Tumgik
#atgofion
pontiobangor · 8 months
Text
Vive Le Cinéma: Cofio Em
Tumblr media
"Art attracts us only by what it reveals of our most secret self."  Jean-Luc Godard
Ar ôl colli ein ffrind annwyl a’n cydweithiwr Emyr Glyn Williams wythnos diwethaf, dyma rannu ychydig o atgofion a rhai o’r nifer o ddigwyddiadau a dangosiadau anhygoel a drefnodd yn ystod ei gyfnod yn Pontio, fel Cydlynydd y Sinema. Roedd yn enaid caredig gyda meddwl llawn dychymyg oedd yn byrlymu gyda syniadau i’w gwireddu. Mae gan bob un ohonom yn Pontio atgofion melys o gydweithio gydag Emyr. Roedd yna sgwrs i’w gael o hyd a digon o chwerthin, trafodaethau dwfn a phaneidiau o goffi.
Penodwyd Emyr yn Gydlynydd Sinema cyntaf Pontio yn 2015, ond dilynodd yrfa eang fel cerddor, gwneuthurwr ffilmiau ac fel awdur, a pharhau wnaeth hynny yn ystod ei gyfnod gyda Pontio. Bu Bangor heb sinema am nifer o flynyddoedd, ac roedd ei angerdd a’i ymrwymiad yn hollbwysig wrth sefydlu sinema i’r gymuned gyfan. Dangosiad cyntaf y sinema oedd Just Jim gan Craig Roberts ddiwedd Tachwedd 2015, ac ar ôl hynny roedd ganddo gynfas lân i raglennu rhaglen amrywiol o ffilmiau – o ffilmiau poblogaidd i rai indie, ffilmiau tramor a digwyddiadau arbennig. Roedd yn ei elfen yn paratoi’r rhaglen hon, yn rhannu ei gariad at sinema gyda phobl Bangor a thu hwnt.
Trwy ei angerdd am sinema tramor daeth ag amrywiaeth eang o ffilmiau i Pontio, gan amlygu a dathlu gweithiau rhai o’i hoff wneuthurwyr ffilm fel Jean-Luc Godard, Rainer Werner Fassbinder, Andrei Tarkovsky, Wim Wenders a llawer mwy. "Mae'n rhaid ei gweld ar y sgrin fawr" oedd ei farn bob tro. Roedd yn credu'n gryf ym mhrofiad cymunedol y ffilm; cyfle i eistedd gyda phobl o’r un anian a sgwrsio, dadlau a thrafod y ffilmiau a welwyd yn y sinema.
Tumblr media
Trefnodd Emyr lawer o ddigwyddiadau arbennig a oedd bob amser yn unigryw, ac roedd y gwesteion arbennig y llwyddodd i’w gwahodd i Pontio bob amser yn syndod. Roedd gwyliau Psylence yn cyfuno dau o’r pethau oedd yn mynd a’i fryd mwyaf, sef cerddoriaeth a ffilm. Cyfunodd y ddwy gelfyddyd gan greu profiad trochi bythgofiadwy gan ddod a bywyd creadigol i’r sinema. Dros y blynyddoedd arddangoswyd gwaith aml-gyfryngol gan Datblygu, Andy Warhol, Faust, Adwaith, Joy Division, Paul Schrader, Lustmord a llawer mwy. Bydd eraill yn cofio digwyddiadau megis Sabbath y Gwrachod, Mai68, digwyddiadau Off Y Grid, Arddangosfeydd Ffilm Myfyrwyr Prifysgol Bangor a Choleg Menai, Citizen Pontio a dangosiadau gyda gwesteion arbennig megis Joanna Scanlan a Celyn Jones. Heb sôn am y llu o wyliau y byddai’n eu cefnogi; Abertoir, Watch Africa, Kotatsu, Ffilm Ifanc, BFI Academy, Film Locos i enwi rhai.
Roedd dyfalbarhad Emyr i’w edmygu, a chreda’n gryf mewn adeiladu cynulleidfa a thyfu digwyddiadau dros amser. Bydda ei eiriau ‘Adeiladau fo, ac mi ddown nhw’ yn cael eu gwireddu bob amser. Bydd ei chwant heintus am greadigrwydd a thorri ffiniau cydymffurfiaeth o fewn arddangosfa sinema wrth galon ein rhaglennu yma yn Pontio am byth – yn enwedig ein traddodiad blynyddol o Withnail & I adeg y Nadolig.
Tumblr media
Mae’r ardal a Chymru gyfan wedi’u cyfoethogi’n ddiwylliannol gan ei barodrwydd i ddangos y darlun ehangach a rhoi llwyfan i nifer o wneuthurwyr ffilm, rhaglenwyr, cerddorion ac artistiaid i arddangos eu gwaith yn y sinema.
Bydd cyfraniad arloesol, beiddgar ac amrywiol Emyr i ddiwylliant Cymru yn aros gyda ni yn y cof, yn enwedig drwy’r ffilmiau a’r gerddoriaeth y gwnaeth eu creu a’u cyflwyno dros ei yrfa a’i fywyd. Rydym yma yn Pontio yn ddiolchgar ac yn falch o fod wedi galw un o’r unigolion mwyaf caredig a chreadigol i gerdded drwy ddrysau Pontio, yn gydweithiwr ac yn gyfaill.
