ni mewn gwahannol wÿliau. 
Yr Eisteddfod oedd yn dod yn naturiol i gan fwyaf ohonom ni. Dechaeom ni chwarae gyda jôcs a creu hwyl am ben yr holl siambls a’r mwydro sydd ynghylch a’r wyl fawreddog hon. Doedd dim honi ein bod ni wedi dod ohyd i’n tarddle. Ymysg y streuon digri am maes B, Merched Beca a’r ‘welsh knot’ roedd mwy na digon o olew yn y tank i’n gwthio ni ymlaen.
Felly, Cymru a chymreictod. Thema cerddi Cymraeg TGAU…. Dyma feddwl, sgwrsio, symud a creu. Dod i afael ar yr hyn oedd yn bwysig a’r hyn nad oeddem ni ei angen yn y Gwaith. Pwysigrwydd y cwestiwn 'pam?'. Pam ein bod ni’n dathlu fel hyn? Pam ein bod ni, fel Cymru yn teimlo mor angerddol tros ein gwaith, ein iaith a’n hunaniaeth? Gyda hyn, ydym ni’n poeni ddigon am ein Cymru ni heddiw?
Mae’r llyfrau hanes yn dweud llawer iawn am bwy ydym ni ond dwi’n meddwl ei bod hi’n deg i ddweud bod ein hanes ni yn medru bod yn gatapwlt ac yn sbardun i lawer iawn o broblemau cymdeithasol Cymry a Chymru heddiw.    
Pan yn edrych i hanes ‘Merched Beca’ a log ‘Brad y llyfrau gleision’ mae hi’n glir ein bod ni fel Cymry wedi cael ein gorthrymu gan ein cymdogion yn rhy amal. Doedd y perfformiad hwn ddim yn mynd i ddod fel parti o stiwdants Cymraeg yn teimlo bechod dros eu pobl. Roeddem ni i gyd am i’r broses a’r perfformiad fod yn un oedd yn uwcholeuo ein cryfderau fel cenhedlaeth ifanc o Gymry Cymraeg.
<!-- /* Font Definitions */ @font-face {font-family:"Cambria Math"; panose-1:2 4 5 3 5 4 6 3 2 4; mso-font-charset:0; mso-generic-font-family:roman; mso-font-pitch:variable; mso-font-signature:3 0 0 0 1 0;} @font-face {font-family:Calibri; panose-1:2 15 5 2 2 2 4 3 2 4; mso-font-charset:0; mso-generic-font-family:swiss; mso-font-pitch:variable; mso-font-signature:-1610611985 1073750139 0 0 159 0;} /* Style Definitions */ p.MsoNormal, li.MsoNormal, div.MsoNormal {mso-style-unhide:no; mso-style-qformat:yes; mso-style-parent:""; margin:0cm; margin-bottom:.0001pt; mso-pagination:widow-orphan; font-size:12.0pt; font-family:"Calibri",sans-serif; mso-ascii-font-family:Calibri; mso-ascii-theme-font:minor-latin; mso-fareast-font-family:Calibri; mso-fareast-theme-font:minor-latin; mso-hansi-font-family:Calibri; mso-hansi-theme-font:minor-latin; mso-bidi-font-family:"Times New Roman"; mso-bidi-theme-font:minor-bidi; mso-ansi-language:CY;} .MsoChpDefault {mso-style-type:export-only; mso-default-props:yes; font-family:"Calibri",sans-serif; mso-ascii-font-family:Calibri; mso-ascii-theme-font:minor-latin; mso-fareast-font-family:Calibri; mso-fareast-theme-font:minor-latin; mso-hansi-font-family:Calibri; mso-hansi-theme-font:minor-latin; mso-bidi-font-family:"Times New Roman"; mso-bidi-theme-font:minor-bidi;} @page WordSection1 {size:612.0pt 792.0pt; margin:72.0pt 72.0pt 72.0pt 72.0pt; mso-header-margin:36.0pt; mso-footer-margin:36.0pt; mso-paper-source:0;} div.WordSection1 {page:WordSection1;} -->
Mewn cyd-destun perfformio sut y gallwn ni lynnu popeth at ei gilydd? Beth ydy perthnasedd ein hunaniaeth ni a’n hanes ni? Wrth edrych ar waith dramadyddion eraill, beth allwn ni ei ddysgu o’u profiadau nhw a’i gwaith? Rhan nesa ein proses oedd darganfod cwestiynnau oedd yn cyd fynd gyda’n bwriad. Pam! Pam? Pam. 
