yrysgwrn-blog
yrysgwrn-blog
Yr Ysgwrn
37 posts
Yr Ysgwrn: cartref Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu - Home of Hedd Wyn, Poet of the Black Chair
Don't wanna be here? Send us removal request.
yrysgwrn-blog · 9 years ago
Text
Weeping Window
Gerald Yr Ysgwrn yng Nghastell Caernarfon/ Gerald Yr Ysgwrn at Caernarfon Castle.
Bu Gerald Yr Ysgwrn a minnau’n lwcus iawn o gael gwahoddiad i gymryd rhan yn lansiad arddangosfa’r ‘Weeping Window’ yng Nghastell Caernarfon wythnos diwethaf. Pan aethom i mewn roedd y castell dal i fod ar gau a’r staff yn paratoi am ddiwrnod prysur iawn yn croesawu ymwelwyr cyffredinol, cyfranwyr y prosiect a’r wasg. Llwyddodd yr olygfa i’m distewi (sydd yn dipyn o gamp), a doedd dim allai dynnu…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 9 years ago
Text
Ddechrau’r mis cynhaliwyd gwasanaethau coffa cenedlaethol a rhyngwladol i gofio Brwydr y Somme a barodd dros 4 mis. Teimlodd cymunedau bach a mawr effaith y frwydr yma oherwydd graddfa’r golled a ‘doedd Trawsfynydd ddim gwahanol. Gwelodd mis Gorffennaf can mlynedd ers marwolaethau Preifat John Morris (lladdwyd ar Orffennaf 12) a Preifat Robert Morris (lladdwyd ar Orffennaf 15). Nid oes gan yr un o’r ddau fedd, ond cerfiwyd eu henwau ar gofgolofn Thiepval. Lladdwyd Pte. John Morris ynghyd â channoedd o Gymry yn ystod brwydr Mametz (Gorffennaf 10-12), brwydr a adwaenir fel ‘baptism of fire’ y 38ain Adran Gymreig oedd yn gymharol newydd ar y pryd.
O’r helyn afreolus- taro tro Tua’r Traws fydd felus: Yn y lle, ‘n mhob cwm a llys, Mae hiraeth a Jac Morrus.
Yn ôl dyddiad ei farwolaeth mae’n debygol i Pte. Roberts Morris (aelod o’r 8fed bataliwn, Catrawd de Swydd Caerhirfryn, rhan o’r 25ain Adran) gael ei ladd ym mrwydr Cefn Bazentin oedd hefyd yn rhan o wedd gyntaf yr ymosodiad.
Yr oedd Robert a John yn rhan o fataliynau a grëwyd mewn ymateb i alwad Kitchener am wirfoddolwyr i ymrestru. Roedd John, ynghyd â phump arall ar gofeb Traws, yn rhan o’r 17eg fataliwn yn y Ffiwsilwyr Cymreig. Wedi derbyn hyfforddiant yn Llandudno, cafodd y bataliwn (oedd erbyn hyn yn rhan o’r 38ain Adran) ei yrru allan i Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915. Cychwynnodd gyrfa Robert yn y fyddin yn gynharach gan i’w fataliwn ef gael ei sefydlu yn Warrington ym mis Medi 1914 gan ffurfio rhan o Drydedd Fyddin Newydd Kitchener. Mae’n bosib bod Robert yn byw yn yr ardal yma’r adeg hynny. Cafodd ei hyfforddi yn Lloegr, a chyrhaeddodd y bataliwn Ffrainc ym mis Medi 1915.
Wrth i’r ymchwil fynd yn ei flaen rydym yn gobeithio darganfod mwy am y dynion a’r bywydau y gadawsant ar eu holau yn Nhrawsfynydd.
Diolch i Anna Lewis sy’n gwirfoddoli i’r Ysgwrn am ysgrifennu’r blog mis yma. Mae hi wrthi yn ddiwyd yn ymchwilio effeithiau’r rhyfel ar Trawsfynydd.
At the start of the month, national and international memorials took place to remember the start of the four month Battle of The Somme. The scale of the loss of life meant that the battle’s impact was felt in communities small and large across the country – and Trawsfynydd was no exception. July also sees the hundred year anniversary of the deaths of Private John Morris (died 12th July) and Private Robert Morris (died 15th July). Neither of the men have any known grave although their names are commemorated on the vast Thiepval memorial. 