Mae ein meddyliau gyda Fiona, Evan, Arthur, ei deulu a'i ffrindiau ar yr adeg hon.
Tumblr media
0 notes
howlsofannwn · 8 months
Text
"Beneath these stones
Sleeping bones
Slate and crystal, blood and memories
The mountain dreams
And so it seems
We rest in the shadow of buried gods"
"O dan y cerrig hyn
Esgyrn cwsg
Lechen a grisial, gwaed ac atgofion
Mae'r mynydd yn breuddwydio
A felly mae'n ymddangos
Gorphwyswn yng nghysgod Duwiau claddedig"
- Mari Jones
Eisteddfod: Llangwener, Ionawr 2024
1 note · View note
glyngoll · 5 years
Photo
Tumblr media
1986 #notredame #paris #35mm #nofilter #atgofion (at Cathédrale Notre-Dame de Paris) https://www.instagram.com/glyngoll/p/BwUmVBLHTW_/?utm_source=ig_tumblr_share&igshid=av5piyxpprrs
2 notes · View notes
panwalescymru · 5 years
Photo
Tumblr media
#Atgofion #Granada Memories #Alhambra Sbaen : #Spain ...the rain isn’t in Spain 🌞 (at La Alhambra, Granada, España) https://www.instagram.com/p/ByCoUqCFHz1/?igshid=9uqfxon8hgro
0 notes
rhydbowphill · 5 years
Photo
Tumblr media
#Repost @chelbowphill with @get_repost ・・・ 6 mis ers ein briodas arbennig 🍾🥂 six months since our wonderful wedding in the Gower @rhydbowphill @fairyhill @marcsmithphotography 💛#priodas #priodasybowphills #llanrhidian #fairyhill #cariad #gŵyr #gower #atgofion #feelslikeadream #hapuseinbyd https://www.instagram.com/p/Bw421dRnla1/?utm_source=ig_tumblr_share&igshid=6qmfamegtzp
0 notes
queerwelsh · 6 years
Photo
Tumblr media Tumblr media
Kate Roberts (1891-1985) was born on this day, 13th February, 1891 in Rhosgadfan, Caernarfonshire.
Known as ‘Brenhines ein Llên’ (Queen of our Literature), Kate published novels such as Traed Mewn Cyffion (Feet in Chains) in 1936, which depicted poverty and the hardships of women in the slate quarries in North Wales. She was also known for short stories such as in the collection ‘Ffair Gaeaf a storïau eraill’ (’Winter Fair and other stories’), published in 1937.
Tumblr media
Through her political activism with Plaid Cymru, she met Morris T. Williams, who she married in 1928. They bought the Gwasg Gee publishing house in Denbigh by 1935, which published books, pamphlets and Y Faner (The Banner). Kate and Morris both were close to the editor of Y Faner, E. Prosser Rhys, a poet who broke ground in 1924 by winning in the Eisteddfod with ‘Atgof’, which depicted heterosexual sex, masturbation and gay sex. Morris and Prosser’s relationship was particularly close, and they are thought to have had an affair.
Morris died in 1946 (Prosser Rhys in 1945) but Kate continued at the press for another decade. Her later short stories reflected her isolation and her autobiography was published in 1960. Kate is also known for her politics, carrying on a correspondence with the Welsh Nationalist Saunders Lewis for 40 years and herself contributing to Y Faner. Kate retired to Denbigh and died in 1985, at the age of 94.
The image of Kate Roberts is that of a powerhouse of a Welsh novelist, writer and political campaigner, but also of a lonely and childless widow later in life. This image is sadder if her husband was gay, had an affair, and died from his alcoholism in his 40s. The traditional images of Kate Roberts can be challenged, however. Morris’s sudden death was devastating - in an interview with Lewis Valentine, Kate told him how her world had fell to pieces, leading to write of ‘the struggle of a woman’s soul’ in Stryd y Glep (Gossip Row). The affair, however, she understood.
Kate’s own literature has more recently been analysed as itself having examples of homoerotic writing between women. Relationships between women can be intense, erotic, such as in the 1929 short story ‘Nadolig’ (’Christmas’), which explores a relationship between two teachers with coded queer subtext, and the 1972 short story ‘Y Trysor’ (’The Treasure’). Not only did lesbian relationships seem to appear in her short stories (similarly to the writer Margiad Evans, who is thought to be bisexual, who Kate also corresponded with) but in Alan Llwyd’s biography, he writes that her letters to Morris hint at her own feelings for women:
“Yr oedd gwraig y cigydd lle’r arhoswn yn un o’r merched harddaf y disgynnodd fy llygaid arni erioed. Dynes lled dal, heb fod yn rhy dew nac yn rhy denau, gwellt gwineu - real chestnut a thuedd at donnau ynddo. Croen fel alabaster a’r gwddf harddaf a welais erioed - llygaid heb fod yn rhy brydferth ond yn garedig. Yr oedd yn hynod gartrefol ei ffordd - Cymraes iawn. Bore trannoeth, hebryngai’r mab fi mewn cerbyd i Gastellnedd - cychwyn tua 7.15a.m. a hithau’n oer. Mynnodd y wraig roi clustog o’r ty odanaf, a lapiodd rug am fy nhraed, rug arall am fy nghorff, a rhoes glamp o gusan ar fy ngwefus. Nid oedd dim a roes fwy o bleser imi. Os byth ysgrifennaf fy atgofion, bydd y weithred hon yno, a’r noson ar lan afon Ddyfi.”
