Tumgik
#edward prosser rhys
queerwelsh · 4 years
Photo
Tumblr media Tumblr media
E. Prosser Rhys was born on this day, on the 4th of March, 1901.
Born near Mynydd Bach, Ceredigion, a monument on Mynydd Bach celebrates 4 local poets who found success in the National Eisteddfod.
Prosser Rhys won the Crown in the National Eisteddfod in 1924 with ‘Atgof,’ a poem which explored a young man’s relationship to sex, including with another man. This certainly shocked some at the time, though Prosser Rhys was already a part of the young blood in Welsh poetry and literature (his volume published in 1923 was titled ‘Gwaed Ifanc,’ literally ‘Young Blood,’ showing that this was how he saw himself.)
It is thought this part of the poem was about Morris T. Williams, the husband of Kate Roberts (known as Brenhines Ein Llen - Queen of our Literature - who was herself possibly queer), who Prosser is known to have had a relationship with.
Prosser also had a successful career as an editor of Y Faner, founder of Gwasg Aberystwyth and he published Cerddi Prosser Rhys (a volume of his poems, some others of which had a queer tone) in 1950.
Prosser married Mary Prudence Hughes in 1928 and they had one daughter together, so Prosser is thought to have been bisexual. He suffered ill health from a young age and died on the 6th of February, 1945. Morris Williams died in 1946, which was more likely due to his alcoholism.
Atgof can be read here and Memory, the translation, can be read here.
Images, not mine, of Prosser Rhys and of his grave in Aberystwyth.
103 notes · View notes
sylvarwolf · 7 years
Text
Tolaeth Death Sounds - British Goblins CT020
Tolaeth Death Sounds
British Goblins: Welsh Folk Lore, Fairy Mythology, Legends and Traditions (1881) Book 2 Chapter 8
by Wirt Sikes
The Tolaeth Death Sounds includes the strange sounds that foretell death, the story of John Clode and his wife who heard the coffin arrive in their home two days before their son died! Sounds of rapping, knocking, people moving are all commonplace. Sikes tells us the story of the railway accident at Pontypridd, and a couple living nearby heard ghostly footsteps upstairs in their house. Edward Lloyd heard a ghostly voice while lying ill in bed. We hear about the Goblin Funeral which can precede a real funeral by several days. The Cwn Annwn, or Dogs of Hell, howl through the air and the story of Pwyll. King Arthur and the Wild Hunt.
Running Order:
The Tolaeth Death Portent 0:54
Its various forms 1:40
The Tolaeth before Death 1:53
Ewythr Jenkin's Tolaeth 6:00
A Modern Instance 7:54
The Railway Victim's Warning 9:10
The Goblin Voice 10:10
The Voice from the Cloud 11:12
Legend of the Lord and the Beggar 12:25
The Goblin Funeral 14:02
The Horse's Skull 15:13
The Goblin Veil 16:24
The Wraith of Llanllwch 17:19
Dogs of Hell 18:32
The Tale of Pwyll 19:46
Spiritual Hunting Dogs 22:55
Origin of the Cwn Annwn 22:28
  Names Used in this Section
All proper names, and words in Welsh or other languages, are recorded here in the show-notes and we've done our best to get the pronunciations right for you.
Tolaeth Ewythr Jenkin Llanllwch Pwyll Cwn Annwn Blaenporth, Cardiganshire Teulu Gwenllian Jenny Llynwent, Radnorshire Pontypridd Mary Edward Lloyd, Llangurig 'Y mae nenbren y ty yn craccio' (the upper beam of the house cracketh) 'Fe dor yn y man' (it will presently break) 'Dyna fe yn tori' (there it breaks) John, son of Watkin Elias Jones, Mynyddyslwyn Iolo MSS Rees Thomas, Carmarthenshire Rhiw Edwst, near Capel Ywen 'Rhys bach, pa fodd yr y'ch chwi?' (My dear Rhys, how are you?) Rev. Howel Prosser, Aberystruth Edmund Jones, the Prophet Jones Isaac William Thomas, Hafodafel llanhiddel Llanllwch Church Cwn y Wybr Pwyll, Prince of Dyfed Pembroke Narberth Glyn Cych Arawn Thomas Phillips, Telech Thomas Andrew River Ebwy Le Grand Veneur Fontainebleau, France Hackelberg, Germany Britain, King Arthur Mr. Baring-Gould Odin William Henderson Hermes Devonshire River Styx Indra
  British Goblins can be found on Archive.org
You can find out more about Wirt Sikes on Wikipedia.
Try the Celtic Myth Podshow for the Tales and Stories of the Ancient Celts at http://celticmythpodshow.com or on Apple Podcasts.
Our theme music is "Gander at the Pratie Hole" by Sláinte.  You can find their music on the Free Music Archive.
Check out this episode!
0 notes
queerwelsh · 5 years
Photo
Tumblr media
I Hen Gariad gan E. Prosser Rhys
Pan fyddo lleuad Hydref yn y nen Yn gwenu’r wên nad yw yn hen o hyd, A’r môr a’r pell fynyddoedd o tan len A droed, gan dduw yr oed, yn aur i gyd; Pan fyddo cornant lawn y mawn a’r brwyn Yn frwd gan antur ym Mhant Arthur draw, A’r gwynt wrth Droed y Foel, o lwyn i lwyn, Yn cellwair â chariadon am a ddaw-- Bryd hynny, fe fydd hiraeth na bu ‘rioed Ei anniddicach ar gy nghalon i-- Na chaffwn eto’r traserch imi a roed Un Hydref arall, yma, gennyt ti, Ac na rôi’r Hydre’n ôl y nefol nwyd I un a’i collodd yn y Gaeaf llwyd.
o ‘Cerddi Prosser Rhys,’ 1950.