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
ADOLYGIAD HACKSAW RIDGE
'O Dduw, gad imi achub un arall!’ Adolygiad o’r ffilm Hacksaw Ridge (2016) Dyma ffilm newydd, waedlyd ddigon, gan Mel Gibson yn portreadu’r Ail Ryfel Byd yn Siapan. Dwi’n dipyn o ‘film junky’ ac mae unrhyw ffilm sydd wedi’i chyfarwyddo gan Mel Gibson yn mynd i fod ar y ‘tick list’ yn syth! Pwy sydd ddim isio mynd i weld ffilm â’r un cyfarwyddwr â Chicken Run? Efallai mai un peth nad oeddech yn ei wybod am Mel oedd ei fod yn Gristion. Dwi’n gobeithio eich bod wedi gweld The Passion of the Christ. Os ydych chi ddim, dwi’n argymell eich bod chi’n stopio darllen hwn ac yn mynd i chwilio am gyfrifiadur i gael golwg arni (tip bach i chi – mae hi ar Netflix!). Mae ffydd Mel yn llifo drwy bob ffilm mae o’n ei chynhyrchu. Mewn cyfweliad diweddar ynglan â Hacksaw Ridge, fe ddywedodd, ‘I wanted my faith to be challenged by the next movie I made, and for those watching, I want their faith to be challenged too.’ Mae’r fflim wedi’i seilio ar stori wir dyn o’r enw Desmond T. Doss a wrthododd gario arfau yn yr Ail Ryfel Byd. Mae hi’n ffilm sy’n llawn cariad, marwolaeth, gobaith, dewrder, ac yn bennaf oll ffydd. Er iddo gael ei wawdio a dod yn agos at gael ei daflu allan o’r fyddin, roedd Doss yn medru gwasanaethu ei gyd-filwyr wrth achub bywydau ar faes y gad. Ef oedd yr unig wrthwynebwr cydwybodol erioed i dderbyn anrhydedd milwrol uchaf yr Unol Daleithiau – The Congressional Medal of Honor – am weithredoedd o ddewrder eithriadol. Mae hi’n ffilm lawn gwaed a digon erchyll o ran ei phortread byw o ryfel, ac os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwylio 24 hours in A&E dwi ddim yn meddwl eich bod chi’n barod i wylio hon! Er yn anodd i berson ifanc fel fi ddychmygu sut byddai hi ar flaen y gad yn y rhyfel, mae’n dda cofio mai ifanc iawn oedd y rhai a fu’n gwasanaethu. Mae’r ffilm wedi’i gwneud mewn ffordd mor real nes ein bod ninnau hefyd yn teimlo’r gronyn lleiaf o’r ofn a’r erchylltra a ddaeth i ran Private Desmond T. Doss yn yr uffern hon ym mrwydr Okinawa, lle llwyddodd i achub bywydau 75 o’i gyd-filwyr. Dywedodd Mel, ‘Imagine being able to crawl into enemy fire for your brother and save a life, I don’t know if I could do that.’ Dwi’n debyg i Melynhynobeth!Ernadydymniigyd mor ddewr â Desmond Doss yn cropian i mewn i fflamau uffern a chipio rhai oedd bron â suddo yno, mae angen dewrder a ffydd hefyd i geisio ‘achub’ eneidiau mewn brwydrau ysbrydol. Un llinell sydd wedi aros gyda mi ar ôl Andrew Garfield fel Pte. Desmond T. Doss yn y ffilm Hacksaw Ridge y ffilm ydi: ‘While everybody else is out there taking life, I’m going to be saving it. And that will be my way to serve.’ Dyma Private Doss yn egluro’n union beth ddylem ni fel Cristnogion fod yn ei wneud: bod yn wahanol a gwneud popeth mewn ffydd gan ofyn i Dduw bob dydd, ‘Please, God, let me save one more.’
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Video
tumblr
UBU ROI GAN MIRIAM POWELL-DAVIES
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Photo
Tumblr media Tumblr media
CYDBWYSEDD
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
CYDBWYSEDD
Beth yw cydbwysedd?
Dyma ddiffiniad y geiriadur: 1.‘Offeryn ar gyfer pwyso, 2. cydbwysedd o wahanol elfennau, cyfran gytûn, 3. bwysau neu rym sy'n gwrthweithio neu achosi cydbwysedd.’
Mae Euginio Barba a’i ddamcaniaeth cydbwysedd yn ben dant wedi effeithio ar fyd theatr heddiw ac wrth edrych ar ddarn byr o’i waith dof i ddeall o le y darganfyddodd ei ddamcaniaeth a sut mae’n berthnasol i'r theatr fodern.