“The butcher’s wife where we stayed was one of the most beautiful girls I have ever laid eyes on. A broad, tall woman, not too fat or too thin, brown(?) hair - real chestnut, with a tendency to waves. Skin like alabaster and the most beautiful neck I’ve ever seen - eyes not too beautiful but kind. She was very homely - a real Welshwoman. The next morning, the son escorted me in a vehicle to Neath - starting at 7a.m. and it cold. The wife insisted on putting a cushion from the house under me, wrapped a rug around my feet, and another on my body, and put a clamp of a kiss on my lips. There was nothing that gave me more pleasure. If I ever write my memoir, this deed will be there, and that night on the banks of river Dyfi.”
The implication is she was aware of Morris’s homosexuality before they married and felt comfortable her own sexuality to him, and, as she was in love with Morris, was bisexual. This interpretation of her writing, both personal and published, was treated as controversial however - the ‘sensational’ ‘claim’ of the biography, rather just one part of Llwyd’s portrayal of Kate’s life. The queer readings of her writing already existed and certainly are not so far-fetched or shocking. Kate’s history does not generally include her queerness, so have these interpretations been entirely dismissed as unbelievable?
Through her writing and her personal life, if not through her own sexuality, Kate Roberts certainly is a part of the LGBT+ history of Wales - she already is a part of the LGBT+ literature of Wales. So what makes a historically queer view of Kate Roberts so far unacceptable? For some, it’s still to unbelievable that figures in Welsh history may be queer - for others, too disrespectful to repeat that ‘Brenhines Ein Llên’ was attracted to women. The image of her is respectable, does same-sex attraction not fit in with that? Or does same-sex attraction not fit in with her Welshness even?
It is however not a slur on her legacy to believe her to be queer. When it’s treated as such, by ignoring the queer interpretation, by not speaking of it (like we for so long did not speak about queer people in our society, through shame) - it sends the message to LGBT+ people in Welsh society today that a Welsh identity and LGBT+ identity are still mutually exclusive. This puts Welsh LGBT+ people in the position of needing to choose between the two identities, needing to compartmentalize these two parts of themselves. That Welsh historical figures, Welsh heroes even, could have been queer validates our identities  - when even the possibility is dismissed, Welsh LGBT+ people are dismissed. When LGBT+ people do exist in our history, when Kate Roberts (such a Welsh figure) is a part of a Welsh LGBT+ history, this needs to be recognised, to recognise that Welsh LGBT+ people are a permanent part of Wales, and even of Welsh-speaking Wales.
Tumblr media
Sources: -‘“A queer kind of fancy”: Women, Same-sex Desire and Nation in Welsh Literature’ by Kirsti Bohata in Huw Osborne ed. Queer Wales. - ‘Coded Sexualities and Outside Views’ by Gwen Davies. - Kate Roberts (Writers of Wales) by Katie Gramich. - Kate: Cofiant Kate by Alan Llwyd. - ‘From Huw Arwystli to Siôn Eirian: Representative Examples of Cadi/Queer Life from Medieval to Twentieth-Century Welsh Literature,’ by Mihangel Morgan in Queer Wales. - ‘Cultural Translations: A Comparative Political Study of Kate Roberts and Virginia Woolf,’ PhD thesis by Francesca Rhydderch.
109 notes · View notes
meddwlyngymraeg · 3 years
Text
O na, dwi'n cofio gwneud post am yr "Internet" (dw i ddim yn cofio sut i weud e nawr... anffodus! :( ) ond mae e wedi diflannu. Mae atgofion lliwgar 'da fi am wneud e. Who knows. Dwi wedi colli'r eirfa related to the Internet.
Gwefan (y wefan) -> website (f)
So that's a consolation
0 notes
Quote
adeiladu
Welsh
adeiladu building, constructing
Rydym yn adeiladu atgofion da yma We are building good memories here
2 notes · View notes
araujoesouza · 3 years
Text
HUNAN-PORTRAIT
José Araujo de Souza Peidiwch â beio fi am y geiriau dwi ddim yn eu dweud.Rwyf bron bob amser yn defnyddio distawrwydd fel iaith,yn y sicrwydd bod lleferydd yn siarad yn ddyfnach na geiriau.Nid oes, ynof fi, unrhyw ymlyniad wrth ddyddiadau arbennig,oherwydd y rhai sy’n cyffwrdd ac yn haeddu atgofion,cânt eu cadw yn y galon ac maent yn real, bob dydd.Rwy’n blwmp ac yn blaen, a dwi’n bopeth maen…
View On WordPress
0 notes
Text
Stori Fer – Storm – Meleri Williams, y Bala (Ffugenw: Catrin Jên)
Y Fflam
           Syllai Meri yn ddig ar ei chymhorthydd yn gollwng y brigau miniog i mewn i’r fflamau cynnes yn dyner, dyner fel petaent yn fflamadwy. Tynnodd ei bysedd oddi yno yn gyflym rhag eu llosgi.  Tân nwy oedd popeth y dyddiau hyn - dim llafurio yn torri coed tân am oriau ar fore Sul, na, pwyso un botwm a’r fflamau ffug yn goleuo yn yr un siâp a’r tro diwethaf, a’r tro cyn hynny.  Dynes y tân nwy oedd Non yn amlwg.  