7 notes · View notes
queerwelsh · 5 years
Photo
Tumblr media
Y Pechadur gan E. Prosser Rhys
Eisteddem, dri ohonom, wrth y tân, A thrymder Tachwedd ar hyd maes a stryd, Eisteddem, wedi blino ar lyfrau’n lân, A sgwrsio am “ddeniadau cnawd a byd.” Soniasom am y pethau ffôl na ŵyr Ond llanciau gaffael ynddynt liw na gwres, Y pethau a gerdd ar lanw eu gwaed fin hwyr, A phorthi heb borthi’u blys; a’u tynnu’n nes. Ym mhen y sgwrs addefais innau’r modd Y pechais i tan drais cywreinrwydd poeth; Gofynnais a bechasent hwy? . . . . A throdd Y ddau, a brolio eu hymatal doeth! Ac yno, wrth y tân, yn un o dri, Gwelais nad oedd bechadur ond myfi.
O ‘Cerddi Prosser Rhys,’ 1950.
6 notes · View notes
queerwelsh · 5 years
Text
“Atgof” gan E. Prosser Rhys
Enillodd E. Prosser Rhys y Goron yn Eisteddfod Cenedlaethol 1924, efo “Atgof,” i feirniadaeth oherwydd y themâu rhywiol (o natur heterorywiol ac hoyw).
ATGOF.
YSTORI LLANC SYNHWYRUS.
“The imagination of a boy is healthy, and the mature imagination of a man is healthy; but there is a space of life between, in which the soul is in a ferment, the character undecided, the way of life uncertain, the ambition thick-sighted. . .” John Keats. Yn ei ail rhagymadrodd i’w “Endymion.”
 Mi rusiais rhagddo drwy flynyddoedd blin Ieuenctid nwydus, er ei daerni ef; Gomeddwn wrando ar ei eiriau rhin Er gweled uffern ym mhen draw pob nef. Ymyrrwr, meddwn, oedd, a fynnai im’ Geisio yn llwfr ryw ddiogelwch gwael, A minnau eisiau ildio i chwim a chwim, A bwyta gwaharddedig ffrwyth yn hael. Ond fe’m dilynai er fy rhusio i gyd, Heb ddim a darfai ei ddewinol ddawn; Adwaenai dro fy meddwl claf o hyd,– Dilynai a dilynai’n agos iawn, Fel petai gennad gor-ofalus Dduw I’m gwarchod rhag y gwybod sydd o Fyw.         *                *                * Mwg mawn! Aroglau hwnna, dyn a wŷr, Drwy’r ffroen a gerdda i’m synhwyrau’n glau, Oni’m meddiennir i gan Atgo’n llwyr, A’m dwyn i’r cartref gwyn rhwng perthi cau. Cofiaf yr ystafelloedd bach, a gwawr Y celfi hen, a’r cynefin-dra rhydd; A mam a thad er llawer tywyll awr Yn sugno o Gariad gysur at y dydd. A chofiaf stormydd hwyr yn chwipio’r drws A minnau’n ‘swatio’n felys wrth y tân, Hyd oni’m denai cwsg â’i gellwair tlws I fynwes mam, a’m suo gan ei chân. A bwrw fy mlino o egnio cyd Heb ofn y nos rhwng dau ddedwydda’r byd. Rhwng dau ddedwydda’r byd! . . Mi gefais fyw Yn hwy na diogelwch Maboed iach, A gweld Dedwyddwch, yn nyryswch Rhyw Yn nychu a darfod, yn y cartref bach. Cans yma, a mi’n prifio, gwyliais un Yn wylo a chynddeiriogi yn ei thro Tan fin y gwir fod tad ei phlant ei hun Yn peri son amdano hyd y fro. A chalon mam,–er ei chystuddio’n ddwys Wrth dorri troeog gwys o’r llan i’r bedd– Ni wybydd gystudd o gyn drymed pwys A cholli nerth ei Rhyw, a’i harddwch gwedd, A’r gwr a’i treuliodd eto a’i waed yn dwym,’ A dim ond Arfer oer i’w cadw yn rhwym. Arfer i’w cadw yn rhwym! Pond enbyd fai Meddwn, oedd ei mwsogli hi, erioed, A Rhyw mor wamal yn ei lanw a’i drai, A’r gwendid rhagddo i bob un a roed? Pond ofer tyngu’r llw yng ngwyddfod Duw A ni heb wybod hyd a lled ein chwant, A chicio’r tresi’n ffôl tra fyddwn fyw, A’u cicio, wedi’n myned, gan ein plant? A chredais, gartre, ym mwg y mawn, a’r boen, Nag ydoedd Cariad namyn Rhyw i gyd,– Mai pranciau anghyfrifol cnawdol hoen Oedd Cariad–i’w fwynhau tra dalio’i hud, Na fynnai brisio dull Gwareiddiad salw– A chrwydro draw ac yma yn ôl ei alw. Yn ôl ei alw! Pa bryd y meliaist ti Gariad, mewn unpeth ond dy hwyl dy hun? A pham yr ofer-geisir, holwn i, Dy blethu’n ddof i Economeg Dyn? Mynnaist ti d’oglais â chwrteisi hen, Rhwysg twrnamaint a gwiw sifalri gweilch. Tynnaist o feirdd a doethion arial Llên. Drysaist gynlluniau ymerodron beilch. Ac er yn gryfach na’r mynyddoedd mawr Oriocach ydwyt na’r awelig wan; A deimlo sicrwydd dy gofleidiau ‘nawr, Ni ŵyr lle bo dy ffansi yn y man . . . Ond ni’th lurguniaf i rhag Arfer wyw Cans tramwy wrth dy fympwy di yw Byw. Byw! Gwawdiwn innau gri’r parchusion mwy Fod Cariad dau yn rhywbeth trech na’u Rhyw? Beth am fy ngartre’ nad oedd gartre’n hwy? . . . A fei-id y Diawl am reddf a greodd Duw? Derbyniaf Gariad, meddwn, fel y mae; Mae f’ ifanc gorff yn blysio am ei rin; Mynnaf y merched gwympaf imi’n brae A feddwo fy synhwyrau oll fel gwin. A throed fermiliwn ymachludoedd hir Gilfach y graig yn rhyw bantheon nwyd; Datganed adar bob gorfoledd clir; Dawnsied awelon dros y rhostir llwyd, A chwardded lleuad wen a mintai’r sêr Ar ddeuddyn Cariad yn eu poenau pêr.          *                *                * Dyna f’ adduned. A phan wnaethpwyd hi Dibaid y doi ymadrodd ar fy ol: Cyn byw i ddim ond Rhyw, ymbwylla, di, A phechu i’th erbyn di dy hun mor ffol. Onid priodi a chartrefu dau Achlesodd wreiddiau Meddwl y ddi lyth? A pheri dywed trwy ogleisiau brau Natur yn llefain am gael byw am byth? Nid anffawd Pleser roddi i fam y boen O eni’i phlentyn, a’i hymwadu drud– Cans dyma offrwm Bywyd yn ei hoen Ar allor Cariad er mwyn cadw’r byd. Gochel! Mae’r allor yn rhy gysegredig I’w d’wyno gan dy reddf annisgybledig. Aroglau’r pridd! Mae clywed hwnnw o hyd Ar glaear ddyddiau’r Gwanwyn, rhag y troi, Yn cadw’n ddifarw fyth yr Atgof drud Am f’ awydd am fercheta, a’m hynfyd ffoi. O afael pob myfyrdod a pherswâd I brofi Cariad yn ei angerdd noeth; Digon i mi oedd cyfeiliorni ‘nhad I’m clust-fyddaru i’r llefaru doeth . . Aroglau’r pridd! Aroglau’r ddaear hen Fu gynt yn esmwythâu f’ ymennydd i,– Pigyn a beri mwyach, ac nid gwên. Gwae imi lygru d’ addfwyn burdeb di. Cyn gwybod bod a brofir, o bob rhyw. Yn rhan ddi syflyd o Gelfyddyd Byw. Celfyddyd Byw! Nid oedd fy mryd ar ddim Ond meddwl ar y gwin sy’n enaid merch . . . Gwelaf yn awr y nos a bennais im’ Gwrddyd a Mair ar berwyl anllad serch. Uchel oedd llef yr arddwyr yn y maes, A’r cwysi coch yn gollwng tawel sawr. ‘Roedd Byw yn ganu yn y masarn llaes; A Byw yn brancio ar y mynydd mawr. Llawen i’m golwg oedd a welwn oll; Llawen i’m clust a’m ffroen a glywn, bob cam; A llawen oeddwn i–a bron ar goll– A Byw i minnau–’nawr–o fewn fy llam, A’i holl aeddfedrwydd gogoneddus hi Yn rhyw amharod-ddisgwyl wrthyf I. Yn disgwyl wrthyf! Ar lan y llyn Yr eisteddasom fel y cochai’r hwyr. Nesheais ati hi, a’i gwasgu’n dynn, A’i hanner-annog i ddibristod llwyr. Llenwais ei llygaid du â mwynder maith; Cusenais â gwefusau gwancus, llawn; Teimlais ei ffurf hudolus lawer gwaith; Gyrrais ei gwaed ar gerdded cyflym iawn. O funud dwymn i funud, fe ddaeth tro Penllanw gorchfygol Rhyw, ac ildio’n dau . . . A wybu dyn felystra fel efô Yn treio–a throi’n atgof hyll–mor glau? . . . Cerddasom adref, heb ddim son am garu A minnau ar y Pleser wedi alaru. Wedi alaru! . . Pe na baem ninnau weithion Ond nawmlwydd, Mair, yn lle’n deunawmlwydd blin Ni byddai gwyllt bwerau Rhyw yn gweithio’n Anesmwyth ynnom hyd nes cael ei rin. Lluniem “dy bach” rhwng bonau’r grug, heb frys; Neu lamu’n droednoeth drwy ddwr bas y llyn; Neu gynneu eithin; neu loddesta ar lus; Neu gasglu blodau coch a glas a gwyn. Gwae, gwae na feddem heno ar ein hynt Ffraeth ddiniweidrwydd dyddiau’r nawmlwydd iach, A glendid o anwybod megis cynt, A dim yn gwasgu ar y galon fach,– A holl ddadrithio poenus deunaw oed Heb ddyfod i’n hwymwybod ni erioed. Heb ddyfod inni ‘rioed! Mi dybiais, do, Mai ‘mroi i reddf y Cnawd oedd diben Byw Ond fe’m syrffedodd hynny, ar un tro, A merch ni fynnwn mwy, na son am Ryw. Gwall ydoedd Rhyw yng nghreu y bud,–tabŵ, A halog ydoedd merch a’i meddal fodd. Melltithiais innau fy anniwair lw, A chanu’n iach a’r cwbl i gyd, o’m bodd. Siomedig ydoedd Rhyw, er gweu o ddyn Ramant amdano’n gain. Mynswn yn awr Mai Cyfeillgarwch oedd a roddai i un Y Bywyd helaeth glan. Gwasgwn i lawr Flys Rhyw, a’i ymlid. Ni chai ‘nhwyllo’n hwy Cysegrwn f’ oes i Gyfeillgawrch mwy.         *                *                * Dyna f’adduned. A phan wnaethpwyd hi Dibaid y doi ymadrodd ar fy ol; Ymswyna rhag doctora Rhyw, dydi, A phechu i’th erbyn di dy hyn mor ffol. Mae Cyfeillgarwch gwyr yn nhroeon Ffawd Fel llinyn aur drwy holl groniclau’r byd; Ni warafunaf iti ar dy rawd Gael profi o ddigrifwch hun i gyd; Ond gwylia bwyso gormod arno fo Oherwydd dy syrffedu, dro, ar ferch, A thybio yrru felly Rhyw ar ffo:– Geill deu-gnawd un-rhyw ei ail-alw yn erch, A gwneuthur Cyfeillgarwch wedi hyn Yn waeth na Chariad anllad glan y llyn.         *                *                * Aroglau gwair ar lawr! Dim ond ei glywed Ar awel lariaidd diwedd dydd o haf A ddwg yn ol yr Atgof hwnnw a ddywed Am adeg Cyfeillgarwch. Cofio wnaf Y fel y treiglais ar fy nyfal gais Am gyfaill a rôi imi’r sylwedd gwir, Heb gymryd arnaf glywed gair y Llais, Na digalonni er fy siomi’n hir; A’r fel y deuthum hyd at degwch glan Menai hudolus un ariannaid hwyr, Ai gwrdd efô luniais yn y man Yn bartner enaid a bodlonrwydd llwyr, A sawl y ‘stodiau wrth Lan Faglan syn Yn fendith dawel ar ein cwlwm tynn. Ein cwlwm tynn! Di, lanc gwalltfelyn, rhadlon, Gwyddost y cyfan a fu rhyngom ni,– Yr holl ymddiried gonest, a’r afradlon Arfaethau glân a wnaethpwyd ger y lli. Haerasom fod y byd yn ddrwg i’w fôn; Mynasem gael y byd o’i fôn yn dda; A’i roi mewn moddau byw fel na bai sôn Am wanc neu syrffed fyth ar ddyn yn bla. Tyngasom ddiystyrru’n greddfau gwael: Nid oedd y Corff ond teml y Meddwl drud; Er blysio o Ieuenctid garu’n hael Nid ildiem ni i ddim rhyw gnawdol hud, Cans oni chlywem annog pêr o bell Ar inni gyrchu at y Bywyd Gwell? Y Bywyd Gwell! . . Cofiaf y noson dawel Y cerddem adref hyd ffordd Fethel draw, A’r wlad heb ddwndwr dyn na llafar awel A’r gwair yn arogleuo ar bob llaw.– Ni fynnai’n Meddwl fenthig hanner gair A ninnau o ryw Wybod mawr mor llawn, Pan dorrodd esmwyth ganu i’r Forwyn Fair O gwfaint rhwng y coed yn beraidd iawn. Safasom. A charthasom yno bwys Ein beiau parod, dybiem ni, yn llwyr, Rhag miwsig hen y geiriau Lladin glwys A gant dirweirllu’r oesodd gyda’r hwyr I ymlid cof am hudoliaethau’r byd O gêl gilfachau eu Meddyliau i gyd. Cilfachau eu Meddyliau! Fe gredasom Ninnau, ill dau, fod ein Meddyliau’n lân Y noson ryfedd honno, a hunasom A’n clustiau yn ail-ganu’r santaidd gân Hunasom . . Rywdro hanner-deffro’n dau; A’n cael ein hunain yn cofleidio’n dynn; A Rhyw yn ein gorthrymu; a’i fwynhau; A phallu’n sydyn fel ar lan y llyn … Llwyr ddeffro . . ac ystyried beth a wnaed … Fe aeth f’ ymennydd fel pwll tro gan boen; Roedd Cyfeillgarwch eto’n sarn tan draed, A ninnau gynnau’n siwr santeiddio’n hoen! Mi lefais: Gad fi’n llonydd bellach, Ryw Yn wyf yn glaf, yn glaf, o eisiau Byw! Byw! Mi chwenychais brofi’i hyfryd flas, Ond rhyngof i a Byw mae gallu Cnawd Yn fy ngormesu iddo’n ufudd was, A rhwystro a ddeisyfo ‘Meddwl tlawd. Beth wyt ti Gnawd? Tydi, a dawdd y Gwres A lasa’r Oerfel; ac a waeda’r Dur; A gwsg; a sieryd; ac a ddibynna ar bres; Sy’n gweld; sy’n clywed; ac yn cynnwys Cur? Beth wyt ti, Gnawd? Tydi ar siawns a wnaed Rhag trachwant Rhyw dau na’th fynasent ddim, A’r trachwant hwnnw’n ysfa yn dy waed Dithau bob dydd a nos? O dywed im’! A pham y rhoed mewn llestr mor salw ei lun Rywbeth o ddeunydd gwell na’r llestr ei hun? Ffordd arall wedyn a ddyfelais i, Ac wedyn daeth ymadrodd ar fy ol: Cyn llwyr-ymwadu a Rhyw, ymbwylla, di, A phechu i’th erbyn di dy hun mor ffol, Gomeddwm iti ei ddefnyddio’n gam, A llygru sianel santaidd Natur fawr; Ac erchais iti ymswyn rhag rhoi nam Ar Gyfeillgarwch yn dy nwydus awr. Ond ni wrandeuaist. Prechaist, a syrffedu Ar Gariad merch a Chyfeillgarwch dyn. A mwy, yr wyd yn feddal iawn yn credu Mai haint yw cyffwrdd Cnawd, a charu llun Mwynder o’th gyrraedd . . Gwagedd, gwagedd yw! . . Priodi Cnawd a Meddwl–dyna yw Byw.         *                *                * Aroglau’r gwymon! . . Gwelaf haul yr haf Yn rhoi esmwythyd mwyn i donnau’r lli, A’r bobloedd fodlon ar y draethell braf Yn ymddigrifo yn y chwaon ffri. Aroglau’r gwymon! . . Clywaf firi’r byd Yng ngherdded brwd yr offerynnau cerdd, A rhyw rianedd yn eu gwyn i gyd Yn chwerthin gyda’r hwyr ar lannerch werdd. Aroglau’r gwymon! . . Cerddwn ynddo’n syn A’m gwybod wedi annibennu f’ oes, A sylwi ar un o ri’r rhianedd gwyn Yn sylwi arnaf i . . Ciliodd y loes A wasgai arnaf rhag ei gwen fach, araf … Tyngais yn fyr fy mhwyll: Myfi a’i caraf! Myfi a’i caraf, meddwn; er bod Rhyw A Chariad wedi’u drysu’n ddi wahân, Rhaid bod gorawen Cariad pur o Dduw, A hoywai ddau, pe lleddid Rhyw yn lân. A medrwn hynny’n awr. My rwystrwn Gnawd I orfod eto at fy Meddwl I . . . Ni thorrem air; ni cherddem ar un rhawd; Ac ni chusanem, ni chofleidiem ni. Gwelwn y fun yn gyson ger y donn A digon oedd ei gweled i’m boddhau. Cyfleai’n llygaid Gariad dwfn y fron; Deallai’r naill ystori’r llall yn glau. A mynegasom yn ein caru mud Deimladau drechai holl dafodau’r byd. Tafodau’r byd! Sur y mynegent hwy Y gwynfyd rhyfedd barai’r fun i mi; Tystiwn fod diwedd ar f’ anffodion mwy A Buw hyfryted yn ei golwg hi. Ffenestri’i chalon oedd ei llygaid glas, A phurdeb plentyn ynddynt, er ei hoed, Gwyl oedd ei hagwedd, heb awgrymu cas Yn llercian yn ei gwisg na cham ei throed. ‘Roedd Bywyd, er fy siomi dro a thro Yn fwy na gwerth y cwbl a gostiodd im’, Ni fedrai’r byd, er ei gyfrwysed o Amgyffred ei gyfaredd ddwyfol ddim, Ac yntau o hyd yn rhygnu’r un hen dant Nad ydyw deuoedd ond peiriannau plant. Peiriannau plant! Gwae beri o’r gwymon gofio Yr hwyr y staeniwyd Cariad glan y môr. Dichon mai gweld y rheiny ddoi o nofio Gyffroes a ddirgel-gronnai ynnwy’n stôr … Ond gwn i mi freuddwydio ganol nos Gael pleser wrth halogi ‘nghariad fud … Yr oedd yr ieuanc Wawr yn cleisio’n dlos Pan giliodd Cwsg . . Cofiais y cwbl i gyd … Gwyr Duw im’ wylo dagrau chwerwon iawn Uwchben gresynus wedd fy mwriad glân … Mentrais i’r traeth a’r heulwen y prynhawn, Ond mi ddihengais mewn rhyw uffern dân O gyrraedd pawb o’r byd pan welais i Euogrwydd hefyd yn ei llygaid hi!         *                *                * Yng nghanol coed yr oeddwn, a thorr-calon Yn wŷniau drosof. Llefais: Ofer waith Yw ymarfogi rhag fy nygn dreialon; Fe gafodd Rhyw wall arnaf. Ffaith yw ffaith. Bellach, Tydi y rhusiais rhagot cyd, Siarad â mi; nyd wy’n dy ofni’n hwy. Gyfarwydd rhyfedd, Broffwyd siwr o hyd Beth a olygi? Mi’th wrandawaf mwy . . . Pwyso fy mhen ar gnwd o borfa wedd . . . . Y coed yn gysgod mwyn rhag haul y nef . . . Calon y byd yn curo, curo . . . Cerdd Rhyw dderyn bychan, sionc. . . Chwyth awel gref . . . Petrusgar osteg dwys . . Distawrwydd mawr . . . A’r Rhywun, yntau, yn llefaru’n awr:         *                *                * Fe blygaist dithau, er dy ystyfniced O’r diwedd, wedi ‘ngochel lawer gwaith, Gwyddwn o hyd na fedrai d’i anniddiced Ei lygaid-dynnu rhagof i drwy’r daith. Fe’m gelwaist yn Gyfarwydd rhyfedd, gynnau, A Phroffwyd siwr. Ynfyd o beth yw dyn! Nid ydoedd a’th ddilynodd hyd y grynnau Dorrit yn ofer ond Tydi dy Hun. Fel pe mynasai’r Bywyd sy’n y maes– Y dderwen gadarn neu’r glaswelltyn main, Lesteirio’r Rhin a dynn eu gwreiddiau llaes O’r pridd a’u magodd i’w grymuso’n gain, A methu ganddynt dorri’n ddail a blodau A nychu’n ddiymadferth drwy’u cyfnodau. Cans Rhin dy Fywyd dithau ydwyf i A dynn dy wreiddiau fyth o bridd dy dras, Gwesgaist fi ‘ngwaelod dy ymwybod, di, A phoeni mewn anallu heb fy ngras, Nid ydwyf i na da na drwg,–i gyd– Mae blas dy bridd, a’i wrtaith, arna’ i’n drwm, Efallai na bydd ddoeth fy ngair bob pryd, Ac y crafangaf wrth ragfarnau llwm, Ond rhaid i’th Gnawd a’th Feddwl di eu plygu I wneuthur a orchmynnwyf i drwy d’oes; A thrwof caiff dy Fywyd ei amlygu Fel, fel y mae, mewn chwerthin ac maen loes; A gwybod y bodlonrwydd sydd o Fyw Yn gwbl chywir yn ol Diben Duw. Fe blygaist, do, ond nid cyn pechu i’m herbyn; Ac ni bu bechod heb ei gosb erioed; Llechu ni cheffi’n unman rhag ei derbyn,– A’r llymaf cosb yw cosb yr ifanc oed. Nid ei di adref i arogalu’r mawn Na chofi eto ddechreu’r crwydro ffol; Ni chlywi sawr y pridd, wanwynol nawn, Na ddaw a wnaethost ti a Mair yn ol; Ni chlywi fyth aroglau gwair yr haf Heb gofio llygru’r Cyfeillgarwch cu; Na sawr y gwymon na ddaw methiant claf Y caru anghyffwrdd, eto i’th gof yn hy. Felly y teli bris dy feiau oll Nes pylo colyn Atgo, a mynd ar goll.