Pte. John Morris died, along with hundreds of Welshmen, during the attack on Mametz Wood (10-12 July), an offensive now considered a “baptism of fire” for the newly formed 38th (Welsh) division. Given the date of his death, Pte. Robert Morris (a member of the 8th Battalion, South Lancashire Regiment, part of the 25th Division) was likely killed in the Battle of Bazentin Ridge, also part of the first phase of the Offensive.
Both Robert and John were part of battalions that had formed in response to Kitchener’s appeal for volunteer recruits. John, along with five others commemorated on the Traws war memorial, was part of the 17th Battalion of the Royal Welsh Fusiliers. After training in Llandudno, the battalion (now part of the 38th Division) was shipped out to France in December 1915. Robert’s army career had begun earlier as his battalion was raised at Warrington in September 1914 and formed part of Kitchener’s Third New Army. Possibly Robert had been living in the area at the time. His training took place in England and the battalion arrived in France September 1915.
As research continues we hope to be able to find out more about these men and the lives they left behind in Trawsfynydd.
Thank you to Anna Lewis, a volunteer for Yr Ysgwrn,  for writing the blog this month. She has been busy researching the effects of war on Trawsfynydd.
Pte Robert Morris a Pte John Morris Ddechrau’r mis cynhaliwyd gwasanaethau coffa cenedlaethol a rhyngwladol i gofio Brwydr y Somme a barodd dros 4 mis.
0 notes
yrysgwrn-blog · 9 years ago
Text
Pte Joseph R Williams
Dydd Sul cofiwn Pte JR Williams/ Sunday we will remember Pte JR Williams #yagym
Ar Ddydd Sul, 29ain o Fai, cofiwn Joseph Richard Williams 18459. Yn Breifat yn y Ffiwsaliwyr Cymreig, fe’i lladdwyd ar faes y gâd pan oedd yn 37 mlwydd oed a bellach, mae wedi’i gladdu ym Mynwent Cymunedol La Neuville, Corbie – Rhes A Bedd 44. Wrth ymchwilio i fywydau’r rhai a gollwyd yn y Rhyfel Mawr gwelwn ei bod hi’n haws darganfod rhai yn fwy na’i gilydd. Ond, yn lwcus iawn, mae’n bosib…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 9 years ago
Text
26450 Pte Griffith Llewelyn Morris
26450 Pte Griffith Llewelyn Morris
Y llynedd mi welais Griffith Llywelyn Ei lygaid yn lasliw, ei wallt yn felyn Yn ei olwg lednais a’i tremiad tawel ‘Roedd nodau ei deulu, a golau’r capel. Ond heddiw mae’i deulu o dan y cymyl, Ac yntau yn huno yn sŵn y magnyl. Caethiwo di, Arglwydd, ddwylo y gelyn Darawodd un annwyl fel Griff Llywelyn. – Hedd Wyn (Not an official translation but to give you the meaning behind the poem. ‘Last year…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Hel Pac am y Tro/ Packing Up for Now
Hel pac am y tro/ packing up for now #yrysgwrn @croesoeryri
Erbyn hyn mae’r da, y drwg a’r rhyfeddol wedi’u clirio o’r Ysgwrn. Ar ôl hir drefnu roedd hi’n bryd i dryc y symudwyr barcio o flaen y ffermdy eiconig i lwytho’r holl ddodrefn oddi yno. Bu Gerald Williams yno i oruchwylio’r cyfan, gan aml ebychu, “Duw, yn fanno odd hwnna, ie?”! Wrth symud y dodrefn daeth aml haen o hanes y cartref i olau dydd – yn enwedig y tu ôl i’r Cloc Tywydd.  Gellir darllen…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Cau- am y tro/ Closing- for now
Eich cyfle olaf Dydd Sadwrn/ your last chance on Saturday 11-3
Ddydd Llun, Tachwedd 30ain, bydd drws yr Ysgwrn yn cau i’r cyhoedd, am y tro. Oherwydd gwaith gwarchod a datblygu, ni fydd yr Ysgwrn ar agor i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol o ddiwedd y mis, ond fe fydd cyfle prin i’r cyhoedd ymweld â’r lleoliad hanesyddol hwn mewn Diwrnod Agored ddydd Sadwrn, Tachwedd 28ain, rhwng 11 a 3. Mae rhan o’r gwaith wedi dechrau eisoes, ond erbyn hyn, oherwydd rhesymau…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Y gwaith yn cychwyn/ The work begins
Y gwaith yn cychwyn/ the work begins #yagym
Cyffro mawr! Yn dilyn dros flwyddyn o gynllunio a thrafod (a chyda gwallt y pen yn prysur wynnu) mae’r gwaith o warchod a datblygu’r safle wedi dechrau. Rhwng clirio’r twlc mochyn a chlirio’r ffermdy mae ambell i drysor wedi dod i’r golwg. Mae’r rhain yn cynnwys wal lechen hyfryd yn ’stafell y forwyn a oedd yn cuddio o dan hen haenau o bapur wal, a daethpwyd o hyd i lyfrau hen iawn yn y twlch…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Papur Wal Yr Ysgwrn/ Yr Ysgwrn's Wall Paper.