“Digon cynnas rŵan Mysus Jos?” sgrechiodd Non yng nghlust dechnegol Meri.  
“’Dwi’n clwad yn iawn.” Rhythodd hithau yn ôl arni yn filain, heb droi ei phen i’w chyfeiriad.  Nodiodd Non yn chwithig cyn casglu ei hoffer at ei gilydd yn frysiog.  
“Mr Huws, Pant Lôn yn galw am ei ginio.  Rhaid i mi fynd!” gwaeddodd Non arni.  Atebodd Meri mohoni na throi ei llygaid miniog ‘chwaith.  Caeodd y drws y tu ôl iddi.  
Doedd bywyd ddim fel ag yr oedd o. Teimlai fel ei bod yn llithro i lawr llethr serth y cwm yn ddyddiol cyn cyrraedd y gwaelod heb ffordd o ddringo oddi yno.  Yr un hen drefn bob dydd ers wythnosau.  Bob yfory'r un fath.  Doedd rhyfedd bod pobl yn credu ei bod hi’n wallgof.  Yn doedd eistedd mewn cadair bob dydd o’r flwyddyn yn ddigon i wneud rhywun yn hurt bost?  Ystafell digon plaen oedd hi hefyd o ystyried y gost.  Papur wal gwyn a’r carped patrymog o dan ei thraed yn dangos ôl-traed yr ychydig rai a alwai yno.  Safai’r gadair uchel hon gyferbyn a’r tân, yr unig beth a lenwai’r ystafell.
Poerodd wreichionen felen o’r tân cyn glanio’n ysgafn ar y mat patrymog o flaen sliperi Meri.  Y mat hwnnw a fu gyda hi ar hyd ei hoes.  Llusgodd ei throed yn araf tuag at y wreichionen fel petai cadwynau trymion ynghlwm ynddi.  Sathrodd yn galed.  Tân. Ie, dyna’r cwbl a welai o fore gwyn tan nos.  Tân. Ei gelyn pennaf - tân.  Byddai’n ail fyw'r holl hunllefau ddegau o weithiau bob dydd ar ôl dod yn gaeth i’w chadair fawr.  Er hynny, roedd yn gwmni bron yn y cartref hwn, yn rhywbeth i gofio am ei hanwyliaid...  Trymhaodd ei amrantau.  Goleuai’r fflamau'r tywyllwch du hyd yn oed, yn gysgodion coch yn chwifio yn ei phen. Nid oedd posibl dianc...y fflamau yn felyn… yn oren… yn goch... yn ddu…
“Pen-blwydd hapus i ti, Pen-blwydd hapus i ti, Pen-blwydd hapus i Meri, Pen-blwydd hapus i ti!”  Pedair oed.   Yn doedd amser yn hedfan.  Yno yn ei llaw oedd yr anrheg pen-blwydd gorau erioed - y ddoli harddaf yn y byd i gyd. Siwsi, ei llygaid marblis glas yn serennu a’i gwallt cyrliog du yn fop ar ei phen.  Bu Meri yn treulio oriau ar y tro yn trio gwasgu rholeri gwallt ei mam-gu i’w gwallt syth hi ei hun er mwyn cael bod yn efail i’r ddol.  Methiant fu hynny bob tro gyda Meri yn diweddu yn eistedd ar y stôl gron a’i mam-gu yn tynnu’r rholeri o’r gwrych oedd wedi datblygu ar ei phen.  Ar ôl y pen-blwydd arbennig hwnnw pan gafodd Siwsi yn anrheg, roedd pob un geiniog o’i chynilion yn mynd tuag at ddillad iddi.  Pob un dime goch am dair blynedd.  Prynodd ffrog felfed, goch, laes iddi un tro, tra mai hen ffrog Jen ei chwaer a wisgai Meri. Doedd hynny yn poeni dim arni. Siwsi oedd yn dod gyntaf, y frenhines ddelaf yn y byd a braint i Meri oedd cael bod y fam frenhines falch.    
           Un direidus oedd Jac Gelli, cymydog Meri.  
“Chwarae teg iddo fo am ddod i chwara’ ‘fo ti a saith mlynedd o wahaniaeth oed,” oedd geiriau mam Meri.  Cwyno fyddai ymateb Meri, yn perswadio a phledio ar ei mhâm i beidio ag agor y drws iddo.  Bwli ydoedd yn difetha ac yn baeddu ei theganau. Jac Jiráff fyddai Meri yn ei alw gan ei fod cyn daled â’i thad a’i thaid a byddai hyn yn ei wylltio’n gacwn. Dangos ei hun oedd Jac o flaen Meri'r diwrnod hwnnw pan ddaeth draw i Lwyn Isaf gyda’i degan newydd yn ei law. Taniai Jac y matsis hirion pren fesul un, llosgi ychydig o risgl coeden cyn taflu’r fatsien yn bell i’r cae.  