4 notes · View notes
queerwelsh · 5 years
Photo
Tumblr media
Un Ar Hugain gan E. Prosser Rhys (21)
Gwae bod ieuenctid yn fy nghalon fach, A’i hoen yn anesmwythyd yn fy ngwaed; Gwae i mi amau y credoau iach, A bwrw a barchai ‘nhadau tan fy nhraed; Gwae i mi feddwl fy meddyliau f’hun, A gwag freuddwydio fy mreuddwydion oll; Gwae i mi wgu ar ragrith, ar bob llun, A ffol ddyheu am ryw gywirdeb coll-- Ac na chawn ysbryd hen, a bodlon iawn, A gallu caru Crist y Pulpud Pren, A chredu bod y nef, beth bynnag wnawn, Yn dyfod a’i harfaethau i gyd i ben; A theimlo’n hogyn un ar hugain oed Na bydd y byd ond fel y bu erioed.
https://journals.library.wales/view/1319198/1319490/11#?xywh=406%2C2123%2C2128%2C1753
0 notes
queerwelsh · 3 years
Video
youtube
Cariad yw Cariad gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Mas ar y Maes (gyda Stonewall Cymru) a mwy.
Hanes LHDT+ Cymru o Edward Prosser Rhys a Morris T. Williams, gyda golygfeydd o “Atgof” (1998), i Stonewall, HIV/AIDS, Margaret Thatcher, Cymal 28, CYLCH a Mas ar y Maes. Gyda Daniel Gwyn Evans yn adrodd yr hanes.
Gyda perfformiadau gan artistiaid LHDT+ Jalisa Andrews, Meilir Rhys, Catrin Finch, Dylan Cernyw, Catrin Herbert, Jordan Price Williams, Nia Medi, Ryan Vaughan Davies a Math Roberts.
Gobeithio bod chi gyd wedi cael Mis Hanes LHDT+ gwych, a gwyliwch fwy o gerddoriaeth a chynnwys LHDT+ Cymraeg gan Mas ar y Maes a gan Hansh.
14 notes · View notes
queerwelsh · 5 years
Text
LGBT+ History Month & Wales - Cymru & Mis Hanes LHDT+
This is a guest post I made for LGBT+ History Month 2018, on the National Library of Wales’s blog. (Welsh version below.)
Wales & LGBT+ History Month Wales & LGBT+ History Month For fifteen years, February has been regarded as the month to celebrate the histories of lesbian, gay, bisexual, transgender and queer people, and anybody else who may fit into the LGBT+ umbrella. LGBT+ History Month 2018 has seen the most events in Wales yet – such as Pride Cymru’s event at the Senedd. From studying the LGBT History of Wales, I’ve found that the National Library is a hive of secondary and primary resources into Welsh LGBT Histories. Anyone who has used their archives will know it is a great resource to uncover personal histories – such as Welsh women’s histories. Similarly, Welsh LGBT+ people’s histories are still being uncovered. This month, or any other month, read the history of a Welsh LGBT+ person, celebrate them, and maybe help uncover the history of Welsh LGBT+ people. Here are fourteen key figures in Welsh LGBT+ history who can be researched at the National Library of Wales – to be celebrated this month, and hopefully to always be celebrated in Welsh history. 1. The Ladies of Llangollen are the most well-known Welsh LGBT+ figures. They were Sarah Ponsonby [1755-1831] and Eleanor Butler [1739-1829], two Irish women who escaped their family to live their lives together at Plas Newydd in Llangollen. Much has been written about them, which can be read at the National Library. Archives related to the Ladies at the Library include portraits, letters, facsimiles of their account books, electronic resources and other papers. NLW MS 21682C – Letters from Ladies of Llangollen NLW MS 23699E, ff. 135-137. – Letters of the Ladies of Llangollen NLW MS 23980F, ff. 24-25. – Ladies of Llangollen letters NLW MS 22768D. – Ladies of Llangollen letters Cardiff MS 2.908. – Ladies of Llangollen Bodrhyddan Estate Papers, Deeds and Documents 57 – Letter: Sarah Ponsonby to Miss Williams Wynn. Endorsed ‘Last Letter from Miss Ponsonby’ NLW Facs 18. – ‘Ladies of Llangollen’ account book NLW Facs 19. – ‘Ladies of Llangollen’ account book NLW MS 19697B. – A personal and household account book of the ‘Ladies of Llangollen’ in the hand of Sarah Ponsonby Other writings on the Ladies includes accounts on them from the period, Ceridwen Lloyd-Morgan’s Papers of the ‘Ladies of Llangollen’ and Susan Valladares’ article on Anne Lister’s meeting with the Ladies. 2. Katherine Philips [1631-1664] was an Anglo-Welsh poet who Norena Shopland has uncovered as ‘The Welsh Sappho.’ Philips is one of the earliest examples of poetry around her ‘romantic friendships.’ NLW MS 775B. – Katherine Philips poetry NLW MS 776B. – Katherine Philips poetry NLW Facs 739. – Katherine Philips poem NLW Films 943-6 – Katherine Philips Microfilms NLW MS 21702E. – Barddoniaeth amrywiol 3. Frances Power Cobbe [1822-1904] and Mary Charlotte Lloyd [1819-1896], like the Ladies of Llangollen lived in Wales together. Cobbe was a well-known suffragette, campaigner and writer – Mary Lloyd was a Welsh sculptor who lived as her partner. Sources on Lloyd are mainly from Cobbe’s writings. Minor Deposit 1309-15. – Manuscripts of Frances Power Cobbe of Hengwrt, Dolgellau, religious philosopher, &c NLW ex 1865-7 – Frances Power Cobbe Bequest 4. Sarah Jane Rees (Cranogwen) [1839-1916] was a writer, editor, sailor, lecturer, and editor of Y Frythones, and was in a lifelong lesbian relationship, as written by Jane Aaron in Queer Wales. Sarah Jane Rees (‘Cranogwen’) Cerddi i Maggie Eurona gan Cranogwen. NLW MS 23895A. – Anerchiad gan Cranogwen Sarah Jane Rees (‘Cranogwen’) poetry 5. Amy Dillwyn [1845-1935] was an industrialist and feminist who also published novels with lesbian and cross-dressing themes. The novels published by Honno, her biography David Painting and other writings about her by Kirsti Bohata can be read at the Library. Amy Dillwyn papers 6. Gwen John [1876-1939] is probably the most well-known female Welsh artist – less well-known is her relationships with women, such as Véra Oumançoff. Gwen John manuscripts 7. Margaret Haig Mackworth, 2nd Viscountess of Rhondda, [1883-1958] also had relationships with men and women and is well-known as a suffragette. Books by and about her (i.e. Angela John) can be found in the Library. 