Mae’r ffordd mae Barba yn cysylltu symudiadau fel y ‘tribangi’ o’r grefydd Bwdhaeth,  sydd yn ganrifoedd oed, gyda'r cymeriad Fritellino commedia dell’Arte, yn effeithiol gan ei fod yn dangos y pontio sydd rhwng onglau eu cyrff a’r egwyddor cydbwysedd. Un peth dwi’n cael trafferth deall ydy bod y cydbwysedd yn deimlad yn y corff ac yn ffordd o fynegi teimlad, ond eto mae Barba yn dewud bod yna gôd penodol er mwyn gallu eu gwneud. Mae’r tyndra corfforol sydd yn cael ei ddefnyddio yn cymryd llawer iawn o ymarfer er mwyn gallu gwneud yr ymarfer yn gywir a chyda hyder. Fe hoffwn pe bai mwy o ganllawiau er mwyn i ni gael darlun cam wrth gam o beth i’w wneud ac fe fyddai hynny o ganlyniad yn ei wneud yn fwy hygyrchol.
 Sonia Barba, yn yr esiamplau mwyaf diweddar o'i  theatr, lle bu swyddogaeth yr actor a’r dawnsiwr yn ddau dechneg ar wahan, mai dim ond mewn technegau megis meim a dawns glasurol y doir o hyd i’r newid hwn o gydbwysedd. Gwelir hyn yn amlwg iawn yng ngwaith Commedia gan ei fod yn seliedig ar fasgiau a'u bod yn mynegi teimlad trwy ddefnyddio eu cyrff.
Felly yn ol Barba-
“Balance- the human ability to hold the body erect and to move in space in that position- is the result of a series of muscular tensions within our organism.”
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Photo
Tumblr media
MACBETH
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
MACBETH
Mae dau beth yn gyffredin rhwng y ddrama Macbeth gan Shakespere a sefyllfa wleidyddol ein gwlad ni heddiw; mae’r ddau yn chwerthinllyd ac yn bragu o un broblem fach sef pwer. Beth am i ni feddwl am Brexit yn yr achos hwn a'i gymharu gyda sefyllfa Macbeth. Y ni fel cynhoedd yn yr achos hwn ydy Macbeth ac fe gychwynwn ni yn yr act gyntaf fyda’r gwrachod neu yn yr achos hwn, Mr Nigel Farage a'r Blaid UKIP a'r holl ymgyrchwyr i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dangos y goron fawr o fuddsoddi arian yn ein gofal iechyd a'r budd a ddaw inni i gyd o gael rheolaeth ar ein gwlad ein hunain. Mae’r gwirionedd yn cael ei blygu ac mae popeth yn mynd o chwith, ac wrth i mi ddod yn fwy cyfarwydd gyda Macbeth dwi’n dod i weld pa mor hunanol ydy o fel dyn, ac felly, yr ydym ninnau fel pobl yn yr achos yma o gymharaieth? Ar ol cael heddwch yn y wlad am dros bedwardeg o flynyddoedd sut y gallwn ni fod yn gwthio y rhai a fu’n gefn inni, fel y Brenin Duncan, i ffwrdd a cheisio rheolaeth i'n dwylo ein hunain?
Mae gan Shakespeare ffordd hudolus o ysgrifennu ac mae’n feistr wrth iddo roi mwy o wybodaeth i’r gynulleidfa nag mae’n ei roi i’r cymeriadau ar y llwyfan. Wrth edrych ar wleidyddiaeth cyfnod Shakespeare fe welwn ei fod yn hoff iawn o chwarae gyda than. Roedd gwleidyddiaeth yn cynnig rhuddhad deallusol iddo a doedd y ddrama Macbeth ddim yn swil o roi sylw i hyn. Ysgrifennodd y ddrama tra roedd James y 1af ar yr orsedd. Roedd James wedi bod yn frenin ar Loegr am dair mlynedd ac yn flaenorol i hynny roedd yn cael ei adnabod fel James VI o’r Alban. Roedd y brenin James I felly yn dod ag uniad rhwng Lloegr a’r Alban, ond mewn drama mor waedlyd a hon gyda brenin oedd yn credu mewn dewiniaeth a gwrachod, roedd Shakespeare yn gosod ei ddrma mewn cyfnod anodd i wleidyddiaeth yr Alban ac yn gwneud y gymhariaeth gyda'i gyfnod anodd ei hun yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg o ran gwleidyddiaeth Brydeinig?