Dringo’r goeden yn ddiwyd oedd Meri, yn cyrraedd hyd at hanner ffordd cyn neidio i lawr ar ei phengliniau budur.    
“Gad i ni weld pa mor uchel ma’ Siwsi yn gallu dringo Meri?” Chwarddodd Jac yn sbeitlyd.    
“Dydi tywysogesau ddim yn dringo coed Jac, y jiráff.” atebodd Meri fel mam amddiffynnol iddi.  
“Gawn ni weld, ia, pob doli’n gallu hedfan dydi?!” rhuodd Jac yn ôl arni gan afael yn wyllt yng ngwallt perffaith Siwsi oedd yn dynn o dan geseiliau Meri fach.  Methiant fu ei hymdrech oherwydd mewn dim o dro, roedd Siwsi ar y brigyn uchaf, ychydig uwch na phen Jac.  Ymestynnodd Meri’n uchel a gafael yn dynn yn y brigyn a’i ysgwyd yn gandryll ond roedd ei ymdrechion yn ofer.  
Sgrechiodd wrth weld ei ffrind pennaf, ei thywysoges hi, yn sownd wrth y gangen finiog a thwll yn ei ffrog fach, las.
“Cer i nôl hi lawr!” gwaeddodd Meri nerth esgyrn ei phen, a’i dannedd yn gwasgu’n dynn yn ei gwefus gan straen.        
“Rhy hwyr” atebodd Jac yn sbeitlyd gan fynd i’w boced er mwyn tanio matsien.  Ymestynnodd tuag at droed Siwsi ac mewn chwinciad chwannen, roedd Siwsi wedi toddi i fod yn ddim ond hylif oren a du yn gorchuddio’r dail gwyrdd.  Hylif oren a du yn gorchuddio popeth.  Ei phopeth hi yn hylif oren a du.  Rholiodd dwy farblen fach las oedd yn llygaid iddi o ganol yr hylif trwchus…clonc…cyn glanio ar fysedd ei thraed a’i llosgi.  
           Deffrodd Meri gyda naid sydyn.  Symudodd fodiau ei thraed gan wingo.  O’i blaen roedd y tân yn dal i fwydo ar y brigau pren.  Ysgwydodd ei hun gan edrych i lawr ar fysedd ei thraed gan ddisgwyl gweld y graith ond ei sliperi pinc oedd yno diolch byth...  Na, roedd popeth yr un fath, roedd hi’n ôl yn y cartref. Chwalodd ei byd yn deilchion y diwrnod hwnnw a beiodd ei mham am flynyddoedd am y drychineb.  Petai hi wedi stopio Meri rhag chwarae a Jac Gelli byddai popeth yn iawn.  Unig fu ei byd wedyn, nes cael Bob.  Ie Bob… plygodd ei phen wrth i’r atgofion lifo yn ôl.
           Bu fawr neb yn ymweld â Meri ers iddi symud i’r bwthyn yn un ar bymtheg oed, fawr ddim cwmni nes y prynodd Bob.  Roedd Bob, y ci defaid du a gwyn yn fywiog a byddai’n neidio ac yn cyfarth petai’n clywed y mymryn lleiaf o sŵn.  Meiddiai unrhyw un ddod yn agos at ei feistres ef.  Felly oedd pethau i fod, neb i amharu arnynt o fore gwyn tan nos.  Dim ond y nhw eu dau yn gwmni i’w gilydd, ac felly yr oedd pethau am flynyddoedd lawer. Anaml iawn y byddent yn gadael y bwthyn bach - i’r siop unwaith yr wythnos efallai ac yna yn ôl i’w paradwys yng nghyfeiliant sisial yr afon.  Roedd popeth yr oeddent eu hangen o fewn eu gafael, y car bach llwyd, bwyd cartref, tân cynnes a chwmni ei gilydd.  
           Wrth deithio tuag at y dref yn y car un bore oer a gwlyb o hydref, dechreuodd y câr bach dagu a phesychu, pesychu a thagu nes dod i stop ynghanol y ffordd gul.  
“Ceir, dydyn nhw yn dda i ddim i neb” cythruddodd Meri yn flin gan chwipio'r olwyn o’i blaen yn wyllt.  Cytunodd Bob gan gyfarth yn uchel.  Penderfynodd y ddau gerdded am y dref gyda’i gilydd.  
           Ar ôl prynu digon o betrol, blawd, wyau a siwgr, cychwynnodd y ddau yn ôl at y car bach llwyd ar gyrion y dref.  Bwydwyd y car efo ychydig o’r petrol ac yn fodlon eu byd, yn ôl a’r ddau am y bwthyn.  Gosodwyd y bwyd yn daclus yn y pantri mewn rhes unionsyth fel milwyr mewn byddin.  Gosodwyd y tun hanner llawn o betrol ar y llawr teils oer.  
