sinus and raurus ship name should be soniauru instead of soniaru because you day nya in the middle
0 notes
Jung a’r Gwneuthurwr Glaw
Munud i Feddwl (23/5/17)
Yn ystod ail hanner ei fywyd mi ddaeth Carl Jung, y seiciatrydd a’r awdur toreithiog, yn drwm o dan ddylanwad Taoistiaeth, un o grefyddau neu athroniaethau cynhenid Tseina. Roedd yn hoff iawn o un ddameg Taoistaidd yn benodol ac fe’i rhannaf gyda chi.
Roedd sychdwr mawr mewn un rhan o Tseina ac wedi misoedd heb law penderfynodd trigolion un pentref wahodd Y Gwneuthurwr Glaw atyn nhw o ardal gyfagos. Pan gyrhaeddodd yr hen ddyn musgrell y cyfan y gofynnodd o amdano oedd llety syml ac ychydig o fwyd ar ei gyfer bod dydd. Caeodd ei hun i ffwrdd am dridiau ac ar y pedwerydd diwrnod daeth storm anferth ac achubwyd y pentref rhag y sychdwr.
Pan aeth y trigolion at yr hen ddyn a diolch iddo am wneud iddi lawio gwadodd yn llwyr mai fo oedd wedi denu’r glaw. “Y cyfan ddigwyddodd oedd hyn” meddai. “Pan ddes i yma wnes i synhwyro anniddigrwydd mawr ac mi es inne i deimlo’n anniddig fy hun. Felly caeais fy hun i ffwrdd am dridiau a cheisio ymdiwnio ac ymgynganeddu gyda’r Tao. Ar ôl i mi lwyddo i wneud hynny disgynnodd y glaw ohono’i hun.”
Weithiau mewn bywyd dyn ni’n cael ein hunain mewn sefyllfaoedd allanol go ddyrys a’r temtasiwn, fel arfer, yw rhuthro yn ein blaenau i ymyrryd i geisio’u datrys. O ymwrthod â’r temtasiwn hwn, fodd bynnag, a chanolbwyntio’n hytrach ar ymdiwnio ac ymgynganeddu, gwelwn yn aml fod sefyllfaoedd allanol yn ymddatrys ohonyn nhw eu hunain.
A sôn am ‘ymdiwnio’ - dyw offerynnau sydd allan o diwn byth yn esgor ar gerddoriaeth soniarus. Mae’r un fath gyda phobl.
0 notes
consider. what if these two met when they were little
7K notes
·
View notes
more young soniarus.. they're everything to me
2K notes
·
View notes
can’t stop thinking abt these two being young and gross and in love 🙄💕
3K notes
·
View notes
our boy is never beating the short king allegations
25K notes
·
View notes