Papur Wal Yr Ysgwrn/ Yr Ysgwrn’s Wall Paper.
Wyddoch chi taw papur wal cegin Yr Ysgwrn yw un o’r atyniadau sy’n cael ei drafod fwyaf gennych chi ymwelwyr? Wel, dros y misoedd diwethaf dyna mae’r tîm prosiect wedi bod yn ei drafod, hefyd. Mae yna ddylunydd cartref yno ni gyd, yn amlwg! I’r rheiny ohonoch sy heb sylwi, mae’r modd fu’r teulu yn mynd ati i ddylunio’r gegin ychydig yn wahanol i’n ffordd ni heddiw. Yr arferiad yn y cyfnod oedd…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Swllt Y Brenin
Dewch draw nos Wener y 24ain o Fehefin #yagym
Tumblr media
YMUNWCH â ni yn Yr Ysgwrn ar nos Wener y 24ain o Fehefin am noson o adloniant a diwylliant. Gyda cherddi, straeon a darnau o bapurau newydd cyfoes o’r Rhyfel Byd Cyntaf bydd Twm Morys, Ifor ap Glyn a Myrddin ap Dafydd yn mynd a ni nôl 100 mlynedd i brofi ansicrwydd bywyd y cyfnod yma. Join us at Yr Ysgwrn Friday the 24th of June for an evening of entertainment and sulture. Reciting contemporary…
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Hello world!
This is your very first post. Click the Edit link to modify or delete it, or start a new post. If you like, use this post to tell readers why you started this blog and what you plan to do with it. Happy blogging!
View On WordPress
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Ail-greu cegin eiconig Yr Ysgwrn
Tumblr media
Dewch i neuadd Trawsfynydd yfory i’n helpu i ail-greu gegin yr Ysgwrn mewn papier mache. Bydd plant o ysgolion lleol a’u teuluoedd yn cymryd rhan mewn dau sesiwn gweithdy efo Luned Rhys Parri, yr artist papier mache enwog.
Come and join us tomorrow in Trawsfynydd’s Village Hall to help re-create Yr Ysgwrn’s kitchen using papier mache. Children from local schools and their families will be taking part in two workshops with Luned Rhys Parry, the renowned papier mache artist.
Sesiwn 1: 10.30 -12.30 Sesiwn 2: 1.30 – 3.30
Bu ysgolion Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn a Bro Cynfal yn gweithio’n ddiwyd dros y bedair wythnos ddiwethaf. Maent wedi creu gwaith arbennig iawn yn barod, ac mae’r dresel, y cloc mawr a’r lle tan yn werth eu gweld. Dyma gyfle felly i fynd i’r afael â photiau iogwrt, glud a phaent a chael hwyl efo’r plant, neu daro mewn i gael cip olwg ar y gwaith. Bydd y gegin i’w gweld ym Mhlas Tan y  Bwlch o Fedi’r 10fed ymlaen.
Ysgol Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn and Bro Cynfal have been working very hard over the last four weeks. They have already made the dresser, grandfather clock and hearth and they are fantastic. Worth a look! This is your chance to grap yoghurt pots, paint and glue and have some fun with the children or just pop in to have a look at the work. The kitchen will be part of an exhibition opening in Plas Tan y Bwlch from September the 10th onwards.
Tumblr media
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
6734 L/Cpl Watkin J Jones
Tumblr media
Heddiw cofiwn Watkin John Jones gafodd ei ladd, yn 33 mlwydd oed, ar Fehefin y 5ed, 1915 yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn  fab i John a Catherine Jones, Ardudwy Terrace, Trawsfynydd ac yn ŵr i Lizzy Doherty (Jones), 8 Little Chapel St, Caernarfon.