“Pedwar owns o fenyn, pedwar owns o siwgr, pedwar owns o flawd a dau wy, ynte Bob?!” mwmiodd Meri wrth fesur ei chynhwysion cyn eu tywallt yn un llwyth i’w bowlen bren anferth.  Perffaith.  
“Cinio dydd Sul sydd heno Bob, gyda sbwng a digonedd o gwstard poeth i bwdin.” Cyfarthodd Bob yn ddeallus yn ôl arni cyn rhwbio ei ben yn ei chôl drosodd a throsodd cyn rholio ar draws ei thraed creithiog.  Rowliodd nes bod y carped brethyn yn flew du a gwyn drosto.  Neidiodd i fyny tuag at ffedog gotwm goch Meri gan ddal ei freichiau allan er mwyn dawnsio efo hi.  
“I lawr Bob, ‘dwi’n coginio a fydd y bwyd ddim yn barod am o leiaf awr arall a ninnau wedi gwastraffu gymaint o amser gyda’r car,” hisiodd Meri wrtho. Rhoddodd wthiad sydyn iddo gyda’i phenelin nes iddo lanio ar ei ochr ar ben y tun petrol.
BANG! CLEC! BANG! WWWWSH! BANG! Edrychodd Meri’n syn tuag at y tân gwyllt oedd yn rhuo, ei hymennydd yn cael trafferth derbyn y darlun brawychus o’i blaen. Dawnsiai’r fflamau yn wyllt gan ddringo yn uwch ac yn uwch at do’r bwthyn gan ddwyn mwy a mwy o eiddo Meri gyda phob symudiad.  Yn waeth na hynny, yno yn gorff ynghanol fflamau’r gannwyll oedd ei ffrind gorau, Bob. Trodd yn dalp o chwys oer.  
Doedd rhyfedd ei bod yn oer, roedd y tân agored o’i blaen wedi marw.  Marw. Tân.  Marw.  Tân. Dyma ni yn ôl yng nghanol y cylch dieflig unwaith eto, yr hunllefau yn ei thynnu’n ei hôl i ail-fyw'r daith yn ddyddiol.  Bob yfory'r un fath.  Caeodd ei llygaid a gobeithio am amser lle y gallai ddarganfod ffordd allan o waelod y llethr serth hwnnw o anobaith a rhoi cam tuag at dawelwch meddwl pur.  Ie, roedd bywyd fel cwm, i lawr ac yna aros ar waelod y llethr, yn ddiarwybod i neb pryd fyddai’r gwastadir yn dod i ben cyn y byddai’r ddaear yn codi’n falch eto.  Gobeithiodd am yfory gwell..    
“’Dwi’n nôôôl!” Atseiniodd llais Non trwy’r drws agored.  “Mai ‘di oeri yma Mysus Jones, does ‘na ‘m rhyfedd eich bod chi’n crynu! Fe a’i nôl mwy o frigau i losgi rŵan! Fyddwch chi’n gynnas fatha tost wedyn.”  
Plygodd Meri ei phen mewn anobaith llwyr. Roedd yfory wedi cyrraedd ac roedd wedi cael digon.  
0 notes
danicymru · 4 years
Audio
(Dani Thomas)
0 notes
pontiobangor · 3 years
Text
Cartref a Chynefin
Mae canolfannau celfyddydau tair prifysgol yng Nghymru yn cyhoeddi Prif Artist a Phrif Gynhyrchydd ar gyfer eu prosiect uchelgeisiol Cartref a Chynefin.
Mae canolfannau celfyddydau tair prifysgol yng Nghymru - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth), Celfyddydau Pontio (Prifysgol Bangor) a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin (Prifysgol Abertawe) - wedi dod at ei gilydd i ymgymryd â phrosiect creadigol cymundeol ar raddfa fawr - Cartref a Chynefin. Cyhoeddwyd heddiw y bydd Mathilde Lopez a Cath Sherrell yn ymuno â’r prosiect fel prif artist a phrif gynhyrchydd.
Tumblr media
Mae’r Brif artist, Mathilde Lopez, yn aelod sefydlu National Theatre Wales. Mae’n gyfarwyddwraig lawrydd ac yn sefydlydd a chyfarwyddwraig artistig August 012. Mae’n dderbynnydd Gwobr Cymru Greadigol mewn cyfarwyddo opera ac mae’n darlithio’n rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Wrth ystyried gweledigaeth y prosiect, dywed Mathilde, “Yn yr ychydig o flynyddoedd diwethaf mae’r hyn yr oeddem yn ystyried fel cartref, fel lle diogel a chyfarwydd, wedi troi’n gynefin. Yn ystod y cyfnodau clo cawsom ein cyfyngu i’n lolfeydd ein hunain, i’n cyfrifiaduron, ac yno, wedi’n hysgwyd gan yr ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys a’r dystiolaeth glir am hiliaeth a rhywiaeth yn ddwfn yn ein cymdeithas, buom yn byw heb bobl, gyda cholled pobl. Ac yn ein cartrefi, oedd eisoes wedi troi’n wyllt, dechreuem sylweddoli y buom yn cydfyw â rhyw hanfod anhysbys arall, anghenfil: ni ein hunain.”