I mi mae hi’n glod i stori Macbeth ein bod ni'n dal yn gweld patrymau yn codi yn ein gwleidyddiaeth ni ac yn gallu eu cymharu gyda'r stori yma am rym breuddwydion. Meddyliwn eto a oes unrhywbeth wedi
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
THE POPULARS
Theatre Volcano, darn byrfyfyr dan gyfarwyddiad Paul Davies a dan gyfarwyddiad symyd Cathrine Bennett.
Dydw i erioed wedi teimlo gymaint o egni positif tra’n gwylio darn o theatr yn fy myw! Roeddent yn dangos y byd a’i wleidyddiaeth sur mewn ffordd swynol, melys gan ddefnyddio cerddoriaeth er mwyn pwysleisio pwysigrwydd bod yn hapus a bod yn un efo'n gilydd, ond hefyd ei bod hi’n hanfodol bwysig ein bod gennym ni farn unigol ein hunain yn y dorf.
Roeddent yn ein gwahodd ar daith gyda nhw o amgylch eu meddylfryd fel cymeriadau ‘the populars’ ac yn agor drysau i mewn i’w bywydau bregus a chymleth er mwyn i ni gael deall beth oedd eu bwriad a beth oedden nhw yn ei gredu.
Yn debyg i waith 'Commedia dell’Arte' roeddent yn defnyddio eu cyrff er mwyn rhannu neges ar lefel ddyfnach na siarad. Roedden nhw’n cysylltu’n gorfforol gyda’r gynulleidfa ac roedd hynny wedyn yn troi i mewn i gysylltiad personol gyda’r unigolyn oedd yn cael ei gyffwrdd a’r actor, gan eu bod yn rhannu cysylltiad llygaid. Roedd hyn yn gweithio i’w ffafr nhw oherwydd ein bod ni wedyn yn dod i ymdeimlad dyfnach o berthynas gyda’r darn theatr hwn.
Ydy barn yn diffinio ein realiti? Roedd rhannau o’r perfformiad yn dibynu’n llwyr ar ein barn ni fel cynulleidfa ac roeddent yn gofyn cwestiynau uniongyrchol wrthym fel (y cwestiwn) ac roedd y gynulleidfa yn cael ei manipiwleiddio i symyd i lle roedd y cymeriadau ar y llwyfan eisiau i ni fod.
Er ei bod yn berfformiad gyda gwleidyddiaeth yn plethu drwyddi, doedd yr elfen wwleidyddol ddim yn cael ei wthio yn ein wynebau, roedd o’n llawer iawn mwy cyfrwys na hynny. Fel ein bywyd o ddydd i ddydd, mae gwleidyddiaeth yn cael ei ychwanegu’n slei i gefndir ein bywydau. Ydyn ni i wrando ar y miwsic a dal ati i ddawnsio felly, neu oes yn rhaid i’r manipiwleiddio ddod i ben ac i ninnau bwyso’r botwm pause weithiau er mwyn gwneud synwyr o bopeth?
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Photo
Tumblr media
YFORY
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
YFORY
16.3.17
Drama gan Sion Eirian, wedi’i chyfarwyddo gan Betsan Llwyd TBC.
Cyn mynd i weld y ddrama roedd fy ymwybyddiaeth o’r byd gweleidyddol yn gul iawn. Gadewch i mi fod yn hollol onest gyda chi; Brexit, Trump a falle mymryn o Theresa May oedd/ydy’r unig beth roeddwn i’n cymryd sylw ohonyn nhw. Roedd gen i fwy i’w ddewud ar y mater nag oeddwn i’n ei ddeall a doeddwn i ddim yn gweld unrhyw broblem gyda hynny chwaith gan fod pawb i’w weld yn gwneud yr un peth!
Dyma ddrama sy’n dal i dician yn fy meddwl wythnosau ar ol I mi adael y theatr. Fe adewais yn gofyn cwestiwn ar ol cwestiwn, ond i mi, weithiau tydy hynny ddim o hyd yn beth positif. Roedd gadael y theatr fel gadael pos heb ei ddatrys. Ond, wrth edrych yn fanylach ai dyna holl fwriad yr awdur Sion Eirian? Gadael pos heb ei ddatrys gan bod gwleidyddiaeth ein gwlad yn waith heb ei orffen? Neu ydy hyn yn adlewyrchiad negyddol ar waith 'anorffenedig' (yn fy marn i) y dramodydd?