Today we remember Watkin John Jones, 33 years old, killed on the 5th of June, 1915 during World War 1. Son to John and Cathrine Jones, Ardudwy Terrace, Trawsfynydd and husband to Lizzy Doherty (Jones), 8 Little Chapel St, Caernarfon.
Roedd Watkin Jones yn rhan o ail fataliwn y Gartrawd Gymreig. Cafodd ei ladd yn ffosydd Maison Rouge gan gêl-saethwr, yr unig trychineg yn y fataliwn y diwrnod hwnnw.
Watkin Jones served in the 2nd Batalion, Welsh Regiment. He was killed in the trenches in Maison Rouge by a sniper, the only tragedy that day.
Mae ei fedd yn Pas de Calais, Estyniad Cambrin, ‘RowE.Grave28′.
His grave iis in Pas de Calais, Cambrin Extension, RowE.Grave28.
http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/170885/JONES,%20WATKIN%20JOHN
Tumblr media
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
7802 Pte John Williams.
Tumblr media
Heddiw, cofiwn am Pte John Williams gafodd ei ladd,  yn 32 mlwydd oed,  ar y 25ain o Fai, 1915 yn ystod y Rhyfel Mawr. Roedd yn aelod o ail fataliwn y Gatrawd Gymreig. Cafodd ei goffáu ar banel 1, Le Touret Memorial, Pas de Calais ond does dim bedd iddo.
Today we remember Pte John Williams, 32 years old, killed in action during the 1st World War on the 25th of May 1915. He served with the 2nd Battalion in the Welsh Regiment. He has no known grave but is remembered on Panel 1, Le Touret Memorial, Pas de Calais.
  <http://www.cwgc.org/media/251887/le_touret.pdf>
Tumblr media
Yn fab i Mrs Elizabeth William, Tyllwyd Terrace, Trawsfynydd, gadawodd wraig a dau o blant yn eu cartref yn Senghennydd pan aeth i Ffrainc. Dim ond 2 diwrnod oed oedd ei blentyn ieuengaf. Cyn cael ei ladd, bu’n aelod o’r fyddin am 8 mlynedd.
Son to Mrs Elizabeth Williams, Tyllwyd Terrace, Trawsfynydd, he left behind a wife and two children at his home in Senghennydd when he left for France, The youngest child was only 2 days old. Before he was killed he had served with the army for 8 years.
Credir bod ‘Gorffen Crwydro’ gan Hedd Wyn yn gerdd er cof amdano.
CERAIST ti grwydro gwledydd pellennig,- Y gwledydd sy ‘mhell tros y don; Weithiau dychwelit i’th gartre mynyddig A’th galon yn ysgafn a llon. Gwelsom di ennyd cyn dychwel ohonot I’r ryfel sy’n crynu y byd; Nodau y gwlatgar a’r beiddgar oedd ynot, Y nodau sy’n costio mor ddrud. Fe chwyth y corwynt tros fryniau Trawsfynydd O’th ôl fel yn athrist ei gainc; Tithau yng nghwmni’r fataliwn ddi-hysbydd Sy’n cysgu’n ddi-freuddwyd yn Ffrainc.
It is thought that ‘Corffen Crwydro’ (an end to wondering) by Hedd Wyn was written in remembrance of him. [NOT an official translation- for meaning only]
You left to wonder distant lands, Countries far over the sea Sometimes you would return to your hilly home Your heart full and light. You felt a need to return To the war that shook the earth Your daring and patriotism That cost you so much. A hurricane blows through the hills of Trawsfynydd a woeful return In the company of an inexhaustible battalion You sleep soundly in France.
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Wal Garreg Yr Ysgwrn
Tumblr media
Mae’r defnydd o gerrig i amgáu caeau a chnydau yn dyddio yn ôl miloedd o flynyddoedd ac wedi amrywio yn sylweddol mewn arddull a thechnegau. Gall waliau cerrig adrodd hanes defnydd y tir, nid yn unig o’r ddaeareg sydd yn rhoi'r math o garreg ar y safle, ond hefyd mae natur waliau yn rhoi amlinelliad o beth oedd defnydd y tir yn y gorffennol, yn ogystal a'r math o dda byw oedd yn cael eu cadw i mewn (neu allan) o’r caeau. Yn ddiweddar mae criwiau o ymgymerwyr lleol wedi bod wrthi yn adfer wal garreg sych yn yr Ysgwrn. Wal y goedlan, neu'r nyrs fel y mae yn cael ei hadnabod yw hi sydd yma. Cafodd y coed Conifferaidd eu torri yma yn ddiweddar, ac fel rhan o raglen ail blannu'r goedlan gyda choed collddail cynhenid, mae rhaid wrth gwrs i ni allu amgau y goedlan er mwyn atal defaid a gwartheg rhag fwyta’r planhigion newydd.