Tumblr media
Mae’r Prif Gynhyrchydd, Cath Sherrell, ar hyn o bryd yn Asiant Greadigol ac yn Gydweithwraig Gelfyddydol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a daw hi â’i phrofiad helaeth yn y celfyddydau cymunedol i gefnogi amcanion y prosiect. Yn angerddol ynglyn â’r Celfyddydau a Chynhwysiant, mae hi wedi trefnu llawer o brosiectau celfyddydol ar raddfa fawr. ‘Roedd Cath yn Swyddog Addysg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae’n adfocad brwd dros y Celfyddydau ehangach yng Nghymru.
Dywed Cath, “’Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r prosiect hwn, ac mae’n gyffrous iawn y bydd y gwaith yn digwydd mewn tri gwahanol leoliad, gyda phob un yn recriwtio eu tîm o artistiaid a grwpiau cyfranogol eu hunain er mwyn dod â nhw at ei gilydd i greu ar y cyd. Mae Mathilde wedi datblygu’r weledigeth ar gyfer y prosiect cyfan. ‘Does gennym ddim syniad ar hyn o bryd beth fydd y canlyniadau yn y pendraw ac mi fydd yn hynod ddiddorol i weld sut mae pethau’n datblygu ac yn cymryd siâp.”
Mae Mathilde a Cath yn gofyn Pwy ydym ni? Beth yw gwlad? Beth sy’n ein clymu at ein gilydd? Y tir? Yr iaith? Cerdd? Cân? Gwrthrych? Bydd y prosiect yn ymwneud â ffeindio amser a thosturi ar gyfer ein hanghenfilod, croesawu gwesteion nad ydym eu heisiau, a threulio amser gyda phobl wahanol, pobl efallai ein bod yn cytuno neu ddim yn cytuno â nhw.
Dywedodd Dafydd Rhys, cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth “’Rwyf wrth fy modd ein bod wedi denu Prif Artist a Phrif Gynhyrchydd mor wych ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. Yn eu dwylo profiadol nhw, ‘rwy’n hyderus y byddwn yn gwireddu prosiect trawiadol ac ystyrlon a fydd yn gadael llawer o atgofion gwerthfawr yn ei sgil.”
Dywedodd Simon Coates, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Taliesin, “Mae’n bleser mawr gennym wneud y cyhoeddiad hwn heddiw wrth i’r prosiect ddechrau cymryd siâp trwy’r penodiadau hyn. Mae gweledigaeth Mathilde a Cath ar gyfer ymarfer cynhwysol yn hollbwysig i’r ffordd y buom yn dychmygu’r gwaith hwn.”
Dywedodd Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio, “Mae Cartref a Chynefin wedi bod yn themâu mwy perthnasol nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i’r pandemig ein cyfyngu i’n cartrefi a’n hardaloedd lleol ar wahanol adegau. Mae hyn wedi gwneud i ni edrych ar ein hamgylcheddau lleol trwy lens wahanol. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio’n ddyfnach syniadau ynglyn â’n cynefin a’n cymunedau, y byd naturiol a’n cymdogion - beth yw’r gwahaniaethau rhyngddom a’r hyn sy’n ein clymu. Dyma brosiect sy’n cynnwys cymunedau lleol, myfyrwyr prifysgol, academyddion ac artistiaid llawrydd - mi fydd yn gyffrous iawn i brofi canlyniadau’r ymchwiliad hwn!”
Cynhelir Cartref a Chynefin yn Aberystwyth, Bangor ac Abertawe lle bydd tri thîm gwahanol o artistiaid a chynhyrchwyr yn gweithio ar y cyd. Daw’r prosiect i ben gyda digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, wedi eu creu mewn lleoliadau penodol gan y bobl sy’n byw yno.
0 notes
glyngoll · 5 years
Photo
Tumblr media
HARD MAN GLYN. Darlun gan Tegid o 2007 #attictreasure #memories #atgofion #caricature #hardman (at Roath, Cardiff, United Kingdom) https://www.instagram.com/p/B-PKOpspKKN/?igshid=1nto1tqjry4l4
0 notes
wcva · 5 years
Text
Beth mae treftadaeth yn ei olygu i chi?
Tumblr media
Gyda'n prosiect newydd Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn bellach yn cymryd ymgeisiadau, mae Rheolwr Prosiect Catalydd Alison Pritchard yn gofyn tybed beth mae treftadaeth yn ei olygu i ni. 
Mae'n deg dweud pan mae rhywun yn meddwl am dreftadaeth, mae'n debyg mai'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw rhyw fath o gastell neu adeilad hanesyddol (yn enwedig yng Nghymru lle mae mwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop). 
Yng ngoleuni'r ffaith bod ein prosiect newydd sbon Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn cael ei lansio eleni, gofynnais i'm cydweithwyr newydd yn CGGC beth oedd eu dealltwriaeth o dreftadaeth Cymru a beth mae'n ei olygu iddyn nhw. 