Dwi’n meddwl ei bod hi’n hen bryd bod rhywyn gyda chrebwyll a barn wleidyddol gytbwys ysgrifennu am wleidyddiaeth, ac o wneud mymryn o waith ymchwil am Sion Eiriad mae o i'w weld fel rhywyn a chryn fesur o grebwyll gwleidyddol. Cafodd ei fagu mewn teulu Cristnogol a’i dad yn weinidog ar gapel Bethesda, Yr Wyddgrug, (fel fy nhad innau), a’i fam yn wraig gyda barn gryf iawn am lawer iawn mwy nag oedd y cyfnod yn ei ganiatau. Ai felly fel amnaid (nod) i’w fam, fu farw pan oedd Sion yn ddyn ifanc yr ydym i edrych ar Eli yn y ddrama? Dynes gadarn, ddeallus yn cael ei gwastraffu, yn debyg iawn i win drud mewn parti chweched. Ac am y babi, a’i gweld ei hun, ai gweld hwnnw fel dyfodol i wleidyddiaeth oedd Sion Eirian? Wrth edrych ar blot y ddrama a‘r prysurdeb teuluol a gwleidyddol oedd yn rhan o'r digwydd, 'a oedd Eli yn cael ei stwffio yn y canol fel protest dros heddwch neu dros fywyd arferol i’w phlentyn? Neu a oedd y babi yn ei bol yn fwy fel bom yn sibrwd yn dawel a neb yn ei glywed.
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Photo
Tumblr media
SCARLETT
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
SCARLETT
Drama gan Colette Kane wedi’i hysgrifennu yn 2012.
Dyma ddrama gyda merched yn ganolbwynt iddi. Wedi’i gosod yn Ne Cymru, mewn ardal wledig iawn ymhell oddi wrth bawb a phopeth. Mae’r ddrama yn canolbwyntio ar fywyd Scarlett, dynes ganol oed yn ceisio darganfod ei phwrpas yn y byd bach hwn.
Mewn tair cynhedlaeth o ferched beth sydd wedi newid?
Yn y flwyddyn y cafodd y ddrama ei hysgrifennu roedd y gair ‘Feminism’ yn dod yn fwy cyfarwydd nag erioed ac roedd o’n rhywbeth roeddem ni fel merched yn brwydro i’w gyfiawnhau.  Felly, pam dewis gosod y ddrama mewn pentref bach yn Ne Cymru? Mae’r thema rhyddid yn chwarae rhan fawr drwy gydol y ddrama a gwelwn y ddwy ochr i ryddid yng nghefn gwlad ac yn y brif ddinas yn Llundain. Cewstiwn sydd gan bawb i’w ofyn ydy, a ydy’r mynyddoedd mawr yn caethiwo neu’n ein gollwng yn rhydd? Pan yn gwylio’r ddrama mae pob merch yn uniaethu’n syth gydag un o’r cymeriadau ac roedd hyn yn amlwg wrth glywed chwerthiniad merched o wahannol oedrannau ar wahannol adegau.
Mae’r set wedi’i gosod mewn bocs sgwar gyda drych tu ol i adeilad y capel ac yna golau LED mawr yn fframio’r cyfan. Mae cael y ffram o olau yn newid lliw o amgylch y set naturiolaidd ac yn ychwanegu dwy ddeimensiwn gwahannol i’r ddrama. Mae cydsyniad bod popeth yn digwydd mewn un lle cyfyng, ond eto mae’r actorion yn dal i gyfathrebu a chysylltu gyda’i gilydd ar ol iddynt adael y llwyfan yn rhoi syniad bod y byd yn dal i fyn ymlaen tu allan i’r bocs bach o lwyfan. Defnyddion nhw lwyfan gwth ac roeddent wedi gwneud llawn ddefnydd gyda’r llwyfanu hwn. Roedd y cymeriadau yn aml gyda’u cefnau at y gynulleidfa, ond roedd hyn yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar gymeriad arall oedd ar y llwyfan, ac wrth wneud hynny roedd ein perthynas ni gyda’r cymeriad hwnnw yn tyfu.
Taith bywyd merched ar draws yr oesau sydd yma. Gofynnwn a ydyn ni’n twyllo ein hunain ein bod ni wedi newid neu ydyn ni’n cymryd y camau sydd eu hangen er mwyn sicrhau ein dyfodol ni fel rhyw?
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Photo
Tumblr media
Pwy fydd nesa yn y pair
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Text
Beth yw protest? Pam mod i'n protestio am rywbeth nag ydw i'n ei haeddu?
0 notes
mwydro-miriampd-blog · 8 years ago
Photo
Tumblr media
Dwi o blaid! #1afIMiriam
0 notes