Tumblr media
Bu’r criw wrthi’n gweithio’n ddiwyd ac fe welwch o’r llyniau yr amrywiaeth sydd i weld yn natur cerrig ar y safle mewn pellter cymharol fychan, nodwch hefyd sut mae’r bechgyn wedi cadw nodweddion gwreiddiol y wal, er enghraifft y cwterydd er mwyn i ddŵr llifo drwy’r wal mewn cyfnodau o lif, tyllau defaid/ cwterydd defaid sydd yn caniatáu defaid allu symyd trwy'r wal (os oes angen).
Tumblr media
Mae'r rhain hefyd yn bwysig er mwyn galluogi anifeiliaid megis y mochyn ddaear/ysgwarnod/cwningod ac yn y blaen i symud ar draws y tir heb gael eu amharu gan y wal, a hefyd rhag iddynt falurio'r wal newydd. Mae moch ddaear yn amharod iawn i newid eu llwybrau ac yn gallu tynnu creu difrod os bydd wal wedi ei hail godi ar eu llwybr nhw! Fandaliaid amgylcheddol!
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Dry stone walling
Tumblr media
The use of stone wall enclosures for fields or crops dates back thousands of years and has varied in style and technique. From a stone wall it is possible to see the history of the land, not only the geology of the are in the type of stones used but they can also give us an impression on the use of the land in the past, in addition to the type of livestock kept in (or out) of the fields. 
Tumblr media
Recently local contractors have been restoring the dry stone wall at Yr Ysgwrn. This is a copse wall or the nurse as we know it more generally. The Conifer trees have been cut here recently as part of the project to re-plant the copse with native Broadleaf trees, that being the case, the copse then has to be closed off to sheep and cows so they don’t eat them.  As you can see from the pictures the crew have been busy. The nature of the stone varies considerably within a relatively small area. You may also see how they have kept the original features of the wall, for instance, gutters are kept for water to overflow during heavy rains, and channels for sheep to allow them to move through the wall (if needed).
Tumblr media
These are also important for wildlife such as badgers/ hares/ rabbits and so on, to move across the land without being hindered by the wall and to also stop them from doing any damage to it. Badgers are most reluctant to change their pathways and are known to pull holes in any walls re-built in their way! Environment Vandals!
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
Replica'r Gadair Ddu
Tumblr media
Roedd hi’n fis Ionawr diddorol a phrysur iawn i swyddogion newydd prosiect yr Ysgwrn, Sian Griffiths (Rheolwr y prosiect) a Jess Enston (Swyddog Cynulleidfa’r prosiect). Ar eu hail ddiwrnod o waith cafodd y ddwy drip i’r Senedd yng Nghaerdydd ar gyfer seremoni dadorchuddio replica 3D o’r Gadair Ddu.
Roedd hi’n gyfle cyffroes iawn iddyn nhw gael gafael ar brosiect o’r eiliad cyntaf. Er hyn, roedd gwybodusion o amryw amgueddfeydd, yn ogystal â’r Senedd yno, ac ambell un hynod beryglus gyda baguette llawn coronation chicken yn eu dwylo! Heb enwi enwau.  Ta waeth, aeth bopeth yn esmwyth ac roedd y diwrnod cyfan yn hynod lwyddiannus, roedd hyd yn oed yr eira ar y Bannau ar y ffordd ‘nôl yn bihafio. Nifer fechan oedd yno i weld y dadorchuddio, ond roedd twr o’r wasg i wneud yn siŵr eich bod chi yn gweld y digwyddiad ar y newyddion. Er bod y foment yn un cyffroes, sylwadau cymysg gafodd y replica ei hun. Ym marn rhai roedd y replica yn rhoi cyfle tecach i weld gwahanol symbolau a phatrymau’r gadair yn fwy eglur (gan fod y Gadair Ddu ei hun yn weddol dywyll). Roedd eraill yn meddwl bod y lliw yn rhy olau a’r sglein yn gwneud i’r replica edrych yn rhy blastig. Mae’n debyg nad bwriad y prosiect oedd i greu copi perffaith o’r gadair wreiddiol, ond yn hytrach rhywbeth i ddehongli’r gadair ac i’w ddefnyddio mewn unrhyw waith cadwraeth yn y dyfodol. Oes yna fath beth a beirniadaeth ddrwg o’r replica? Y gobaith yw y bydd pobl sydd yn gweld y replica yn rhy ola’ neu yn rhy blastig yn cael eu hannog i ddod i weld y gadair wreiddiol yn yr Ysgwrn.