8. George E. J. Powell of Nanteos [1842-82], has been written about by Harry Heuser in Queer Wales and New Welsh Reader. NLW Facs 417. – Letters to George E. J. Powell, Nanteos Minor Deposits 1394-97. – Letters to George E. J. Powell from A.C. Swinburne 9. Nina Hamnett [1890-1956] was the ‘Queen of Bohemia,’ a bisexual artist from Wales who was linked to the Bloomsbury Group. Search Nina Hamnett in the catalogue. 10. Ivor Novello [1893-1951] was a popular 20th century entertainer from Cardiff. NLW MS 23204D. – Ivor Novello papers NLW MS 23696E. – Ivor Novello letters 11. Rhys Davies [1901-1978] Rhys Davies Papers 12. Kate Roberts [1891-1985], known as the Queen of our Literature, was married to Morris T. Williams [1900-1946], while he had an affair with Edward Prosser Rhys [1901-1945]. E. Prosser Rhys is best known for his winning poem ‘Atgof’ in the 1924 Eisteddfod, exploring his bisexual relationships. Alan Llwyd, in his autobiography of Roberts, theorised that she may have also been bisexual. Papurau Kate Roberts 13. Margiad Evans [1909-1958] was a novelist who again was married, but it is more well known that she had a relationship with Ruth Farr, while her novelists explore themes of sexuality. Her novels, manuscripts and autobiography are at the Library, as well as writings on her, such as by Ceridwen Lloyd-Morgan, and her archived papers and letters: NLW Facs 870 – Margiad Evans Diary NLW ex 2790 (i & ii) – Margiad Evans family papers Margiad Evans Papers Margiad Evans Manuscripts NLW MS 23893E. – Margiad Evans Letters NLW MS 23994F. – Poems by Margiad Evans 14. Jan Morris. [1926-] is a Welsh writer and historian, and trans woman. She wrote Conundrum on her experiences with gender transition, as well as books on Wales, and is an important and influential Welsh LGBT figure. Jan Morris Papers
There are many more LGBT+ people from Wales increasingly being written about in queer history and Welsh history. John Davies was a leading Welsh historian who was LGBT and Jeffrey Weeks is a leading sexuality historian from the Rhondda. Other sources used by Welsh LGBT historians, such as Shopland, are newspaper articles, such as those available through the Welsh Newspapers Online. Mair Jones, MA History of Wales, Aberystwyth University. Further Reading Osborne, Huw. Queer Wales. Shopland, Norena. Forbidden Lives. Tate, Tim. Pride. Weeks, Jeffrey. Icons & Allies.
Cymru & Mis Hanes LHDT+
Dyma gofnod gwadd gan Mair Jones.
Cymru & Mis Hanes LHDT+ Am bymtheg mlynedd, ystyriwyd mis Chwefror fel mis i ddathlu hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a queer, ac unrhyw un arall gall ffitio i’r ambarél LHDT+. Mae Mis Hanes LHDT+ 2018 wedi gweld y mwyaf o ddigwyddiadau yng Nghymru eto – fel digwyddiad Pride Cymru yn y Senedd
O astudio Hanes LHDT+ Cymru, rwyf wedi darganfod bod y Llyfrgell Genedlaethol yn llawn adnoddau cynradd ac eilradd Hanes LHDT+ Cymru. Bydd unrhyw un sydd wedi defnyddio eu archifau yn gwybod ei fod yn adnodd gwych i ddatgelu hanesion personol – fel hanesion menywod yng Nghymru. Mae hanesion pobl LHDT+ Cymru hefyd yn dal i gael eu datgelu. Mis yma, neu yn unrhyw fis arall, darllenwch darllen hanes person LHDT + Cymraeg, dathlwch, ac efallai helpwch i ddatgelu hanes pobl LHDT+ Cymru.
Dyma bedwar ar ddeg o ffigurau allweddol mewn hanes LHDT+ Cymru y gellir eu hymchwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – i’w ddathlu’r mis hwn, a gobeithio o fewn hanes Cymru.
1. ‘Ladies of Llangollen.’ Rhain yw’r ffigyrau LHDT+ mwyaf adnabyddus o Gymru. Yr oeddent yn Sarah Ponsonby [1755-1831] ac Eleanor Butler [1739-1829], dwy fenyw Gwyddelig a wnaeth ddianc o’u teuluoedd i fyw eu bywydau gyda’i gilydd ym Mhlas Newydd yn Llangollen. Ysgrifennwyd llawer amdanynt y gellir eu darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae archifau sy’n gysylltiedig iddynt yn cynnwys portreadau, llythyrau, ffacsimilïau o’u llyfrau cyfrif, adnoddau electronig a phapurau eraill. NLW MS 21682C – Letters from Ladies of Llangollen NLW MS 23699E, ff. 135-137. – Letters of the Ladies of Llangollen NLW MS 23980F, ff. 24-25. – Ladies of Llangollen letters NLW MS 22768D. – Ladies of Llangollen letters Cardiff MS 2.908. – Ladies of Llangollen Bodrhyddan Estate Papers, Deeds and Documents 57 – Letter: Sarah Ponsonby [one of ‘The Ladies of Llangollen’] to Miss Williams Wynn. Endorsed ‘Last Letter from Miss Ponsonby’ NLW Facs 18. – ‘Ladies of Llangollen’ account book NLW Facs 19. – ‘Ladies of Llangollen’ account book NLW MS 19697B. – A personal and household account book of the ‘Ladies of Llangollen’ in the hand of Sarah Ponsonby Mae ysgrifau eraill arnynt yn cynnwys cyfrifon ohonynt o’r amser, Papers of the ‘Ladies of Llangollen’ gan Ceridwen Lloyd-Morgan ac erthygl Susan Valladares arnynt yn gyfarfod Anne Lister.