Ymwelwyr 
Yn gyntaf, yr ochr fwy 'twristaidd' i Dreftadaeth Cymru; ei thraethau, ei mynyddoedd, ei bryniau a'i haberoedd godidog - mae yna ardal o harddwch naturiol eithriadol o amgylch pob cornel (ac efallai hyd yn oed rhywfaint o fywyd gwyllt prin hefyd). 
Heb anghofio'r eglwysi, yr abatai (ac olion abatai), y cestyll (ac olion cestyll) enwog, a hanes hir gyda chysylltiadau â llinach y Tuduriaid, Owain Glyndŵr, y Cylch Haearn...does ryfedd bod twristiaid yn heidio i Gymru bob blwyddyn. 
Diwylliant 
Er bod y twristiaid yn gadael gyda gwybodaeth am ein tirwedd, gobeithio y cânt gipolwg hefyd ar hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.
Mae'r Eisteddfod flynyddol (lle y cawsom lawer o hwyl eleni - welsoch chi ni?) yn denu miloedd o bedwar ban byd i ddathlu ein diwylliant a'n hiaith. 
Mae'r Eisteddfod hefyd yn faes y gad i gorau enwog Cymru - er  bod y frwydr weithiau rhwng y corau a'r gynulleidfa - ac mae'r Cymry wrth eu bodd yn cael cyfle i ganu. 
Gweler: rygbi. 
Yn olaf, mae danteithion hyfryd o Gymru wedi cyffwrdd â chalonnau pobl ledled y byd (yn eithaf dwys mewn rhai achosion) ynghyd â'i beirdd, ei hactorion a'i hartistiaid. 
Amrywiaeth 
Wrth gwrs, mae hanes llai adnabyddus am y bobl sydd wedi dod i Gymru dros y canrifoedd, ac wedi helpu i lunio Cymru fodern, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
Y gymuned Eidalaidd a sefydlwyd yng Nghasnewydd a Morgannwg (fel yr oedd) yn y 18fed ganrif
Datblygiad Tiger Bay a Butetown yn gymuned brysur o bobl o wahanol gefndiroedd ac ethnigrwydd
Dylanwad Lerpwl ar Ogledd Cymru. 
Gwneud gwahaniaeth 
Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, pan fydd pobl yng Nghymru eisiau i rywbeth newid, dydyn nhw ddim yn gwastraffu dim amser cyn dod at ei gilydd a gwneud i hynny ddigwydd. 
Edrychwch ar grwpiau fel Siartwyr Gwrthryfel Casnewydd, a'r glowyr yn ystod streiciau 84-85... neu sefydliadau fel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a greodd ffordd newydd i bobl gefnogi iechyd ei gilydd a dod yn fodel ar gyfer y GIG heddiw. 
Ac mae hyn yn dal i fod yn amlwg yn y cannoedd o elusennau, grwpiau cymunedol, a chlybiau rydyn ni'n eu cefnogi bob dydd. 
'Bach iawn ar ein pen ein hunain' 
Ond beth mae'r uchod yn ei ddweud wrthym? Yn amlwg nid un peth yw treftadaeth - mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. 
Rhannodd un cydweithiwr y diffiniad hwn gyda mi: 
'I mi, mae deall 'treftadaeth' yn golygu deall bod pobl wedi bod yn yr union leoedd rydych chi ynddyn nhw ers oes Adda, a bydd gan bobl y dyfodol eu problemau eu hunain a materion di-nod ac o ran y darlun mawr, rydyn ni'n fach iawn ar ein pen ein hunain.' 
Ynglŷn â Catalydd Cymru 
Mae Catalydd Cymru ar gael i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru sy'n gweithio yn y maes treftadaeth. Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n diffinio treftadaeth fel a ganlyn:
Adeiladau a henebion hanesyddol
Natur a Thirweddau (gerddi hanesyddol, bywyd gwyllt, coetir)
Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth 
Amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau
Treftadaeth anniriaethol (megis cadw atgofion, neu brosiectau hanes llafar)
Treftadaeth Gymunedol
Os yw prif weithgareddau elusennol eich sefydliad yn dod o dan unrhyw un o'r uchod, gallech elwa o gymryd rhan yn unrhyw un o weithgareddau Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.
0 notes
soniaaristo · 5 years
Text
Menywod fu'n y carchar dros yr iaith
Menywod fu’n y carchar dros yr iaith
https://ift.tt/eA8V8J Straeon ac atgofion rai o’r menywod fu’n ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg am eu cyfnod mewn carchar
Brought to you by BBC. Fead more: https://ift.tt/2NeyrU6
* * * * * Breaking news, sport, TV, radio and a whole lot more. The BBC informs, educates and entertains – wherever you are, whatever your age. https://www.bbc.com/
View On WordPress
0 notes
yriaithcymraeg · 6 years
Text
Cysgu
 - Breuddwydiau
Yr gorffenol
atgofion - memories
SCHOOL
ADJECTIVES
Describe quality, perdonality, feelings, intense etc. strict [nature of something]
Completley [hollol], generally [yn cyffredinol]
A D B E R F A U
1. A M S E R
Tumblr media
2. A M L D E R
Tumblr media
3. L L E
Tumblr media
2. MAINT
3. ANSAWDD
yn enwedig
lately, recently - yn ddiweddar
generally - yn cyffredinol
0 notes