Tumblr media Tumblr media
Wrth gwrs ni fydd y Gadair Ddu wreiddiol yn symud o’r Ysgwrn, felly bydd y replica yn gyfle da i arddangos y gadair a chrefft y saer, Eugeen Vanfleteren, i’r rhai sydd methu mynychu’r Ysgwrn. Y bwriad yw i’r replica gael mynd ar daith o gwmpas Cymru, neu lle bydd gofyn, fel arddangosfa symudol i ledaenu stori Hedd Wyn, Yr Ysgwrn ag effeithiau’r Rhyfel Mawr ar gymunedau gwledig fel Trawsfynydd. Dyma ychydig bach o hanes prosiect y replica i chi; Am agos i ganrif, mae camp gwneuthurwr y Gadair Ddu, Eugeen Vanfleteren, bron wedi’i gysgodi gan amgylchiadau ennill y Gadair Ddu. Penderfynodd APCE, Amgueddfa Cymru ac Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd i gydweithio i wneud sgan 3D o’r Gadair wreiddiol gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Y bwriad oedd cofnodi manylion addurniadau’r gadair a medrusrwydd y gwneuthurwr mor fanwl â phosib am y tro cyntaf erioed, gan gynnwys unrhyw ôl traul sydd wedi aros ar y gadair ers bron i 100 mlynedd. Gan fod y broses hon (sganio ac argraffu 3D) yn ein galluogi i ail-greu ymddangosiad yr eitem wreiddiol mae’n ddatblygiad hynod gyffroed yng nghyd destun gofynion cadwriaethol. Bydd hyn yn ei dro, yn golygu gellir ail-greu darnau coll gan ddefnyddio data gwreiddiol, neu astudio’r eitem heb beryglu’r gwreiddiol. I rai sydd wedi bod yn yr Ysgwrn gallwch ddychmygu bod sganio’r gadair heb olau da na thrydan yn dipyn o gamp! Roedd Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd o’r farn byddai modd cynhyrchu data 3D solet trwy Gynllunio Gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a chreu copi o’r gadair gan ddefnyddio technoleg gweithgynhyrchu adiol (argraffu 3D) a elwir yn Sinteru Laser Detholus (SLS). Yn y labordai, mae yna nifer o wahanol dechnolegau argraffu 3D sy’n gallu creu darnau bach a mawr. Ar ôl rhannu’r gadair yn adrannau, cafodd 20 darn mawr eu rhoi at ei gilydd yn y Labordai AM gan ddefnyddio peiriant SLS mawr EOS P700. Cafodd yr adrannau hyn eu cynhyrchu mewn cyfnod o dair wythnos a’u gwerthuso’n barhaus i wneud yn siwr eu bod yn fanwl gywir ac o safon digon uchel i’w hadeiladu. Yn fyr, dyma’r agosâ gewch chi i’r Gadair Ddu wreiddion (gan gofio’i bod hi’n blastig a bod y lliw yn wahanol). Yn yr ail wythnos cafodd Jess cyfle gwerthfawr i fynychu gweithdy a chafodd ei drefnu gan yr Imperial War Museum (IWM) mewn partneriaeth gyda CyMAL. Rhoddodd hyn y cyfle i gymysgu gyda phobl ar amryw o brosiectau'r Rhyfel Mawr ar draws gogledd Cymru. Doedd dim byd peryglus yn y bwffe tro hyn! Bwriad y gweithdy oedd i rannu ‘Gwersi a Ddysgwyd’ a gallwch ddychmygu ar ôl bod yn y swydd am brin i bythefnos doedd dim llawer o gyfle i rannu ‘profiad’ o gamgymeriadau. Er hyn, roedd o’n gyfle i gasglu digon o awgrymiadau ar sut i beidio gwneud pethau. Y peth mwyaf amlwg oedd bod y mynychwyr yn difaru peidio cychwyn eu prosiectau’n gynharach. Doethineb drannoeth! Ar drywydd arall, os nad ydych chi eto wedi ymweld ag arddangosfa'r Ffiwsaliwyr Cymreig yng Nghastell Bodelwyddan, ewch os cewch chi’r cyfle.  