2. Roedd Katherine Philips [1631-1664] yn fardd Anglo-Gymreig y mae Norena Shopland wedi darganfod fel y ‘Welsh Sappho.’ Mae Philips yn un o’r enghreifftiau cynharaf o farddoniaeth o gwmpas ‘gyfeillgarwch rhamantus’. NLW MS 775B. – Katherine Philips poetry NLW MS 776B. – Katherine Philips poetry NLW Facs 739. – Katherine Philips poem NLW Films 943-6 – Katherine Philips Microfilms NLW MS 21702E. – Barddoniaeth amrywiol
3. Roedd Frances Power Cobbe [1822-1904] a Mary Charlotte Lloyd [1819-1896], fel Ponsonby a Butler, yn byw yng Nghymru gyda’i gilydd. Roedd Cobbe yn swffraget adnabyddus, ac awdur – roedd Mary Lloyd yn gerflunydd o Gymru a oedd yn byw gyda’i fel ei phartner. Mae’r ffynonellau ar Lloyd yn bennaf o ysgrifau Cobbe. Minor Deposit 1309-15. – Manuscripts of Frances Power Cobbe of Hengwrt, Dolgellau, religious philosopher, &c NLW ex 1865-7 – Frances Power Cobbe Bequest
4. Roedd Sarah Jane Rees (Cranogwen) [1839-1916] yn awdur, golygydd, morwr, darlithydd, a golygydd Y Frythones, ac roedd mewn perthynas lesbiaidd gydol oes, fel y ysgrifennwyd gan Jane Aaron yn Queer Wales. Sarah Jane Rees (‘Cranogwen’) Cerddi i Maggie Eurona gan Cranogwen NLW MS 23895A. – Anerchiad gan Cranogwen Sarah Jane Rees (‘Cranogwen’) poetry
5. Roedd Amy Dillwyn [1845-1935] yn ddiwydiannydd a ffeminist a gyhoeddodd nofelau â themâu lesbiaidd a chroes-wisgo. Gellir darllen y nofelau a gyhoeddwyd gan Honno, ei chofiad gan David Painting ac ysgrifenniadau eraill amdani gan Kirsti Bohata yn y Llyfrgell. Amy Dillwyn papers
6. Mae’n debyg mai Gwen John [1876-1939] yw’r artist benywaidd mwyaf adnabyddus yng Nghymru – llai adnabyddus yw ei pherthynas â merched, fel Véra Oumançoff. Gwen John manuscripts
7. Cafodd Margaret Haig Mackworth, 2il Is-iarll Rhondda, [1883-1958] hefyd berthnasoedd â dynion a merched ac mae’n adnabyddus fel swffraget. Gellir dod o hyd i lyfrau amdani (h.y. gan Angela John) a ganddi yn y Llyfrgell.
8. Mae George Powell o Nanteos [1842-82] a’i rhywioldeb wedi cael ei ysgrifennu amdano gan Harry Heuser yn Queer Wales ac mae nifer o’i ysgrifau i’w darllen yn y Llyfrgell. NLW Facs 417. – Letters to George E. J. Powell, Nanteos Minor Deposits 1394-97. – Letters to George E. J. Powell from A.C. Swinburne
9. Nina Hamnett [1890-1956] oedd y ‘Queen of Bohemia,’ artist deurhywiol o Gymru oedd yn gysylltiedig a’r Grwp Bloomsbury.
10. Ivor Novello [1893-1951] NLW MS 23204D. – Ivor Novello papers NLW MS 23696E. – Ivor Novello letters
11. Rhys Davies [1901-1978] Rhys Davies Papers
12. Roedd Kate Roberts [1891-1985], a elwir yn Frenhines ein Llên, yn briod â Morris T. Williams [1900-1946], tra bu ganddo berthynas ag Edward Prosser Rhys [1901-1945]. Mae E. Prosser Rhys yn adnabyddus am ei gerdd fuddugol ‘Atgof’ yn Eisteddfod 1924, amdano ei berthnasoedd ddeurywiol. Teimlai Alan Llwyd, yn ei hunangofiant Roberts, ei bod hi hefyd wedi bod yn ddeurywiol. Papurau Kate Roberts
13. Roedd Margiad Evans [1909-1958] yn nofelydd a oedd eto’n briod, ond mae’n fwy adnabyddus bod ganddi berthynas â Ruth Farr, tra bod ei nofelau yn archwilio themâu rhywioldeb. Mae ei nofelau, ei lawysgrifau a’i hunangofiant yn y Llyfrgell, yn ogystal ag ysgrifennu arni, fel gan Ceridwen Lloyd-Morgan, a’i phapurau a’i llythyrau archif. NLW Facs 870 – Margiad Evans Diary NLW ex 2790 (i & ii) – Margiad Evans family papers Margiad Evans Papers Margiad Evans Manuscripts NLW MS 23893E. – Margiad Evans Letters NLW MS 23994F. – Poems by Margiad Evans
14. Mae Jan Morris [1926-] yn awdur a hanesydd Cymreig. Ysgrifennodd lyfr ar ei phrofiadau yn bod yn trawsryweddol yn ogystal â hanesion Cymru, ac mae’n ffigwr pwysig a dylanwadol LHDT+ Cymru. Jan Morris Papers
Mae yna llawer mwy o bobl LHDT + o Gymru yn cael eu hysgrifennu’n gynyddol mewn hanes queer a hanes Cymru. Roedd John Davies yn hanesydd blaenllaw yng Nghymru a oedd yn LHDT ac mae Jeffrey Weeks yn hanesydd rhywioldeb blaenllaw o’r Rhondda. Mae ffynonellau eraill a ddefnyddiwyd gan haneswyr LHDT Cymru, megis Shopland, yn erthyglau papur newydd, fel y rhai sydd ar gael trwy Bapurau Newydd Cymru Arlein
Mair Jones, MA Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth.
Darllen pellach: Osborne, Huw. Queer Wales. Shopland, Norena. Forbidden Lives. Tate, Tim. Pride. Weeks, Jeffrey.
132 notes · View notes