0 notes
yrysgwrn-blog · 10 years ago
Text
The Black Chair Replica
It was a very busy and interesting January for the new Ysgwrn project officers, Sian Griffiths (Project Manager) and Jess Enston (Audience Officer). On their second day they travelled to the Senedd in Cardiff for the unveiling of the 3D replica of the Black Chair.
Tumblr media
It was an exciting opportunity for them to thoroughly involve themselves in the project right from the word go. Although, it was a little nerve wracking that all the important ‘big wigs’ would be there, from a collection o museums in addition to the Senedd, and there was coronation chicken baguettes at the buffet, a dangerous mix indeed. Anyway, everything went smoothly and the day was a success, even the snow on the Beacons behaved on the way home. There were a limited number of people present at the unveiling, including the press so you could all see it on the news, and although the moment was exciting, there were mixed opinions on the look of the replica. To some the replica represents an opportunity to show off the patterns and the symbols on the chair clearer (the original is quite dark.) Others thought the colour was too light and that it was shiny and plastic looking. The intention of the project was, not to create an identical Black Chair, but to create something that could be used to interpret the chair and to use for any future conservation. Is there such a thing as a bad opinion of the replica?  The hope is that those who see it as too light or plastic looking would be encouraged to go and see the real thing at the Ysgwrn.
Tumblr media Tumblr media
The Ysgwrn is the home of the Black Chair and there it will always stay, therefore, the replica gives us an opportunity to exhibit the chair and the work of its carpenter, Eugeen Vanfleteren, to those unable to visit. The intention is for the replica to journey through Wales, or anywhere that shows an interest, as a moving exhibition to tell the story of Hedd Wyn, the Ysgwrn and the effects the Great War had on rural communities such as Trawsfynydd. Here is a little history to the replica project for you; For nearly a hundred years, the visual and technical achievement of the maker, Eugeen Vanfleteren, has almost been overshadowed by the circumstances surrounding the winning of the chair. The SNPA, National Museum Wales and Cardiff University’s School of Engineering decided to work together to create a 3D scan of the original and to record it as accurately as possible, using the latest technology. For the first time, the design elements and the level of skill employed in the making of the Chair would be copied, including the wear and tear from nearly 100 years.  As this new technological process (3D scanning and printing) enables us to re create an original artefact it is a very exciting development in the context of any future conservation work needed.  This in turn will allow us to re create any missing pieces using the data, without compromising the original. As anyone who has been to the Ysgwrn can imagine, scanning the chair in low light without electricity was quite a feat! Cardiff University School of Engineering proposed that it would be possible to generate solid 3D Computer Assisted Design (CAD)  data and to create a reproduction of the chair using an additive manufacturing (3D printing) technology know as Selective Laser Sintering (SLS). In these laboratories, there are a wide range of 3D printing technologies with the ability to produce both macro and micro components. Once the sectioning process was completed the Chair, broken down into 20 large parts, was built in the AM laboratories using an EOSP700 large formal SLS machine. The sections were produced in a three week period continuously being evaluated for accuracy and appropriate build quality. In short, this is the closest you will get to the original without visiting its home (remembering that it’s plastic and a different colour). In the second week Jess was fortunate enough to attend a workshop organised by the Imperial War Museum (IWM) in partnership with CyMAL.  There, there was the opportunity to mix with others working on similar Great War projects across North Wales. There was nothing dangerous in the buffet this time! The purpose of the workshop was to share ‘lessons learned’ and as you can imagine after only being in the post less than two weeks there weren’t many lesson to share. However, there was plenty advice on “what not to do’s.” The most obvious lesson taken away from those attending was to start earlier. Hindsight! On another subject, if you haven’t managed to see the Welsh Fusiliers exhibition in Bodelwyddan Castle yet, go if you get the chance, it’s worth a visit.  
1 note · View note